Platzhalter Bild

Internal Applicants Only - Senior Executive Officer chez Cardiff University

Cardiff University · Cardiff, Royaume-Uni · Onsite

41 064,00 £GB  -  46 049,00 £GB

Postuler maintenant

Hysbyseb

Nodwch fod y swydd hon yn agored yn unig i aelodau o staff Prifysgol Caerdydd sy'n gymwys i adleoli

Adleoli Mewnol yn Unig – Uwch-swyddog Gweithredol


Mae cyfle cyffrous wedi codi yn yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio i Uwch-swyddog Gweithredol ymuno â ni. Bydd deiliad y swydd hon yn arwain ac yn rheoli timau o staff yn y Gwasanaethau Proffesiynol sy'n gyfrifol am yr addysg a ddarperir gan yr Ysgol. Bydd yn goruchwylio’r gwaith o ddatblygu rhaglenni a addysgir yn yr Ysgol, gan gynnwys prosesau ansawdd a phrofiad y myfyrwyr.

Mae'r swydd yn rhan o Uwch-dîm y Gwasanaethau Proffesiynol yn yr Ysgol, a bydd deiliad y swydd yn rhoi cymorth strategol, cymorth cynllunio a chymorth dadansoddi arbenigol i Reolwr yr Ysgol. Bydd hefyd yn goruchwylio’r holl raglenni a phrofiad y myfyrwyr.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am weithio’n rhan o wasanaethau addysg, gan gynnig arweinyddiaeth arbenigol. Bydd gofyn iddo ymgysylltu'n effeithiol a gweithio ar y cyd â thimau academaidd a thimau’r Gwasanaethau Proffesiynol, gan weithio’n agos gyda Chyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu’r Ysgol, Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol a chydweithwyr yn y Brifysgol ehangach.

Swydd 35 awr yr wythnos am gyfnod penodol o 12 mis yw hon oherwydd absenoldeb ymhlith y staff.
Dyddiad cychwyn i'w gadarnhau (Ionawr 2026 i'w gadarnhau).

Cyflog: £41,064 hyd at £46,049 y flwyddyn (Gradd 6), gyda phedwar cynyddran blynyddol hyd at £46,049 y flwyddyn (y cyflog terfynol ar frig y raddfa gyflog) – fel arfer, bydd staff newydd yn dechrau ar waelod y raddfa gyflog

Ar gyfer cwestiynau anffurfiol, e-bostiwch [email protected] neu Delyth Jones ([email protected]).

Polisi’r Brifysgol yw defnyddio manyleb yr unigolyn yn adnodd allweddol wrth lunio’r rhestr fer. Dylai ymgeiswyr ddangos tystiolaeth eu bod yn bodloni POB UN o’r meini prawf hanfodol, yn ogystal â’r rhai dymunol lle bo’n berthnasol. Yn rhan o’r broses ymgeisio, gofynnir i chi gyflwyno’r dystiolaeth hon ar ffurf datganiad ategol.  Sicrhewch fod y dystiolaeth rydych yn ei rhoi’n cyfateb i'r meini prawf sydd wedi'u rhifo isod. Byddwn yn ystyried eich cais ar sail y wybodaeth a roddwyd o dan bob elfen.

Wrth atodi’r datganiad ategol i’ch cais, cofiwch roi cyfeirnod y swydd wag yn nheitl y ddogfen.

Dyddiad cau: Dydd Mercher, 5 Tachwedd 2025

Mae modd cyflwyno cais yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol.  Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran.  Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywyd personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu’r swydd.

Disgrifiad Swydd

Diben y swydd yw helpu'r Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu yn yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio i ddarparu addysg a sicrhau ansawdd academaidd. Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am sicrhau bod y timau addysg (israddedig ac ôl-raddedig) yn darparu eu holl wasanaethau’n effeithiol ac yn effeithlon, gan oruchwylio sut mae rhaglenni a addysgir yn yr Ysgol yn cael eu rhoi ar waith a’u datblygu, rhoi cyngor, arweiniad a chymorth ac arwain prosiectau yn y maes hwn.

Prif Ddyletswyddau
  • Arwain a rheoli’r Tîm Gwasanaethau i Fyfyrwyr, gan sicrhau bod gwasanaethau cymorth academaidd yn cael eu darparu i safon uchel.
  • Gweithio’n agos gyda Rheolwr yr Ysgol i roi strategaethau gweithredol ar waith a sicrhau eu bod yn cyd-fynd â nodau’r Ysgol a’r Brifysgol.
  • Cyfrannu at y gwaith o reoli’r Ysgol yn y tymor hir drwy droi blaenoriaethau strategol yn gynlluniau gweithredol.
  • Goruchwylio’r gwaith o ddatblygu, adolygu a chymeradwyo rhaglenni israddedig ac ôl-raddedig.
  • Sicrhau bod systemau da ar waith ar gyfer monitro ansawdd, gwneud gwelliannau a chydymffurfio â rheoliadau’r Brifysgol.
  • Rheoli prosesau cylch bywyd y myfyriwr, gan gynnwys y broses recriwtio, y broses ymrestru, asesiadau, dilyniant, dyfarniadau a gweithgareddau astudio dramor.
  • Cydlynu amserlenni, cofnodion myfyrwyr a gwaith rheoli achosion, gan fod yn swyddog ymchwilio ar gyfer cwynion ac achosion myfyrwyr.
  • Rhoi cyngor arbenigol i arweinwyr academaidd ar ddatblygu polisïau a’u rhoi ar waith.
  • Mynd i gyfarfodydd pwyllgorau’r Ysgol a’r Brifysgol a chyfrannu atynt, gan ddylanwadu ar benderfyniadau ynghylch dysgu ac addysgu.
  • Paratoi a dosbarthu adroddiadau rheoli a data i ddylanwadu ar benderfyniadau a chefnogi adolygiadau sefydliadol.
  • Arwain, ysgogi a chefnogi aelodau’r tîm, gan oruchwylio hyfforddiant ymsefydlu, dulliau o ddosbarthu gwaith, adolygiadau o ddatblygiad a pherfformiad ac anghenion o ran hyfforddiant.
  • Meithrin diwylliant o welliant parhaus, cydweithrediad a datblygiad proffesiynol
  • Helpu aelodau’r tîm i ymdrin â phryderon am les, gan uwchgyfeirio’r rhain yn briodol i wasanaethau arbenigol.
  • Cysylltu â gwasanaethau canolog a gwasanaethau’r Coleg i ddatrys materion a sicrhau cydweithio effeithiol.
  • Rhoi gwybod i’r Byrddau Astudio a grwpiau perthnasol y Coleg/y Brifysgol am newidiadau yn y rhaglenni.
  • Sicrhau bod arferion gweinyddu myfyrwyr yn cydymffurfio â rheoliadau’r Brifysgol a gofynion allanol.
  • Bod yn bwynt cyswllt ar gyfer uwchgyfeirio problemau cymhleth myfyrwyr, gan sicrhau eu bod yn cael eu datrys yn brydlon mewn ffordd sy’n cydymffurfio.
  • Casglu, dadansoddi a chyflwyno adroddiadau ar ddata i nodi tueddiadau a chefnogi penderfyniadau strategol.
  • Rheoli a chydlynu’r broses achredu ar gyfer rhaglenni perthnasol.

Dyletswyddau Cyffredinol

  • Datblygu’n bersonol ac yn broffesiynol yn barhaus i wella perfformiad a chefnogi cyfrifoldebau sy’n esblygu.
  • Datblygu rhwydweithiau ym mhob rhan o’r Ysgol, y Coleg a’r Brifysgol er mwyn sicrhau llwyddiant cynlluniau hirdymor ac amcanion y tîm.
  • Sicrhau eich bod yn defnyddio eich dealltwriaeth o bwysigrwydd cyfrinachedd wrth gyflawni pob dyletswydd.
  • Cyflawni dyletswyddau eraill o bryd i'w gilydd nad ydynt wedi’u nodi uchod ond sy’n cyd-fynd â gofynion y swydd.
  • Cadw at bolisïau'r Brifysgol o ran iechyd a diogelwch a chydraddoldeb ac amrywiaeth.

Uchafswm y Cyflog

46,049

Gradd

Gradd 6

Isafswm y Cyflog

41,064

Categori Swyddi

Rheolaethol a Gweithredol, Addysgu

Llwybr Gyrfa

Staff Rheoli, Proffesiynol ac Arbenigol - MPSS

Manyleb Unigolyn

Meini Prawf Hanfodol

Cymwysterau ac Addysg
  1. Gradd/NVQ Lefel 4, neu brofiad cyfatebol sy'n gysylltiedig â’r gwaith
Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad
  1. Profiad sylweddol o reoli tîm
  2. Gwybodaeth arbenigol am systemau a phrosesau gweinyddol priodol
  3. Profiad diamheuol o ddatblygu prosesau a gweithdrefnau newydd
Gwasanaethu Cwsmeriaid, Cyfathrebu a Gweithio’n Rhan o Dîm
  1. Y gallu i gyfleu gwybodaeth fanwl a chymhleth yn effeithiol ac yn broffesiynol i amrywiaeth eang o bobl
  2. Gallu profedig i ddatblygu rhwydweithiau er mwyn cyfrannu at ddatblygiadau hirdymor
  3. Profiad o ymdrin â materion sy’n ymwneud â pherfformiad a lles
  4. Tystiolaeth o allu ystyried anghenion cwsmeriaid ac addasu'r gwasanaeth yn briodol er mwyn darparu gwasanaeth o safon
Cynllunio, Dadansoddi a Datrys Problemau
  1. Tystiolaeth o allu datrys problemau drwy gymryd y cam cyntaf a bod yn greadigol, gan ddefnyddio dealltwriaeth fanwl o fethodolegau i ddewis y dull cywir
  2. Tystiolaeth o allu cynllunio gwaith tîm dros gyfnodau estynedig, gan ymateb i newidiadau yn y llwyth gwaith a blaenoriaethau
Meini Prawf Dymunol
  1. Cymhwyster ôl-raddedig/proffesiynol
  2. Profiad o weithio ym maes addysg uwch
  3. Rhuglder yn y Gymraeg, yn ysgrifenedig ac ar lafar
Postuler maintenant

Plus d'emplois