Internal Applicants Only - Senior Executive Officer presso Cardiff University
Cardiff University · Cardiff, Regno Unito · Onsite
- Senior
- Ufficio in Cardiff
Hysbyseb
Adleoli Mewnol yn Unig – Uwch-swyddog Gweithredol
Mae cyfle cyffrous wedi codi yn yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio i Uwch-swyddog Gweithredol ymuno â ni. Bydd deiliad y swydd hon yn arwain ac yn rheoli timau o staff yn y Gwasanaethau Proffesiynol sy'n gyfrifol am yr addysg a ddarperir gan yr Ysgol. Bydd yn goruchwylio’r gwaith o ddatblygu rhaglenni a addysgir yn yr Ysgol, gan gynnwys prosesau ansawdd a phrofiad y myfyrwyr.
Mae'r swydd yn rhan o Uwch-dîm y Gwasanaethau Proffesiynol yn yr Ysgol, a bydd deiliad y swydd yn rhoi cymorth strategol, cymorth cynllunio a chymorth dadansoddi arbenigol i Reolwr yr Ysgol. Bydd hefyd yn goruchwylio’r holl raglenni a phrofiad y myfyrwyr.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am weithio’n rhan o wasanaethau addysg, gan gynnig arweinyddiaeth arbenigol. Bydd gofyn iddo ymgysylltu'n effeithiol a gweithio ar y cyd â thimau academaidd a thimau’r Gwasanaethau Proffesiynol, gan weithio’n agos gyda Chyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu’r Ysgol, Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol a chydweithwyr yn y Brifysgol ehangach.
Swydd 35 awr yr wythnos am gyfnod penodol o 12 mis yw hon oherwydd absenoldeb ymhlith y staff.
Dyddiad cychwyn i'w gadarnhau (Ionawr 2026 i'w gadarnhau).
Cyflog: £41,064 hyd at £46,049 y flwyddyn (Gradd 6), gyda phedwar cynyddran blynyddol hyd at £46,049 y flwyddyn (y cyflog terfynol ar frig y raddfa gyflog) – fel arfer, bydd staff newydd yn dechrau ar waelod y raddfa gyflog
Ar gyfer cwestiynau anffurfiol, e-bostiwch [email protected] neu Delyth Jones ([email protected]).
Polisi’r Brifysgol yw defnyddio manyleb yr unigolyn yn adnodd allweddol wrth lunio’r rhestr fer. Dylai ymgeiswyr ddangos tystiolaeth eu bod yn bodloni POB UN o’r meini prawf hanfodol, yn ogystal â’r rhai dymunol lle bo’n berthnasol. Yn rhan o’r broses ymgeisio, gofynnir i chi gyflwyno’r dystiolaeth hon ar ffurf datganiad ategol. Sicrhewch fod y dystiolaeth rydych yn ei rhoi’n cyfateb i'r meini prawf sydd wedi'u rhifo isod. Byddwn yn ystyried eich cais ar sail y wybodaeth a roddwyd o dan bob elfen.
Wrth atodi’r datganiad ategol i’ch cais, cofiwch roi cyfeirnod y swydd wag yn nheitl y ddogfen.
Dyddiad cau: Dydd Mercher, 5 Tachwedd 2025
Mae modd cyflwyno cais yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywyd personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu’r swydd.
Disgrifiad Swydd
Prif Ddyletswyddau
- Arwain a rheoli’r Tîm Gwasanaethau i Fyfyrwyr, gan sicrhau bod gwasanaethau cymorth academaidd yn cael eu darparu i safon uchel.
- Gweithio’n agos gyda Rheolwr yr Ysgol i roi strategaethau gweithredol ar waith a sicrhau eu bod yn cyd-fynd â nodau’r Ysgol a’r Brifysgol.
- Cyfrannu at y gwaith o reoli’r Ysgol yn y tymor hir drwy droi blaenoriaethau strategol yn gynlluniau gweithredol.
- Goruchwylio’r gwaith o ddatblygu, adolygu a chymeradwyo rhaglenni israddedig ac ôl-raddedig.
- Sicrhau bod systemau da ar waith ar gyfer monitro ansawdd, gwneud gwelliannau a chydymffurfio â rheoliadau’r Brifysgol.
- Rheoli prosesau cylch bywyd y myfyriwr, gan gynnwys y broses recriwtio, y broses ymrestru, asesiadau, dilyniant, dyfarniadau a gweithgareddau astudio dramor.
- Cydlynu amserlenni, cofnodion myfyrwyr a gwaith rheoli achosion, gan fod yn swyddog ymchwilio ar gyfer cwynion ac achosion myfyrwyr.
- Rhoi cyngor arbenigol i arweinwyr academaidd ar ddatblygu polisïau a’u rhoi ar waith.
- Mynd i gyfarfodydd pwyllgorau’r Ysgol a’r Brifysgol a chyfrannu atynt, gan ddylanwadu ar benderfyniadau ynghylch dysgu ac addysgu.
- Paratoi a dosbarthu adroddiadau rheoli a data i ddylanwadu ar benderfyniadau a chefnogi adolygiadau sefydliadol.
- Arwain, ysgogi a chefnogi aelodau’r tîm, gan oruchwylio hyfforddiant ymsefydlu, dulliau o ddosbarthu gwaith, adolygiadau o ddatblygiad a pherfformiad ac anghenion o ran hyfforddiant.
- Meithrin diwylliant o welliant parhaus, cydweithrediad a datblygiad proffesiynol
- Helpu aelodau’r tîm i ymdrin â phryderon am les, gan uwchgyfeirio’r rhain yn briodol i wasanaethau arbenigol.
- Cysylltu â gwasanaethau canolog a gwasanaethau’r Coleg i ddatrys materion a sicrhau cydweithio effeithiol.
- Rhoi gwybod i’r Byrddau Astudio a grwpiau perthnasol y Coleg/y Brifysgol am newidiadau yn y rhaglenni.
- Sicrhau bod arferion gweinyddu myfyrwyr yn cydymffurfio â rheoliadau’r Brifysgol a gofynion allanol.
- Bod yn bwynt cyswllt ar gyfer uwchgyfeirio problemau cymhleth myfyrwyr, gan sicrhau eu bod yn cael eu datrys yn brydlon mewn ffordd sy’n cydymffurfio.
- Casglu, dadansoddi a chyflwyno adroddiadau ar ddata i nodi tueddiadau a chefnogi penderfyniadau strategol.
- Rheoli a chydlynu’r broses achredu ar gyfer rhaglenni perthnasol.
Dyletswyddau Cyffredinol
- Datblygu’n bersonol ac yn broffesiynol yn barhaus i wella perfformiad a chefnogi cyfrifoldebau sy’n esblygu.
- Datblygu rhwydweithiau ym mhob rhan o’r Ysgol, y Coleg a’r Brifysgol er mwyn sicrhau llwyddiant cynlluniau hirdymor ac amcanion y tîm.
- Sicrhau eich bod yn defnyddio eich dealltwriaeth o bwysigrwydd cyfrinachedd wrth gyflawni pob dyletswydd.
- Cyflawni dyletswyddau eraill o bryd i'w gilydd nad ydynt wedi’u nodi uchod ond sy’n cyd-fynd â gofynion y swydd.
- Cadw at bolisïau'r Brifysgol o ran iechyd a diogelwch a chydraddoldeb ac amrywiaeth.
Uchafswm y Cyflog
Gradd
Isafswm y Cyflog
Categori Swyddi
Llwybr Gyrfa
Manyleb Unigolyn
Cymwysterau ac Addysg
- Gradd/NVQ Lefel 4, neu brofiad cyfatebol sy'n gysylltiedig â’r gwaith
- Profiad sylweddol o reoli tîm
- Gwybodaeth arbenigol am systemau a phrosesau gweinyddol priodol
- Profiad diamheuol o ddatblygu prosesau a gweithdrefnau newydd
- Y gallu i gyfleu gwybodaeth fanwl a chymhleth yn effeithiol ac yn broffesiynol i amrywiaeth eang o bobl
- Gallu profedig i ddatblygu rhwydweithiau er mwyn cyfrannu at ddatblygiadau hirdymor
- Profiad o ymdrin â materion sy’n ymwneud â pherfformiad a lles
- Tystiolaeth o allu ystyried anghenion cwsmeriaid ac addasu'r gwasanaeth yn briodol er mwyn darparu gwasanaeth o safon
- Tystiolaeth o allu datrys problemau drwy gymryd y cam cyntaf a bod yn greadigol, gan ddefnyddio dealltwriaeth fanwl o fethodolegau i ddewis y dull cywir
- Tystiolaeth o allu cynllunio gwaith tîm dros gyfnodau estynedig, gan ymateb i newidiadau yn y llwyth gwaith a blaenoriaethau
- Cymhwyster ôl-raddedig/proffesiynol
- Profiad o weithio ym maes addysg uwch
- Rhuglder yn y Gymraeg, yn ysgrifenedig ac ar lafar