Platzhalter Bild

Hybrid Market Insight Executive chez Cardiff University

Cardiff University · Cardiff, Royaume-Uni · Hybrid

33 482,00 £GB  -  36 130,00 £GB

Postuler maintenant

Hysbyseb

Swyddog Marnellu Sgiliau

Rydym yn cynnig cyfle cyffrous i ymuno â thîm bywiog Dirnad y Farchnad sy’n rhan o dîm Cyfathrebu a Marchnata. Mae dwy swydd ar gael, pob un am dymor penodol o 16 mis i ddarparu gwell Dirnadaeth o’r Farchnad i gefnogi’r broses o drawsnewid Dyfodol Academaidd.

Bydd y swydd hon yn darparu sylfaen eang ym maes dadansoddi’r farchnad, dadansoddi data, ymchwil i'r farchnad a deallusrwydd busnes a bydd yn darparu’r sgiliau sydd eu hangen ar yr ymgeisydd llwyddiannus ar gyfer gyrfa ymchwil busnes, gan gynnwys datblygu sgiliau a darganfod sut mae dirnad data yn dylanwadu ar wneud penderfyniadau sefydliad.

Mae’n rhaid i ymgeiswyr feddu ar sgiliau rhifiadol a llythrennedd cryf, profiad o arolygon, diddordeb ym myd addysg uwch (y cyrsiau i'w cynnig, beth sy'n gwneud cwrs yn ddeniadol) ac angerdd dros weithio gyda data a dirnad y farchnad.

Gan adrodd i Uwch-ddadansoddwr Marchnad, prif ffocws y swydd fydd ymchwil i gefnogi Prifysgol Caerdydd i ddenu’r myfyrwyr newydd cywir. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cymryd rhan mewn ystod eang o brosiectau gan gynnwys datblygu rhaglenni a marchnadoedd newydd, dadansoddi cystadleuwyr, ymchwil panel y myfyrwyr yn ogystal â gwerthuso ymgyrchoedd, gweithgareddau a digwyddiadau marchnata.

Mae’n rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus allu craffu ar fanylion a gweithio yn unol â therfynau amser tynn a chydbwyso blaenoriaethau sy’n gwrthdaro â’i gilydd, yn ogystal â sgiliau trefnu da, agwedd frwdfrydig a’r awydd i weithio’n rhan o dîm yn eich gwaith.

Mae'r rolau yn gyflawn-amser ac yn gyfnod penodol am 16 mis.

Cyflog: £33,482 - £36,130 y flwyddyn (Gradd 5)

Dyddiad hysbysebu: Dydd Gwener, 1 Awst 2025

Dyddiad cau: Dydd Gwener, 29 Awst 2025

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir gwneud hynny drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o wahanol gefndiroedd.  Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned beth bynnag fo’u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oed.  Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.


Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Disgrifiad Swydd

Prif Ddyletswyddau
  • Llunio adroddiadau data rheolaidd i’w defnyddio unwaith a dadansoddi gwybodaeth feintiol ac ansoddol o ystod o ffynonellau data mewnol ac allanol.
  • Dod yn arbenigwr ym maes data’r farchnad byd Addysg Uwch (gan gynnwys HESA, UCAS, setiau data ffioedd dysgu ac ati).
  • Cynhyrchu data a gwybodaeth y farchnad mewn ffordd sy'n glir ac yn rhwydd i gynulleidfaoedd gwahanol ei dehongli, a hynny er mwyn sicrhau dull sy'n seiliedig ar dystiolaeth o ran recriwtio myfyrwyr a datblygu portffolio o raglenni gradd.
  • Defnyddio sgiliau technegol ac offer a setiau data priodol (e.e. Excel, Power BI ac arolygon ar-lein) i dynnu, glanhau a datblygu data o ffynonellau mewnol ac allanol (gan gynnwys proffilio data i ddod o hyd i anghysondeb cyn dadansoddi data).
  • Sganio gorwel y cystadleuwyr, y farchnad a’r diwydiant ar-lein i sicrhau bod cyd-destun ehangach y farchnad yn llywio’r penderfyniadau a wneir am ein portffolio a’n gweithgarwch recriwtio myfyrwyr.
  • Adnabod patrymau a thueddiadau. Perfformio dadansoddiadau data dwys drwy gloddio data yn gytbwys a dulliau ymchwil data cysylltiedig (gan ddefnyddio Excel a Power BI yn bennaf) i ddod o hyd i’r berthynas rhwng endidau data yn ogystal ag adnabod potensial a hyfywedd y farchnad.
  • Cefnogi'r gwaith o gynnal arolygon marchnata corfforaethol megis Arolwg yr Ymgeisydd.
  • Meithrin perthynas waith gydag enwau cyswllt o bwys, gan ddatblygu cysylltiadau cyfathrebu priodol ag ysgolion y Brifysgol a thimau’r Coleg.
  • Cydweithio â chydweithwyr yn nhîm Dirnad y Farchnad i wneud argymhellion dros wella prosesau a gweithdrefnau sefydledig.
  • Paratoi a chyflawni prosiectau bach penodol, gan gydlynu a goruchwylio timau prosiectau sy'n cael eu creu yn ôl yr angen Creu gweithgorau penodol o blith cydweithwyr ledled y Brifysgol i gyflawni amcanion.
  • Cyfrannu, pan fo hynny'n briodol, at weithgareddau marchnata cyffredinol y Brifysgol, a hynny’n rhan o'r tîm Cyfathrebu a Marchnata.
  • Cyfarwyddo ac arwain cyflogeion eraill ledled y Brifysgol o ran arferion dadansoddi’r farchnad yn ôl yr angen
  • Cyflawni ystod o ddyletswyddau gweinyddol i gefnogi'r adran

Dyletswyddau Cyffredinol
  • Gwirio ansawdd dadansoddiadau cydweithwyr Dirnad y Farchnad, a phan fo'n briodol, aelodau eraill o staff Proffesiynol Data Prifysgol Caerdydd.
  • Sicrhau eich bod yn deall pwysigrwydd cyfrinachedd wrth ymgymryd â phob un o’ch dyletswyddau.
  • Dilyn polisïau’r Brifysgol ar Iechyd a Diogelwch a Chydraddoldeb ac Amrywiaeth.
  • Cyflawni dyletswyddau eraill o bryd i’w gilydd nad ydynt wedi'u nodi uchod ond sy'n cyd-fynd â gofynion y swydd

Uchafswm y Cyflog

36,130

Gradd

Gradd 5

Isafswm y Cyflog

33,482

Categori Swyddi

Marchnata, y Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae dwy swydd ar gael, pob un am dymor penodol o 16 mis i ddarparu gwell Dirnadaeth o’r Farchnad i gefnogi’r broses o drawsnewid Dyfodol Academaidd.

Llwybr Gyrfa

Staff Rheoli, Proffesiynol ac Arbenigol - MPSS

Manyleb Unigolyn

Meini Prawf Hanfodol

Cymwysterau ac Addysg
  1. Gradd/NVQ Lefel 4, neu brofiad/aelodaeth broffesiynol gyfatebol
Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad
  1. giliau rhifedd a thrin a dadansoddi data rhagorol, a’r gallu i graffu ar fanylion.
  2. Sgiliau cyfathrebu rhagorol (yn ysgrifenedig ac ar lafar)
  3. Profiad o ymchwilio a dadansoddi.
  4. Y gallu i adnabod, dylunio, creu a glanhau setiau data meintiol.
  5. Y gallu i ddangos hyder wrth ddadansoddi a dehongli setiau data meintiol.
Gwasanaeth i Gwsmeriaid, Cyfathrebu a Gweithio’n Rhan o Dîm
  1. Y gallu i gyfleu gwybodaeth gysyniadol fanwl a chymhleth yn effeithiol ac yn broffesiynol i ystod eang o bobl
  2. Tystiolaeth o’r gallu i ystyried anghenion cwsmeriaid ac addasu'r gwasanaeth yn unol â hynny er mwyn sicrhau gwasanaeth o safon
Cynllunio, Dadansoddi a Datrys Problemau
  1. Tystiolaeth o’r gallu i ddatrys problemau cymhleth drwy gymryd y cam cyntaf a bod yn greadigol, gan gynnwys adnabod a chynnig atebion ymarferol a datrys problemau sydd ag ystod o ganlyniadau posibl.
  2. Tystiolaeth o’r gallu i weithio heb oruchwyliaeth yn unol â therfynau amser, gan gynllunio a gosod blaenoriaethau i’ch gwaith eich hun a gwaith pobl eraill, gan fonitro’r cynnydd.
Meini Prawf Dymunol
  1. Profiad o ddefnyddio Excel
  2. Profiad o ddefnyddio Power BI
  3. Parodrwydd i ymgymryd â hyfforddiant a datblygu
  4. Cymhwyster ôl-raddedig
  5. Profiad o weithio ym myd Addysg Uwch.
  6. Rhugl yn y Gymraeg, yn ysgrifenedig ac ar lafar
Postuler maintenant

Plus d'emplois