Internal Applicants Only - Finance Data Specialist presso Cardiff University
Cardiff University · Cardiff, Regno Unito · Onsite
- Professional
- Ufficio in Cardiff
Hysbyseb
Ymgeiswyr Mewnol yn Unig – Arbenigwr Data Cyllid
Cefnogi'r Brifysgol ym maes cyllid gan wneud gwaith cefnogol, rhoi cyngor, arweiniad a chymorth, ac arwain prosiectau yn y maes hwn.
Mae'r swydd hon yn rhan-amser (17.5 awr per wythnos) ac am gyfnod penodol, hyd nes fis Medi 2026.
Cyflog: £33,951 – £36,636 y flwyddyn, pro-rata (Gradd 5)
Dyddiad cu: Dydd Iau, 16 Hydref 2025
Nid yw ceisiadau allanol yn cael eu hystyried ar gyfer y swydd hon ar hyn o bryd. Os penderfynir agor y swydd i ymgeiswyr allanol, bydd yr isbennawd ar y brig yn cael ei thynnu a rhoddir digon o amser i chi wneud cais - cadwch olwg ar y dudalen am fanylion.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o gefndiroedd gwahanol sydd â’r uchelgais i greu Prifysgol sy’n ceisio cyflawni ei rhwymedigaeth gymdeithasol, ddiwylliannol ac economaidd i Gaerdydd, Cymru a’r byd. Er mwyn helpu ein cyflogeion i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywyd personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu’r swydd neu weithio'n hyblyg.
Mae modd cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg, ac ni chaiff y rhain eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy’n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Disgrifiad Swydd
- Rhoi cyngor ac arweiniad proffesiynol ar brosesau a gweithdrefnau cyllid i gwsmeriaid mewnol ac allanol, gan ddefnyddio synnwyr cyffredin a bod yn greadigol wrth awgrymu'r camau gweithredu mwyaf priodol pan fo'n briodol, a gwneud yn siŵr bod materion cymhleth a chysyniadol yn cael eu deall
- Ymchwilio a dadansoddi problemau penodol sy'n ymwneud â chyllid, gan greu adroddiadau ag argymhellion, a gefnogir gan ddatblygiadau ym maes cyllid
- Gwneud yn siŵr bod gwasanaethau cyllid yn cael eu darparu ar gyfer y sefydliad, yn ogystal â newid yr hyn a gaiff ei ddarparu yn unol â gofynion y cwsmer
- Cydweithio ag eraill i lunio argymhellion i ddatblygu prosesau a gweithdrefnau sydd eisoes wedi’u sefydlu
- Sefydlu perthynas waith ag enwau cyswllt allweddol, gan ddatblygu cysylltiadau cyfathrebu addas ag Ysgolion/Cyfarwyddiaethau’r Brifysgol a chyrff allanol yn ôl yr angen
- Creu gweithgorau penodol o blith cydweithwyr ar draws y Brifysgol i gyflawni amcanion o ran cyllid
- Goruchwylio timau prosiect penodol o bryd i'w gilydd i gyflawni amcanion allweddol
- Datblygu a chyflwyno hyfforddiant ym maes cyllid
- Ymgymryd ag ystod o ddyletswyddau gweinyddol i gefnogi'r adran
- Cyfarwyddo ac arwain gweithwyr eraill ar draws y Brifysgol ym maes cyllid yn ôl y gofyn
- Sicrhau eich bod yn deall pwysigrwydd cyfrinachedd wrth ymgymryd â'r holl ddyletswyddau
- Cadw at bolisïau’r Brifysgol ar Iechyd a Diogelwch a Chydraddoldeb ac Amrywiaeth
- Cyflawni dyletswyddau eraill o bryd i'w gilydd nad ydynt wedi’u nodi uchod ond sy’n cyd-fynd â gofynion y swydd
Uchafswm y Cyflog
Gradd
Isafswm y Cyflog
Categori Swyddi
Llwybr Gyrfa
Manyleb Unigolyn
Cymwysterau ac Addysg
- Gradd/NVQ 4 a chymhwyster mewn cyfrifeg neu gymhwyster rhannol, neu aelodaeth o gorff proffesiynol/profiad proffesiynol cyfatebol
- Dealltwriaeth dda o gyfrifeg, prosesau ac adrodd ariannol
- Profiad o reoli data
- Profiad mewn meysydd a gweithgareddau swyddogaethol niferus ym maes cyllid e.e. Cyfrifeg a Rheolaeth Ariannol, Cynllunio a Dadansoddi Ariannol, cyfnod cau diwedd y mis ac adroddiadau rheoli
- Gallu cyfleu gwybodaeth gysyniadol fanwl a chymhleth yn effeithiol ac yn broffesiynol gydag amrywiaeth eang o bobl, gan gynnwys staff nad ydynt yn gweithio ym maes cyllid
- Tystiolaeth o’r gallu i ystyried anghenion cwsmeriaid ac addasu'r gwasanaeth yn unol â hynny er mwyn darparu gwasanaeth o safon
- Tystiolaeth o’r gallu i ddatrys problemau sylweddol drwy gymryd y cam cyntaf a bod yn greadigol; adnabod a chynnig atebion ymarferol a datrys problemau sydd ag ystod o ganlyniadau posibl
- Tystiolaeth o allu cynnal a chyflwyno prosiectau penodol yn ogystal â goruchwylio timau prosiect rhithwir tymor byr
- Tystiolaeth o’r gallu i weithio heb oruchwyliaeth gan gadw at derfynau amser, cynllunio a phennu blaenoriaethau ar gyfer eich gwaith eich hun a gwaith pobl eraill, a monitro’r cynnydd.
- Parodrwydd i hyfforddi a datblygu ymhellach.
- Profiad o system ariannol Oracle
- Gwybodaeth a phrofiad o lywodraethu data a rheoli ansawdd data
- Profiad o weithio ym maes Addysg Uwch
- Rhuglder yn y Gymraeg, yn ysgrifenedig ac ar lafar.