Internal Applicants Only - Research Support Officer chez University of Cardiff
University of Cardiff · Cardiff, Royaume-Uni · Onsite
- Professional
- Bureau à Cardiff
Hysbyseb
Ymgeiswyr Mewnol yn Unig - Swyddog Cymorth Ymchwil
Y Gwasanaeth Ymchwil – wedi'i leoli yn yr Ysgol Mathemateg (MATHS)
Dyma gyfle cyffrous i Swyddog Cymorth Ymchwil yn yr Ysgol Mathemateg yng Ngholeg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg ymuno â’r Gwasanaeth Ymchwil dros gyfnod secondiad, gan ddarparu cymorth gwerthfawr i geisiadau am gyllid ymchwil ac ystod o weithgareddau cymorth hanfodol eraill sy'n gysylltiedig ag ymchwil, gan gynnwys moeseg ymchwil a pharatoadau'r ysgol at Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2029.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn weinyddwr brwdfrydig a rhagweithiol, yn hyderus wrth aml-dasgio a blaenoriaethu. Byddwch yn gweithio'n agos â Rheolwr Ymchwil Dros Dro yr Ysgol i sicrhau bod cefnogaeth ragorol yn cael ei ddarparu i brosesau a gweithgareddau sy'n gysylltiedig ag ymchwil, gan sicrhau bod yr holl weithgareddau ymchwil yn cael eu cyflawni'n broffesiynol a bod anghenion ein staff a'n cyllidwyr yn cael eu diwallu. Byddwch hefyd yn gweithio ochr yn ochr â Swyddog Ymchwil Ôl-raddedig yr Ysgol ac, yn rhan o dîm bach, efallai y bydd yn ofynnol o bryd i'w gilydd i chi ymgymryd â dyletswyddau’r rôl hon yn ystod cyfnodau o wyliau blynyddol ayyb er mwyn hwyluso gwytnwch y tîm. Byddwch hefyd yn gweithio'n agos â chydweithwyr yn Swyddfa Ymchwil yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg (COMSC) wrth i gynlluniau gael eu datblygu a'u rhoi ar waith i gyfuno adnoddau i gefnogi ymchwil ar draws y ddwy ysgol ar ôl eu huno arfaethedig.
Uned ymchwil-ddwys hirsefydlog yw Ysgol Mathemateg Prifysgol Caerdydd ac rydyn ni'n canolbwyntio ar hyrwyddo gwybodaeth fathemategol sylfaenol, hwyluso'r broses o gymhwyso’r gwyddorau mathemategol mewn disgyblaethau eraill, a rhoi budd cymdeithasol drwy ein cysylltiadau â byd diwydiant, elusennau a'r sector cyhoeddus. Yn yr adeilad Abacws newydd o'r radd flaenaf, mae Ysgol Mathemateg Caerdydd yn cwmpasu grwpiau ymchwil mewn mathemateg bur, mathemateg gymhwysol, ystadegaeth, gwyddorau data ac ymchwil weithredol, y mae pob un ohonyn nhw yn elwa o agwedd ryngwladol iawn a chyllid ymchwil sylweddol.
Cewch ragor o wybodaeth am yr Ysgol ar ein gwefan: www.cardiff.ac.uk/cy/mathematics
Swydd amser llawn yw hon (35 awr yr wythnos) dros gyfnod secondiad, sydd ar gael am gyfnod penodol tan 31 Gorffennaf 2027. Mae'r swydd ar gael ar unwaith.
Rydym yn croesawu ymgeiswyr mewnol a allai fod yn dymuno cael secondiad i'r swydd hon i ehangu eu profiad neu i gefnogi datblygiad eu gyrfa. Siaradwch â'ch rheolwr llinell a gofynnwch am ganiatâd cyn cyflwyno cais am secondiad.
I gael trafodaeth anffurfiol am y rôl, cysylltwch â Dr Richard Bromiley, Rheolwr Ymchwil y Coleg a Rheolwr Ymchwil Dros Dro (MATHS) – [email protected].
Mae modd anfon ymholiadau anffurfiol ynghylch y broses recriwtio/ymgeisio at Adrienne Evans, Swyddog Gweithredol a Chynorthwyydd Personol i Gyfarwyddwr y gwasanaeth Ymchwil – [email protected].
Cyflog: £28,031 - £31,236 y flwyddyn (Gradd 4)
Dyddiad cau: Dydd Llun, 27 Hydref 2025
Nid yw ceisiadau allanol yn cael eu hystyried ar gyfer y swydd hon ar hyn o bryd. Os penderfynir agor y swydd i ymgeiswyr allanol, bydd yr isbennawd ar y brig yn cael ei thynnu a rhoddir digon o amser i chi wneud cais - cadwch olwg ar y dudalen am fanylion.
Mae modd cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg, ac ni chaiff cais a gyflwynir yn Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran.
Er mwyn cefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywyd personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu’r swydd neu weithio’n hyblyg.
Disgrifiad Swydd
Yn aelod o'r Gwasanaeth Ymchwil, gweithio’n rhan o dîm bach i ddarparu gwasanaeth gweinyddol proffesiynol cynhwysfawr i'r Ysgol Mathemateg, gan ddarparu cymorth, arweiniad a gweinyddu i geisiadau cyllid ymchwil ac ystod o weithgareddau cymorth hanfodol eraill sy'n gysylltiedig ag ymchwil, gan gynnwys moeseg ymchwil a pharatoadau'r ysgol at Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2029.
Prif Ddyletswyddau
- Rhoi cyngor ac arweiniad proffesiynol ar geisiadau grant ymchwil, moeseg a mynediad agored i gwsmeriaid mewnol ac allanol, gan ddefnyddio synnwyr cyffredin a bod yn greadigol wrth awgrymu'r camau gweithredu gorau lle bo'n briodol, a chyfrannu at ddatrys materion mwy cymhleth.
- Darparu cefnogaeth o ran gweinyddu grantiau ymchwil, gan ddefnyddio modiwl Cyn-Ddyfarniadau Worktribe at ddibenion costio, cymeradwyo a chyflwyno cynigion ymchwil.
- Cynorthwyo'r Rheolwr Ymchwil a chydweithwyr perthnasol eraill i weinyddu gynorthwyo academyddion i ddrafftio a pharatoi ceisiadau ymchwil, gan wneud yn siŵr bod dogfennau'n cael eu cynhyrchu ar y ffurf sy'n ofynnol gan yr Ysgol, y Brifysgol a chyrff cyllido.
- Datblygu gwybodaeth drylwyr o weithdrefnau’r Brifysgol mewn perthynas â chyllido ymchwil, mynediad agored, moeseg, cefnogi ymchwil, a’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil.
- Rhoi cyngor ar delerau ac amodau cyllidebau grantiau ymchwil. Darparu data ar grantiau ymchwil i'w cynnwys mewn amrywiaeth o adroddiadau gwybodaeth rheoli.
- Cynghori deiliaid grantiau ar agweddau ariannol dyfarniadau grantiau ymchwil, gan gysylltu'n agos â chydweithwyr ar draws y Gwasanaeth Ymchwil a swyddogaethau perthnasol eraill y Gwasanaethau Proffesiynol.
- Cefnogi'r tîm Cyllid i adolygu gwariant ymchwil yn erbyn cyllidebau a ddiffiniwyd ymlaen llaw a chefnogi cynhyrchu adroddiadau ariannol cywir i ddeiliaid cyllideb.
- Archwilio a lledaenu gwybodaeth ynghylch cyfleoedd cyllid ymchwil addas, cynadleddau, a digwyddiadau ymchwil eraill.
- Hysbysebu, gweinyddu a phrosesu ceisiadau ar gyfer rhaglenni cyllido mewnol.
- Darparu cefnogaeth i ymarferion asesu ymchwil, megis y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil.
- Cefnogi'r Cyfarwyddwyr Ymchwil, y Pwyllgorau Ymchwil Ysgolion, a'r Pwyllgor Moeseg Ymchwil, gan osod yr agenda, paratoi papurau, gwasanaethu cyfarfodydd, a gweithredu ar bwyntiau a godir.
- Cymryd cyfrifoldeb am ymwelwyr ymchwil i'r Ysgol, prosesu ceisiadau cychwynnol ymwelwyr a chydlynu'r holl drefniadau ar gyfer yr ymweliad.
- Cynnal cofnodion cyfoes o gyhoeddiadau gan aelodau staff, gwybodaeth proffil staff, a gwneud yn siŵr y cedwir at bolisïau mynediad agored.
- Cynnal cofnodion diweddaraf y cais am grant, dyfarniadau a data perthnasol arall.
- Rhoi cefnogaeth, yn ôl yr angen, i drefnu cynadleddau a digwyddiadau ymchwil mawr eraill yn yr Ysgol.
- Cydweithio ag eraill sy’n rhan o’r Gwasanaeth Ymchwil, yr Ysgol ac yn ehangach lle bo'n briodol er mwyn gwneud argymhellion ar gyfer datblygu prosesau a gweithdrefnau sefydledig.
- Sefydlu perthnasoedd gwaith ag enwau cyswllt pwysig er mwyn helpu i wella gwasanaethau, gan ddatblygu cysylltiadau cyfathrebu priodol ag Ysgolion/Cyfarwyddiaethau'r Brifysgol a chyrff allanol yn ôl yr angen.
- Casglu data a’i ddadansoddi i gyfrannu at benderfyniadau, gan ddod o hyd i dueddiadau a phatrymau sylfaenol yn y data, a llunio adroddiadau fel y bo'n briodol.
- Lle bo'n briodol, ymgymryd â dyletswyddau gweinyddol eraill i gefnogi cydweithwyr yn nhîm Swyddfa Ymchwil yr Ysgol, y Gwasanaeth Ymchwil ehangach a'r Ysgol Mathemateg.
- Yn rhan o dîm, cynnig gwasanaethau rheng flaen i fyfyrwyr a staff, ateb amrywiaeth eang o ymholiadau, datrys problemau at atgyfeirio lle bo angen.
Uchafswm y Cyflog
Gradd
Isafswm y Cyflog
Categori Swyddi
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae Caerdydd yn brifysgol uchelgeisiol ac arloesol sydd wedi'i lleoli mewn prifddinas hardd a ffyniannus. Roedd ein hymchwil sy'n arwain y byd yn y 5ed safle am ansawdd ymhlith prifysgolion y DU yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014 ac rydym yn darparu profiad addysgol rhagorol i'n 30,000 o fyfyrwyr. Gyda chyllideb flynyddol o dros £500 miliwn a thua 6,000 o staff, mae Caerdydd yn aelod o Grŵp Russell o'r 24 prifysgol ymchwil-ddwys flaenllaw yn y DU. Mae gan y Brifysgol 24 o ysgolion academaidd wedi'u grwpio'n dri choleg: Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd, Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg a'r Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol.
Uchelgais y Brifysgol yw graddio'n gyson ymhlith y 100 prifysgol orau yn y byd. Mae Caerdydd hefyd yn datblygu ei System Arloesi drwy raglen fuddsoddi â ffocws mewn pobl a seilwaith. Mae cyllid ymchwil a sicrhawyd o ffynonellau cystadleuol, allanol yn fwy na £100 miliwn y flwyddyn ac mae'r Brifysgol yn anelu at dyfu hyn ymhellach trwy ennill grantiau o ystod eang o ffynonellau cenedlaethol a byd-eang.
Mae'r Gwasanaeth Ymchwil yn cefnogi cymuned ymchwil y Brifysgol i gychwyn a chyflwyno gweithgareddau ymchwil ac arloesi. Dan arweiniad y Cyfarwyddwr, Vanessa Cuthill, rydym yn darparu gwasanaethau trwy dros 100 o staff arbenigol wedi'u trefnu mewn pum tîm arbenigol: Y Swyddfa Grantiau Ymchwil; Uniondeb Ymchwil, Llywodraethu a Moeseg; Datblygu Ymchwil; Masnacheiddio Ymchwil ac Effaith; Strategaeth Ymchwil a Gweithrediadau ac Ymgysylltu a Phartneriaethau Busnes. Mae'r Adran yn gweithio'n agos gyda staff gwasanaethau academaidd a phroffesiynol o bob rhan o'r sefydliad.
Llwybr Gyrfa
Manyleb Unigolyn
- Sefydlu perthnasoedd gwaith ag enwau cyswllt pwysig er mwyn helpu i wella gwasanaethau, gan ddatblygu cysylltiadau cyfathrebu priodol ag Ysgolion/Cyfarwyddiaethau'r Brifysgol a chyrff allanol yn ôl yr angen.
- Sicrhau bod dealltwriaeth o bwysigrwydd cyfrinachedd yn sail i’r holl waith.
- Dilyn polisïau’r Brifysgol ar iechyd a diogelwch a chydraddoldeb ac amrywiaeth.
- Cyflawni dyletswyddau eraill yn achlysurol nad ydynt wedi'u nodi uchod ond sy'n cyd-fynd â gofynion y swydd.
Polisi Prifysgol Caerdydd yw defnyddio manyleb yr unigolyn yn adnodd allweddol wrth ddethol pobl ar gyfer y rhestr fer. O ganlyniad, mae’n rhaid i ymgeiswyr ddangos tystiolaeth eu bod yn bodloni'r HOLL feini prawf hanfodol, a'r meini prawf dymunol, lle bo hynny’n berthnasol.
Yn rhan o'ch cais, gofynnir i chi gyflwyno'r dystiolaeth hon drwy ddatganiad ategol. Gofalwch fod eich tystiolaeth yn cyfateb i'r meini prawf a rifwyd, sy’n cael eu hamlinellu ym manyleb yr unigolyn. Ystyrir eich cais ar sail yr wybodaeth a roddwch ar gyfer pob maen prawf.
Wrth roi’r datganiad ategol ynghlwm wrth broffil eich cais, cofiwch roi cyfeirnod y swydd wag yn nheitl y ddogfen: xxxxxBR.
Bydd eich cais mewn perygl o beidio â chael ei symud ymlaen os nad ydych yn dangos tystiolaeth eich bod wedi bodloni'r holl feini prawf hanfodol. Mae'r Gwasanaeth Ymchwil yn croesawu cyflwyno CV i gyd-fynd â'r dystiolaeth ar gyfer meini prawf y swydd.
Meini Prawf Hanfodol
Cymwysterau ac Addysg
- Cymhwyster NVQ Lefel 3/cymwysterau Safon Uwch, neu gymwysterau cyfatebol.
- Profiad o weithio mewn rôl weinyddol gyda gwybodaeth am weinyddu grantiau ymchwil, moeseg, neu fynediad agored.
- Gallu diamheuol i gymryd cyfrifoldeb dros faes unigryw.
- Gallu i sefydlu systemau a gweithdrefnau swyddfa safonol a gwneud gwelliannau fel y bo'n briodol, gan ddefnyddio sgiliau TG ac Excel rhagorol.
- Gallu i gyfleu gwybodaeth arbenigol a chymhleth yn effeithiol ac yn broffesiynol i ystod o gwsmeriaid sydd â lefelau amrywiol o ddealltwriaeth.
- Gallu diamheuol i gynghori a dylanwadu ar randdeiliaid allweddol, gan reoli ystod eang o gwestiynau a materion mewn modd sensitif a rhagweithiol.
- Tystiolaeth o’r gallu i ystyried anghenion cwsmeriaid ac addasu'r gwasanaeth yn unol â hynny er mwyn sicrhau y caiff gwasanaeth o safon ei ddarparu.
- Tystiolaeth o allu i ddatrys problemau trwy gymryd y cam cyntaf a bod yn greadigol; adnabod a chynnig atebion ymarferol a datrys problemau lle mae ystod o opsiynau posibl ar gael.
- Tystiolaeth o allu i ddadansoddi prosesau a gweithdrefnau, a chynghori ar welliannau a gweithredu o fewn eich maes cyfrifoldeb eich hun.
- Tystiolaeth o allu gweithio heb oruchwyliaeth, gan gadw at derfynau amser, cynllunio a phennu blaenoriaethau ar gyfer eich gwaith eich hun.
- Gradd neu gymhwyster cyfatebol neu brofiad cyfatebol sy'n gysylltiedig â'r gwaith.
- Profiad o weithio ym maes addysg uwch.
- Profiad o ddefnyddio Worktribe at ddibenion costio, cymeradwyo a chyflwyno ceisiadau grant.
- Gwybodaeth ymarferol ragorol o brosesau a gweithdrefnau ariannol gyda phrofiad o weithio gyda phecynnau meddalwedd ariannol fel Oracle.
- Profiad o ddefnyddio systemau cudd-wybodaeth busnes fel Business Object.
- Rhuglder yn y Gymraeg, yn ysgrifenedig ac ar lafar.