Platzhalter Bild

Internal Only - Lecturer in Diagnostic Radiography & Imaging presso Cardiff University

Cardiff University · Cardiff, Regno Unito · Onsite

£41,064.00  -  £56,535.00

Candidarsi ora

Hysbyseb

Mae'r swydd hon ar agor i weithwyr Prifysgol Caerdydd yn unig ar hyn o bryd.  Peidiwch ymgeisio os nad oes ganddoch gytundeb cyflogaeth ddilys gyda’r brifysgol.

Ymgeiswyr Mewnol yn Unig - Darlithydd mewn Radiograffeg a Delweddu Diagnostig  

 
Rydym yn chwilio am Ddarlithydd amser llawn i ymuno â’r tîm Radiograffeg a Delweddu Diagnostig yn Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd. 

Yn y swydd hon, byddwch yn cael cefnogaeth i gynnig addysg o ansawdd uchel a byddwch yn cyfrannu at ddatblygiad ein rhaglenni addysg. Byddwch yn cefnogi myfyrwyr i ddatblygu sgiliau allweddol ar lefelau israddedig a/neu ôl-raddedig, a gall hyn gynnwys ymweld â myfyrwyr sydd ar leoliadau clinigol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn anelu at gyflawni rhagoriaeth wrth addysgu ac mewn ysgolheictod neu ymchwil. 

Rydym yn chwilio am unigolyn sydd â brwdfrydedd dros addysg arloesol sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr. Dylech fod yn drefnus, yn gydweithredol, ac yn meddu ar rinweddau arweinyddiaeth. Dylai ymgeiswyr feddu ar radd ôl-raddedig ar lefel PhD mewn pwnc perthnasol, a bod â phrofiad clinigol perthnasol. Bydd gofyn cael tystysgrif cofnod troseddol fanwl. 

Yn rhan o’u cyfnod prawf, bydd unigolion yn cael cefnogaeth i gymryd rhan yn rhaglenni Cymrodoriaethau Addysg Prifysgol Caerdydd. Ar ddiwedd y rhaglen, byddwch yn cael eich achredu’n Gymrawd.  
  
I wneud ymholiadau cyfrinachol ac anffurfiol am y swydd wag hon, cysylltwch â Charlotte Hodges, Pennaeth y Rhaglen, Radiograffeg a Delweddu Diagnostig, [email protected]  
  
Cynigir y swydd hon ar Radd 6 neu Radd 7. Mae’n swydd amser llawn (35 awr yr wythnos) ac yn benagored. Bydd deiliad y swydd yn gweithio ym Mharc y Mynydd Bychan.
  
Wrth wneud cais am y swydd hon, nodwch y Radd yr hoffech wneud cais amdani.  

Cyflog: £41,064 – £46,049 y flwyddyn (Gradd 6) neu £51,753 – £56,535 y flwyddyn (Gradd 7) 
Fel arfer, bydd pobl a benodir ym Mhrifysgol Caerdydd yn dechrau ar waelod y raddfa gyflog, heblaw o dan amgylchiadau eithriadol. 

Dyddiad cau: Dydd Iau, 23 Hydref 2025

Nid yw ceisiadau allanol yn cael eu hystyried ar gyfer y swydd hon ar hyn o bryd.  Os penderfynir agor y swydd i ymgeiswyr allanol, bydd yr isbennawd ar y brig yn cael ei thynnu a rhoddir digon o amser i chi wneud cais - cadwch olwg ar y dudalen am fanylion.


Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol.  Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran.  Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywyd personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu’r swydd. 
 
Mae modd cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg, ac ni chaiff y rhain eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy’n cael eu cyflwyno yn Saesneg. 

Disgrifiad Swydd

DIBEN Y SWYDD  

Ymgymryd â llwyth addysgu llawn, gan gynnwys datblygu, cyflwyno a gwerthuso modiwlau/rhaglenni yn rhan o ddarpariaeth israddedig ac ôl-raddedig yr Ysgol. Bydd yn cefnogi myfyrwyr drwy'r system tiwtor personol, yn goruchwylio prosiectau ymchwil myfyrwyr ac yn cyflawni dyletswyddau gweinyddol o fewn y maes gwaith yn ôl yr angen. Ceisio cyflawni rhagoriaeth mewn addysgu ac ysgolheictod, ac ysbrydoli eraill i wneud yr un fath. 
 
Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau  

Addysgu 
  • Cynllunio ac addysgu ar yr ystod o raglenni Radiograffeg a Delweddu Diagnostig ar lefel israddedig ac ôl-raddedig, a chyfrannu at ddatblygu modiwlau ar raglenni perthnasol eraill yn rhan o’r tîm modiwlau 

    Gradd 7: cyfrannu’n annibynnol at ddatblygu modiwlau a chyrsiau, ac arwain modiwlau 
  • Ysbrydoli myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig o dan arweiniad mentor / arweinydd modiwlau, a meithrin sgiliau asesu a rhoi adborth adeiladol i fyfyrwyr.         
  • Goruchwylio gwaith myfyrwyr, gan gynnwys goruchwylio myfyrwyr israddedig a myfyrwyr gradd meistr, yn ogystal â chyd-oruchwylio myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig. 
     
    Gradd 7: Bod yn aelod o banel adolygu cynnydd ymchwilwyr ôl-raddedig yn ôl yr angen 
  • Rhoi gofal bugeiliol drwy fod yn Diwtor Personol a chynnig cefnogaeth ac arweiniad i fyfyrwyr, gan feithrin a sefydlu ymddiriedaeth. 
Ysgolheictod 
  • Cyfrannu at ysgolheictod yn y maes gwaith drwy gymryd rhan mewn cynadleddau, seminarau a fforymau academaidd a phroffesiynol eraill er mwyn rhannu canlyniadau ysgolheictod unigol.  
  • Cymryd rhan mewn gweithgarwch ysgolheigaidd drwy ysgrifennu erthyglau mewn cyfnodolion a/neu allbwn sy’n ehangu gwybodaeth yn y maes gwaith 
  • Cyfrannu at ysgolheictod drwy waith rhyngddisgyblaethol gydag unigolion a thimau yng nghymuned ehangach y Brifysgol a thu hwnt iddi 
  • Cyflawni mathau eraill o ysgolheictod gan gynnwys gwaith sy’n gysylltiedig ag arholiadau (gosod a marcio’r papur a rhoi adborth adeiladol i fyfyrwyr), gweinyddu a chymryd rhan mewn gwaith pwyllgora 
Arall 
  • Ymgysylltu’n effeithiol â chyrff diwydiannol, masnachol a sector cyhoeddus, sefydliadau proffesiynol, sefydliadau academaidd eraill, ac ati. Bydd angen gwneud hyn yn rhanbarthol ac yn genedlaethol i godi proffil yr Ysgol, i feithrin partneriaethau strategol gwerthfawr, ac i chwilio am gyfleoedd i gydweithio ar draws amrywiaeth o weithgareddau. Bydd disgwyl i’r gweithgareddau hyn gyfrannu at yr Ysgol a gwella ei phroffil rhanbarthol a chenedlaethol. 
  • Datblygu’n bersonol ac yn broffesiynol mewn ffyrdd addas fydd yn gwella eich perfformiad fel Darlithydd. 
  • Mentora cydweithwyr llai profiadol a rhoi cyngor ynglŷn â datblygiad personol 
  • Cymryd rhan yng ngweinyddiaeth a gweithgarwch yr Ysgol er mwyn hyrwyddo'r Ysgol a'i gwaith yn y Brifysgol a thu hwnt 
  • Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill nad ydynt wedi’u nodi uchod ond sy’n cyd-fynd â gofynion y swydd. 

Uchafswm y Cyflog

56,535

Gradd

Gradd 6

Isafswm y Cyflog

41,064

Categori Swyddi

Academaidd- Addysgu ac Ysgolheictod

Gwybodaeth Ychwanegol


Mae Prifysgol Caerdydd yn brifysgol uchelgeisiol ac arloesol gyda gweledigaeth feiddgar a strategol Ein dyfodol, gyda'n gilydd - Ynglŷn â - Prifysgol Caerdydd ac mae wedi'i lleoli ym mhrifddinas hardd a ffyniannus Cymru.
 
Mae Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd wedi'i lleoli ar gampws y Waun ochr yn ochr â'r Ysgolion Meddygaeth a Deintyddiaeth ac mae'n rhannu'r safle gydag Ysbyty Prifysgol Cymru, gan ddod â thimau addysg, ymchwil a chlinigol ynghyd. Mae'r Ysgol yn darparu rhaglenni cyn-gofrestru ar gyfer Nyrsio Oedolion, Plant ac Iechyd Meddwl, Bydwreigiaeth, Ffisiotherapi, Therapi Galwedigaethol, Radiograffeg a Delweddu Diagnostig a Radiotherapi ac Oncoleg. Mae ganddi raglenni ôl-raddedig amlddisgyblaethol a addysgir ac ymchwil.
Mae'r Ysgol yn hyrwyddo iechyd a lles drwy addysg ac ymchwil o'r radd flaenaf. Mae ein darpariaeth amlddisgyblaethol yn sicrhau bod ein myfyrwyr yn dod yn weithwyr gofal iechyd proffesiynol medrus ac arloesol sy'n ymrwymedig i ethos o ofal sy'n seiliedig ar dystiolaeth ledled y DU a ledled y byd. Mae gan ein portffolio o ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol gymhwysol effaith glinigol uniongyrchol, gyda chryfderau penodol mewn iechyd meddwl, canser ac adsefydlu a gweithgaredd corfforol.

Mae gennym ddull cydweithredol cryf o weithio gydag Ysgolion eraill yng Ngholeg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd ac ar draws y Brifysgol gyfan. Mae'r Coleg yn ffurfio amgylchedd delfrydol ar gyfer ymchwil iechyd a biolegol gyda chwe chryfder ymchwil thematig sy'n cwmpasu Canser; Bioleg Datblygiad ac Adfywiol; Haint, Llid ac Imiwnedd; Mecanweithiau Systemau Byw; Meddwl, Ymennydd a Niwrowyddoniaeth ac Iechyd y Boblogaeth.

Llwybr Gyrfa

Addysgu ac Ysgolheictod

Manyleb Unigolyn

Meini Prawf Hanfodol
 
Cymwysterau ac Addysg  
  1. Gradd ôl-raddedig ar lefel PhD neu uwch mewn maes pwnc cysylltiedig a chymhwyster cofrestradwy mewn Radiograffeg a Delweddu Diagnostig. 
Gradd 7: Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Dysgu ac Addysgu yn y Brifysgol neu gymhwyster cyfatebol neu brofiad perthnasol.  

Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad  
  1. Profiad o addysgu israddedigion/ôl-raddedigion (a allai gynnwys eu helpu i ddysgu drwy ymarfer) - Profiad sylweddol ar Radd 7 
Gradd 7: Enw da cynyddol yn genedlaethol yn y maes academaidd 
  1. Dangos gwybodaeth arbenigol a dealltwriaeth o ddatblygiadau cyfredol, gan ledaenu gwybodaeth a dealltwriaeth o’r fath yn y proffesiwn Therapi Galwedigaethol 
  1. Y gallu i gynllunio a chyflwyno modiwlau sy’n rhan o raglenni addysgu’r ysgol, gan gynnwys eu datblygu’n barhaus, neu dystiolaeth o ddefnyddio sgiliau tebyg yn ymarferol 
Sgiliau Bugeiliol, Cyfathrebu a Gweithio’n Rhan o Dîm 
  1. Sgiliau cyfathrebu rhagorol a’r gallu i gyflwyno syniadau cymhleth a chysyniadol yn eglur ac yn hyderus i eraill drwy ddefnyddio sgiliau o’r radd flaenaf ac ystod o gyfryngau 
  1. Y gallu i roi cymorth bugeiliol priodol i fyfyrwyr, gwerthfawrogi anghenion ac amgylchiadau myfyrwyr unigol a bod yn diwtor personol iddynt. 
Gradd 7 – Y gallu i arwain modiwlau a chydlynu gydag eraill i ddiwallu anghenion myfyrwyr a bodloni eu disgwyliadau. 

Arall 
  1. Gallu dangos tystiolaeth o greadigrwydd, arloesedd a gwaith tîm yn y gwaith.  
Meini Prawf Dymunol  
  1. Cymhwyster/cymwysterau proffesiynol perthnasol 
  1. Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Dysgu ac Addysgu yn y Brifysgol neu gymhwyster cyfatebol neu brofiad perthnasol. 
  1. Y gallu diamheuol i weithio heb oruchwyliaeth fanwl. 
  1.  Gallu diamheuol i addasu i ofynion newidiol sefydliad  
  1. Parodrwydd i ysgwyddo cyfrifoldeb dros waith gweinyddol academaidd 
Candidarsi ora

Altri lavori