Internal Applicants Only - Lecturer in Data/AI-Driven Mathematics chez Cardiff University
Cardiff University · Cardiff, Royaume-Uni · Hybrid
- Professional
- Bureau à Cardiff
Hysbyseb
Ymgeiswyr Mewnol yn Unig - Darlithydd Mathemateg wedi’i Harwain gan Ddata/Deallusrwydd Artiffisial – Addysgu ac Ysgolheictod
Yr Ysgol Mathemateg
Mae’r Ysgol Mathemateg ym Mhrifysgol Caerdydd yn chwilio am Ddarlithydd Mathemateg wedi’i Harwain gan Ddata/Deallusrwydd Artiffisial i helpu i gyflwyno rhaglen israddedig gyffrous newydd o’r enw Mathemateg ar gyfer y Byd Modern. Mae’r rhaglen hon yn un o bum rhaglen flaengar sy’n cael eu hariannu gan yr Ymgyrch dros y Gwyddorau Mathemategol.
Mae'r swydd hon yn rhan allweddol o'n buddsoddiad mewn addysg arloesol a chynhwysol ac yn cyd-fynd â'n strategaeth hirdymor i ddatblygu rhaglenni arloesol sy’n addysgu mathemateg.
Gwybodaeth am y swydd
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn chwarae rhan ganolog wrth ddatblygu a chyflwyno ein rhaglen israddedig newydd, Mathemateg ar gyfer y Byd Modern. Bydd y garfan gyntaf o fyfyrwyr yn cael ei chroesawu yn 2026. Mae’r rhaglen arloesol hon yn ceisio paratoi myfyrwyr i lwyddo mewn byd cynyddol gymhleth a rhyng-gysylltiedig. Mae'n cyfuno sylfaen fanwl mewn egwyddorion mathemategol â themâu cyfoes, gan gynnwys:
- Cynaliadwyedd a dinasyddiaeth fyd-eang
- Cyfathrebu, creadigrwydd ac entrepreneuriaeth
- Mathemateg a gynorthwyir gan ddeallusrwydd artiffisial ac offer cyfrifiadurol modern
- Data mawr a thechnolegau digidol
Gwybodaeth am yr Ysgol
Mae’r Ysgol Mathemateg ym Mhrifysgol Caerdydd yn adran sy'n cael ei harwain gan ymchwil. Mae ganddi hanes o wneud ymchwil sy’n rhagorol yn rhyngwladol ac addysgu i safon uchel. Cartref yr Ysgol Mathemateg yw Abacws – adeilad o'r radd flaenaf sy’n cael ei rannu â'r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg. Mae Abacws, a ddyluniwyd ar y cyd â’r staff a’r myfyrwyr, yn cynnig mannau hyblyg, rhyngddisgyblaethol a thechnolegol ddatblygedig ar gyfer dysgu, cydweithio ac arloesi.
Mae ein gwaith ymchwil wedi'i drefnu'n chwe grŵp bywiog:
- Mathemateg Gymhwysol a Chyfrifiadurol
- GAPT: Geometreg, Algebra, Ffiseg Fathemategol a Thopoleg
- Dadansoddi Mathemategol
- Mathemateg Ariannol
- Ymchwil Weithredol
- Ystadegau a Gwyddor Data
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a meithrin amgylchedd gwaith croesawgar a chefnogol. Rydym yn croesawu'n arbennig geisiadau gan unigolion o gefndiroedd sydd wedi'u tangynrychioli a'r rhai sy’n dilyn llwybrau gyrfaol anhraddodiadol. Rydym yn falch o fod yn brifysgol sy'n ymdrechu i gyflawni ei rhwymedigaethau cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd i Gaerdydd, Cymru a'r byd ehangach.
Yn y swydd hon, byddwch yn gwneud y canlynol:
- Cynllunio a chyflwyno sesiynau addysgu, gan gynnwys rhaglenni allgymorth a rhaglenni ymgysylltu â'r cyhoedd/ysgolion
- Cymryd rhan yng ngweinyddiaeth a gweithgareddau'r Ysgol er mwyn hyrwyddo'r Ysgol a'i gwaith ledled y Brifysgol a thu hwnt
Hoffem glywed gennych os oes gennych y canlynol:
- Gradd ôl-raddedig ar lefel PhD mewn pwnc sy’n gysylltiedig â’r gwyddorau mathemategol, neu brofiad diwydiannol perthnasol
- Profiad o addysgu myfyrwyr israddedig/ôl-raddedig
Gallwn roi’r cyfle i chi weithio mewn sefydliad bywiog sy’n cynnig pecyn buddion gwych a chyfleoedd i gamu ymlaen yn eich gyrfa. Rydym yn falch o gefnogi'r Cyflog Byw.
Mae’r swydd hon yn gymwys i’w chynnig ar sail gweithio cyfunol. Mae hynny’n golygu, yn ogystal â gweithio ar y campws, y cewch weithio o leoliad arall (e.e. eich cartref) rywfaint o’r amser. Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i gynnig yr hyblygrwydd hwn pan fo’r swydd ac anghenion y busnes yn caniatáu hynny er mwyn eich helpu i sicrhau cydbwysedd rhwng eich gwaith a’ch bywyd personol.
Cysylltwch â'r Athro Jon Gillard ([email protected]) neu'r Athro Maggie Chen ([email protected]) i gael sgwrs anffurfiol, gyfrinachol ynghylch y swydd.
Swydd amser llawn yw hon am gyfnod penodol o ddwy flynedd, gan ddechrau ar 1 Medi 2026.
Cyflog: £41,064 hyd at £46,049 y flwyddyn (Gradd 6)
Dyddad cau: Dydd Llun, 27 Hydref 2025
Nid yw ceisiadau allanol yn cael eu hystyried ar gyfer y swydd hon ar hyn o bryd. Os penderfynir agor y swydd i ymgeiswyr allanol, bydd yr isbennawd ar y brig yn cael ei thynnu a rhoddir digon o amser i chi wneud cais - cadwch olwg ar y dudalen am fanylion.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir gwneud hynny drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o wahanol gefndiroedd. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned beth bynnag fo’u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oed. Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Disgrifiad Swydd
Bydd deiliad y swydd yn ymgymryd â llwyth addysgu llawn, gan gynnwys datblygu, cyflwyno a gwerthuso modiwlau’r rhaglen BSc Mathemateg ar gyfer y Byd Modern – rhaglen flaengar newydd yn yr Ysgol Mathemateg. Bydd yn goruchwylio myfyrwyr ac yn cyflawni dyletswyddau gweinyddol yn y maes gwaith yn ôl yr angen. Bydd yn ymdrechu i wneud ymchwil o’r safon uchaf ac yn ysbrydoli eraill i wneud yr un fath.
Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau
Addysgu
- Cynllunio a chyflwyno rhaglenni addysgu ar gyfer cyrsiau a chyfrannu at y broses o ddatblygu modiwlau, a hynny’n rhan o dîm sy’n datblygu modiwlau
- Ysbrydoli myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig o dan arweiniad mentor/arweinydd modiwl a meithrin sgiliau ar gyfer asesu a rhoi adborth adeiladol i fyfyrwyr
- Goruchwylio gwaith myfyrwyr, gan gynnwys goruchwylio myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig, yn ogystal â chyd-oruchwylio ymchwilwyr ôl-raddedig
- Rhoi gofal bugeiliol drwy fod yn Diwtor Personol a rhoi cymorth ac arweiniad i fyfyrwyr, gan feithrin ymddiriedaeth
- Cynllunio a chyflwyno rhaglenni allgymorth a rhaglenni ymgysylltu â'r cyhoedd/ysgolion
- Cyfrannu at ysgolheictod yn y maes drwy gymryd rhan mewn cynadleddau, seminarau a fforymau academaidd a phroffesiynol eraill i rannu canlyniadau ysgolheictod unigol
- Cmryd rhan mewn gweithgarwch ysgolheigaidd drwy ysgrifennu erthyglau ar gyfer cyfnodolion a/neu sicrhau allbwn sy’n ehangu gwybodaeth yn y maes
- Cyfrannu at ysgolheictod drwy wneud gwaith rhyngddisgyblaethol gydag unigolion a thimau yng nghymuned ehangach y Brifysgol a thu hwnt
- Cyflawni mathau eraill o ysgolheictod, gan gynnwys gwneud gwaith sy’n gysylltiedig ag arholiadau (gosod a marcio papurau a rhoi adborth adeiladol i fyfyrwyr), gweinyddu a chymryd rhan mewn pwyllgorau
- Cydweithio’n effeithiol â chyrff diwydiannol, masnachol a chyhoeddus, sefydliadau proffesiynol, sefydliadau academaidd eraill ac ati, a hynny’n rhanbarthol ac yn genedlaethol i godi proffil yr Ysgol, meithrin partneriaethau strategol werthfawr a chwilio am gyfleoedd i gydweithio ar ystod o weithgareddau – bydd disgwyl i’r gweithgareddau hyn gyfrannu at yr Ysgol a gwella ei phroffil rhanbarthol a chenedlaethol
- Datblygu’n bersonol ac yn broffesiynol mewn ffyrdd addas a fydd yn gwella eich perfformiad yn Ddarlithydd
- Mentora cydweithwyr llai profiadol a rhoi cyngor sy’n ymwneud â datblygiad personol
- Cymryd rhan yng ngweinyddiaeth a gweithgareddau'r Ysgol er mwyn hyrwyddo'r Ysgol a'i gwaith ledled y Brifysgol a thu hwnt
- Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill nad ydynt wedi’u nodi uchod ond sy'n cyd-fynd â gofynion y swydd
Uchafswm y Cyflog
Gradd
Isafswm y Cyflog
Categori Swyddi
Llwybr Gyrfa
Manyleb Unigolyn
Cymwysterau ac Addysg
- Gradd ôl-raddedig ar lefel PhD mewn pwnc cysylltiedig, neu brofiad diwydiannol perthnasol
- Profiad o addysgu myfyrwyr israddedig/ôl-raddedig
- Gwybodaeth arbenigol am ddatblygiadau cyfredol ym maes mathemateg
- Y gallu i gynllunio, cyflwyno a datblygu modiwlau’n barhaus ar gyfer rhaglenni’r Ysgol
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol a’r gallu i gyflwyno syniadau cymhleth a chysyniadol yn eglur ac yn hyderus i eraill gan ddefnyddio sgiliau lefel uchel ac ystod o gyfryngau
- Y gallu i roi cymorth bugeiliol priodol i fyfyrwyr, gwerthfawrogi anghenion ac amgylchiadau myfyrwyr unigol a bod yn Diwtor Personol iddynt
- Gallu diamheuol i fod yn greadigol ac yn arloesol a gweithio’n rhan o dîm yn y gwaith
Meini Prawf Dymunol
- Cymhwyster/cymwysterau proffesiynol perthnasol
- Tystiolaeth o gydweithio â’r diwydiant
- Gallu profedig i weithio heb oruchwyliaeth fanwl
- Gallu profedig i addasu i ofynion newidiol byd addysg uwch
- Tystiolaeth o’r gallu i gyfrannu at rwydweithiau mewnol ac allanol, eu datblygu a’u defnyddio i wella gweithgareddau addysgu ac ymchwil yr Ysgol
- Parodrwydd i ysgwyddo cyfrifoldeb dros waith gweinyddol academaidd
- Rhuglder yn y Gymraeg, yn ysgrifenedig ac ar lafar
- Ymrwymiad i helpu’r Ysgol i hyrwyddo gwerthoedd tegwch, cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant