Platzhalter Bild

Internal Applicants Only - Senior Finance Officer chez Cardiff University

Cardiff University · Cardiff, Royaume-Uni · Onsite

£33,951.00  -  £36,636.00

Postuler maintenant

Hysbyseb

Mae'r swydd hon ar agor i weithwyr Prifysgol Caerdydd yn unig ar hyn o bryd.  Peidiwch ymgeisio os nad oes ganddoch gytundeb cyflogaeth ddilys gyda’r brifysgol.

Ymgeiswyr Mewnol yn Unig – Uwch-swyddog Cyllid


Bydd rôl yr Uwch Swyddog Cyllid wedi'i lleoli o fewn tîm Grantiau Ewropeaidd a Phrosiectau Mawr (adran Grantiau Ymchwil a Chontractau) Adran Gwasanaethau Ymchwil ac Arloesi'r Brifysgol gyda chyfrifoldeb am weinyddiaeth ariannol prosiectau ymchwil ar raddfa fawr a ariennir yn allanol.

Mae tîm Grantiau Ewropeaidd a Phrosiectau Mawr yn cwmpasu rheoli cyllid cyn ac ar ôl dyfarnu o ffynonellau'r Undeb Ewropeaidd fel Horizon Europe ynghyd â nifer gyfyngedig o ddyfarniadau cymhleth, ar raddfa fawr ac â chyllid cyfatebol o gynlluniau fel Cronfa Cryfder mewn Lleoedd UKRI.

Bydd y rôl yn cynnwys paratoi adroddiadau ariannol, monitro cyllidebau, cysoni cyfrifon a chynghori ar gymhwysedd costau a gofynion cyllidwyr, yn fewnol i'r Brifysgol ac i bartneriaid allanol.

Bydd deiliad y rôl yn cydweithio'n agos â Rheolwyr Prosiect a Rhaglen a fydd yn gyfrifol am bob agwedd ar reolaeth a gweinyddiaeth ddyddiol Prifysgol Caerdydd o'r prosiect er mwyn sicrhau bod y rhaglen yn cyflawni ei hamcanion yn llwyddiannus.

Byddwch yn cael eich cyflogi fel Uwch Swyddog Cyllid a byddwch wedi'ch lleoli o fewn tîm Grantiau Ewropeaidd a Phrosiectau Mawr (adran Grantiau Ymchwil a Chontractau) Adran Gwasanaethau Ymchwil ac Arloesi'r Brifysgol gyda chyfrifoldeb am weinyddiaeth ariannol prosiectau ymchwil ar raddfa fawr a ariennir yn allanol.

Mae tîm Grantiau Ewropeaidd a Phrosiectau Mawr yn cwmpasu rheoli cyllid cyn ac ar ôl dyfarnu o ffynonellau'r Undeb Ewropeaidd fel Horizon Europe ynghyd â nifer gyfyngedig o ddyfarniadau cymhleth, ar raddfa fawr ac â chyllid cyfatebol o gynlluniau fel Cronfa Cryfder mewn Lleoedd UKRI.

Bydd y rôl yn cynnwys paratoi adroddiadau ariannol, monitro cyllidebau, cysoni cyfrifon a chynghori ar gymhwysedd costau a gofynion cyllidwyr, yn fewnol i'r Brifysgol ac i bartneriaid allanol.

Bydd deiliad y rôl yn cydweithio'n agos â Rheolwyr Prosiect a Rhaglen a fydd yn gyfrifol am bob agwedd ar reolaeth a gweinyddiaeth ddyddiol Prifysgol Caerdydd o'r prosiect er mwyn sicrhau bod y rhaglen yn cyflawni ei hamcanion yn llwyddiannus.

Mae'r swydd hon yn llawn amser ac am gyfnod penodol tan 30 Tachwedd 2026.

Cyflog: £33,951 - £36,636 y flwyddyn (Gradd 5)

Dyddiad cau: Dydd Gwener, 14 Tachwedd 2025

Nid yw ceisiadau allanol yn cael eu hystyried ar gyfer y swydd hon ar hyn o bryd.  Os penderfynir agor y swydd i ymgeiswyr allanol, bydd yr isbennawd ar y brig yn cael ei thynnu a rhoddir digon o amser i chi wneud cais - cadwch olwg ar y dudalen am fanylion.


Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir gwneud hynny drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o wahanol gefndiroedd.  Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned beth bynnag fo’u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oed.  Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Disgrifiad Swydd

Bydd rôl yr Uwch Swyddog Cyllid wedi’i lleoli o fewn tîm Grantiau Ewropeaidd a Phrosiectau Mawr (adran Grantiau a Chontractau Ymchwil) Adran Gwasanaethau Ymchwil ac Arloesi’r Brifysgol gyda chyfrifoldeb am weinyddiaeth ariannol prosiectau ymchwil ar raddfa fawr a ariennir yn allanol (gan gynnwys cyllid Ewropeaidd). 

Bydd y rôl yn cynnwys paratoi adroddiadau ariannol, monitro cyllidebau, cysoni cyfrifon a rhoi gwybod am gymhwysedd costau a gofynion cyllidwyr, yn fewnol i'r Brifysgol a phartneriaid allanol. 

Bydd deiliad y swydd yn gweithio'n agos gyda'r Rheolwyr Prosiectau a Rhaglenni a fydd yn gyfrifol am bob agwedd ar reolaeth a gweinyddiaeth dydd i ddydd Prifysgol Caerdydd o'r prosiect i sicrhau bod y rhaglen yn cyflawni ei nodau'n llwyddiannus.

Mae'r tîm Grantiau Ewropeaidd a Phrosiectau Mawr yn ymdrin â rheoli cyllid cyn ac ar ôl dyfarnu cyllid o ffynonellau'r Undeb Ewropeaidd megis Horizon Europe ynghyd â nifer gyfyngedig o ddyfarniadau penodol ar raddfa fawr, cymhleth ac arian cyfatebol o gynlluniau megis Cronfa Cryfder Mewn Lleoedd UKRI.

Prif Ddyletswyddau

•    Rhoi cyngor ac arweiniad proffesiynol ar brosesau a gweithdrefnau’n fewnol i’r Brifysgol a phartneriaid Allanol, gan ddefnyddio crebwyll a chreadigrwydd i awgrymu’r camau gweithredu mwyaf priodol lle bo’n briodol, a sicrhau bod materion ariannol cymhleth a chysyniadol yn cael eu deall. 
•    Cyfrifoldeb am gwblhau hawliadau chwarterol y Brifysgol ar gyfer prosiectau a neilltuwyd, gan sicrhau bod yr holl gostau a godir yn unol â Rheoliadau Ariannol y Brifysgol a'r Cyllidwr perthnasol.
•    Rheoli'r prosesau archwilio a dilysu.
•    Cyfrifoldeb am fonitro cynnydd ariannol y pecynnau gwaith amrywiol o fewn a dylanwadu ar benderfyniadau cyllideb.
•    Rheoli taliadau chwarterol partneriaid, gan sicrhau cysoniad rhwng taliadau a wneir a gwariant a ddatganwyd.
•    Cynhyrchu adroddiadau rhagolygon ariannol rheolaidd, paratoi cyllidebau chwarterol, amserlennu gwariant, dadansoddi ac amlygu gwyriad/amrywiadau a chychwyn camau unioni.
•    Cefnogi adnabod risgiau ariannol yn gynnar, ac ymchwilio a dadansoddi materion ariannol penodol, gan greu adroddiadau argymhelliad ar gyfer Rheolwr y Rhaglen.
•    Presenoldeb mewn cyfarfodydd prosiect sy'n cynnwys partneriaid, cyflwyno arweiniad gweinyddol ac ariannol a sicrhau bod cynllun ariannol y prosiect yn rhedeg yn unol â'r amserlen.
•    Sicrhau bod cofnodion ariannol y rhaglen yn cael eu cadw yn unol â rheoliadau Cyfrifo'r Brifysgol, cymhwyster cost rhaglen a gofynion Cymorth Cymhorthdal.
•    Datblygu a chynnal gwybodaeth weithiol effeithiol o reolau a thelerau ac amodau'r prosiect a chefnogi cydweithwyr a staff Academaidd yn eu rhwymedigaethau cytundebol mewn perthynas â rheoli eu prosiectau.
•    Rheolaeth linell y Gweinyddwr Ariannol i sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi a bod eu hamcanion allweddol yn cael eu cyflawni
•    Cefnogi Rheolwyr Prosiect i ddarparu a choladu data adroddiadau ariannol a thystiolaeth i lywio gweithgareddau gwerthuso rhaglenni.
•    Gweithio gyda'r Rheolwr Prosiect i ddatblygu a chyflwyno hyfforddiant ar faterion ariannol a chydymffurfiaeth sy'n ymwneud â phrosiectau a neilltuwyd.
•    Ymgymryd ag ystod o ddyletswyddau gweinyddol i gefnogi'r adran.

Uchafswm y Cyflog

36,636

Gradd

Gradd 5

Isafswm y Cyflog

33,951

Categori Swyddi

Rheolaethol a Gweithredol

Gwybodaeth Ychwanegol

Y Gwasanaeth Ymchwil

Mae Caerdydd yn brifysgol uchelgeisiol ac arloesol sydd wedi'i lleoli mewn prifddinas hardd a ffyniannus. Roedd ein hymchwil sy'n arwain y byd yn y 5ed safle am ansawdd ymhlith prifysgolion y DU yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014 ac rydym yn darparu profiad addysgol rhagorol i'n 30,000 o fyfyrwyr. Gyda chyllideb flynyddol o dros £500 miliwn a thua 6,000 o staff, mae Caerdydd yn aelod o Grŵp Russell o'r 24 prifysgol ymchwil-ddwys flaenllaw yn y DU. Mae gan y Brifysgol 24 o ysgolion academaidd wedi'u grwpio'n dri choleg: Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd, Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg a'r Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol.

Uchelgais y Brifysgol yw graddio'n gyson ymhlith y 100 prifysgol orau yn y byd. Mae Caerdydd hefyd yn datblygu ei System Arloesi drwy raglen fuddsoddi â ffocws mewn pobl a seilwaith.  Mae cyllid ymchwil a sicrhawyd o ffynonellau cystadleuol, allanol yn fwy na £100 miliwn y flwyddyn ac mae'r Brifysgol yn anelu at dyfu hyn ymhellach trwy ennill grantiau o ystod eang o ffynonellau cenedlaethol a byd-eang.

Mae'r Gwasanaeth Ymchwil yn cefnogi cymuned ymchwil y Brifysgol i gychwyn a chyflwyno gweithgareddau ymchwil ac arloesi. Dan arweiniad y Cyfarwyddwr, Vanessa Cuthill, rydym yn darparu gwasanaethau trwy dros 100 o staff arbenigol wedi'u trefnu mewn pum tîm arbenigol: Y Swyddfa Grantiau Ymchwil; Uniondeb Ymchwil, Llywodraethu a Moeseg; Datblygu Ymchwil; Masnacheiddio Ymchwil ac Effaith; Strategaeth Ymchwil a Gweithrediadau ac Ymgysylltu a Phartneriaethau Busnes. Mae'r Adran yn gweithio'n agos gyda staff gwasanaethau academaidd a phroffesiynol o bob rhan o'r sefydliad.
 

Llwybr Gyrfa

Staff Rheoli, Proffesiynol ac Arbenigol - MPSS

Manyleb Unigolyn

Dyletswyddau Cyffredinol

•    Gofalu eich bod yn defnyddio eich dealltwriaeth o bwysigrwydd cyfrinachedd wrth ymgymryd â’ch holl ddyletswyddau.
•    Dilyn polisïau’r Brifysgol ar Iechyd a Diogelwch a Chydraddoldeb ac Amrywiaeth.
•    Cyflawni dyletswyddau eraill o bryd i’w gilydd nad ydyn nhw’n rhan o’r uchod, ond sy’n cyd-fynd â’r swydd.


Meini Prawf Hanfodol 

Cymwysterau ac Addysg
1.    Gradd/NVQ 4 neu brofiad/aelodaeth broffesiynol gyfatebol.

Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad
2.    Profiad sylweddol o weithio mewn rôl weinyddol ariannol.
3.    Gallu dangos gwybodaeth broffesiynol o fewn gweinyddiaeth ariannol i roi cyngor ac arweiniad i gwsmeriaid mewnol ac allanol.
4.    Y gallu i sefydlu systemau a gweithdrefnau swyddfa safonol a’u gwella fel sy’n briodol
5.    Y gallu i ddadansoddi, dehongli ac adrodd ar ddata lefel uchel.

Gwasanaethu Cwsmeriaid, Cyfathrebu a Gweithio mewn Tîm
6.    Y gallu i gyfleu gwybodaeth ariannol gysyniadol fanwl a chymhleth yn effeithiol ac yn broffesiynol gydag ystod eang o bobl ar bob lefel, mewn gwahanol fathau o sefydliadau.
7.    Tystiolaeth o allu i ymchwilio i anghenion cwsmeriaid ac addasu'r gwasanaeth yn unol â hynny er mwyn cynnig gwasanaeth o safon.

Cynllunio, Dadansoddi a Datrys Problemau
8.    Tystiolaeth o’r gallu i ddatrys problemau eang gan ddefnyddio menter a chreadigrwydd, gan nodi a chynnig atebion ymarferol a datrys problemau ag amrywiaeth o ganlyniadau posibl.
9.    Tystiolaeth o allu i weithio heb oruchwyliaeth yn unol â therfynau amser, gan gynllunio a phennu blaenoriaethau ar gyfer eich gwaith eich hun, a monitro cynnydd.
Arall
10.    Parodrwydd i hyfforddi a datblygu ymhellach.

Meini Prawf Dymunol 

11.    Cymhwyster ôl-raddedig/proffesiynol.
12.    Profiad o weinyddu ariannol prosiectau cydweithredol ar raddfa fawr.
13.    Profiad o weithio ym myd addysg uwch.
14.    Rhugl yn y Gymraeg, yn ysgrifenedig ac ar lafar.


Nodyn pwysig: Polisi'r Brifysgol yw defnyddio'r fanyleb person fel offeryn allweddol ar gyfer rhestr fer. Dylai ymgeiswyr ddangos eu bod yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol yn ogystal â, lle bo'n berthnasol, y dymunol. Fel rhan o'r broses ymgeisio, gofynnir i chi ddarparu'r dystiolaeth hon drwy ddatganiad ategol. Sicrhewch fod y dystiolaeth rydych yn ei darparu yn cyfateb i'r meini prawf rhifedig a amlinellir isod. Bydd eich cais yn cael ei ystyried yn seiliedig ar y wybodaeth rydych chi'n ei darparu o dan bob elfen.

Bydd eich cais yn cael ei asesu yn unol â’r meini prawf hanfodol a dymunol canlynol sy’n perthyn i’r swydd. Ar ôl copïo’r meini prawf hanfodol a dymunol a’u hychwanegu at ddogfen newydd, rhowch enghreifftiau clir sy’n dangos sut rydych yn bodloni pob un ohonynt, a hynny drwy ysgrifennu o dan bob un.

Byddwn yn defnyddio manyleb yr unigolyn yn adnodd allweddol wrth lunio rhestr fer. Dylai’r ymgeiswyr ddangos tystiolaeth eu bod yn bodloni pob un o’r meini prawf hanfodol yn ogystal â'r rhai dymunol, pan fo'n berthnasol. Yn rhan o’r broses ymgeisio, gofynnir ichi gyflwyno’r dystiolaeth hon ar ffurf datganiad ategol.


Wrth atodi'r datganiad ategol i'ch proffil cais, gwnewch yn siŵr eich bod yn ei enwi gyda'r cyfeirnod gwag e.e. Datganiad Cefnogi ar gyfer XXXXBR.
Postuler maintenant

Plus d'emplois