Platzhalter Bild

Internal Applicants Only - Administrative Assistant, DECIPHer chez Cardiff University

Cardiff University · Cardiff, Royaume-Uni · Hybrid

£25,249.00  -  £26,093.00

Postuler maintenant

Hysbyseb

Mae'r swydd hon ar agor i weithwyr Prifysgol Caerdydd yn unig ar hyn o bryd.  Peidiwch ymgeisio os nad oes ganddoch gytundeb cyflogaeth ddilys gyda’r brifysgol.

Ymgeiswyr Mewnol yn Unig - Cynorthwy-ydd Gweinyddol


Mae Ysgol Gwyddorau Cymdeithas Prifysgol Caerdydd yn ceisio recriwtio Cynorthwy-ydd Gweinyddol i weithio yng Nghanolfan Ymchwil y Ganolfan Datblygu, Gwerthuso, Cymhlethdod a Gweithredu mewn Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer) sydd wedi'i lleoli yn yr ysgol.

Yn rhan o’r swydd hon, byddwch yn cefnogi gwaith DECIPHer a’r prosiectau sy’n cael eu cyflawni yno, gan ddarparu gwasanaeth gweinyddol ar gyfer Cyfarwyddwr DECIPHer, y Prif Ymchwilwyr ac ymchwilwyr allweddol eraill, gan gynnwys cyflawni ystod o dasgau arferol i fodloni gofynion gweithredol a gofynion gwasanaethu cwsmeriaid. Byddwch yn gweithio’n rhan o un o dimau’r Gwasanaethau Proffesiynol i ddarparu gwasanaeth effeithlon ac effeithiol sy'n canolbwyntio ar ansawdd. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhoi cymorth ac arweiniad ar weinyddu prosiectau ymchwil, gan sicrhau bod tîm DECIPHer yn cael ei gefnogi. Bydd hefyd yn cyflawni dyletswyddau allweddol. Bydd yn rhagweithiol wrth reoli dyddiadur a rhoi cymorth gweinyddol i Gyfarwyddwr DECIPHer ac yn cefnogi’r gwaith o reoli’r ganolfan yn effeithiol.

Mae'r swydd hon yn llawn amser (35 awr yr wythnos), yn gyfnod sefydlog tan 31st Mawrth 2028 ac mae ar gael yn syth.

Cyflog: £25,249 - £26, 093 Gradd 3 y flwyddyn ((gyda gynyddrannau blynyddol hyd at cyflog terfynol ar frig y raddfa. Fel arfer, mae apwyntiadau newydd yn cael eu gwneud ar ddechrau'r raddfa gyflog.

Yn gyfrifol am  Zoe Macdonald, Rheolwr Gweinyddol, DECIPHer

Am drafodaeth anffurfiol am y rôl, cysylltwch â Zoe [email protected] 

Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig llawer o fanteision rhagorol, gan gynnwys 40 diwrnod o wyliau blynyddol (gan gynnwys gwyliau banc), gweithio cyfunol (sy'n golygu y byddwch yn gallu gweithio gartref am beth o'ch amser), cynllun beicio i'r gwaith a mentrau teithio eraill, cynyddiadau blynyddol i fyny'r raddfa gyflog, a mwy. Mae'n lle cyffrous a bywiog i weithio, gyda llawer o heriau gwahanol ac mae'n gefnogwr Cyflog Byw balch.
 
Ni yw’r brifysgol fwyaf yng Nghymru – ac rydym yn gyflogwr o bwys, sydd â thros 7,000 o staff. Rydym yn sefydliad uchelgeisiol ac arloesol mewn prifddinas hardd a llewyrchus. Gallwn gynnig cyfle i chi weithio mewn sefydliad bywiog sy’n cynnig buddion gwych a chyfleoedd i chi ddatblygu eich gyrfa.
 
Mae gweithio cyfunol yn bosibl wrth wneud y swydd hon. Mae hynny’n golygu, yn ogystal â threulio amser yn gweithio ar y campws, y gallwch dreulio rhywfaint o amser yn gweithio o leoliad arall, e.e. eich cartref. Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i gynnig yr hyblygrwydd yma, lle bynnag y bydd anghenion y swydd a’r busnes yn caniatáu hynny, er mwyn cefnogi cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.
 
Dyddiad cau: Dydd Sul, 02 Tachwedd 2025

Nid yw ceisiadau allanol yn cael eu hystyried ar gyfer y swydd hon ar hyn o bryd.  Os penderfynir agor y swydd i ymgeiswyr allanol, bydd yr isbennawd ar y brig yn cael ei thynnu a rhoddir digon o amser i chi wneud cais - cadwch olwg ar y dudalen am fanylion.


Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir gwneud hynny drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o wahanol gefndiroedd.  Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned beth bynnag fo’u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oed.  Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Disgrifiad Swydd

Prif Ddyletswyddau
  • Ymdrin ag amrywiaeth o ymholiadau gan gwsmeriaid mewnol (y staff a’r myfyrwyr) a chwsmeriaid allanol (aelodau'r cyhoedd) mewn modd proffesiynol, gan nodi eu hanghenion ac addasu'r ymatebion safonol yn briodol
  • Gweithio gyda phobl eraill i wneud argymhellion ar gyfer datblygu a gwella prosesau a gweithdrefnau presennol y Brifysgol
  • Meithrin perthynas waith dda ag enwau cyswllt allweddol i helpu i wella’r gwasanaeth
  • Cyflawni amrywiaeth o ddyletswyddau gweinyddol i gefnogi'r tîm a'r adran
  • Casglu ac adolygu data er mwyn diweddaru systemau gweinyddol, megis cronfeydd data a thaenlenni, gan sicrhau bod yr wybodaeth yn gywir a thynnu sylw eich rheolwr llinell at dueddiadau a phatrymau sylfaenol
  • Cyfrannu mewn ffordd amlwg at lwyddiant y tîm a chefnogi'r gwaith o’i oruchwylio a'i reoli
  • Rheoli dyddiadur Cyfarwyddwr DECIPHer yn rhagweithiol a chyflawni dyletswyddau gweinyddol cysylltiedig
Dyletswyddau Penodol
  • Paratoi dogfennau, cynllunio a threfnu cyfarfodydd, cymryd cofnodion/nodiadau a sicrhau bod unrhyw drefniadau teithio’n cael eu gwneud
  • Sicrhau bod systemau ffeilio effeithlon a chyfrinachol yn cael eu cynnal, gan sicrhau bod cofnodion wedi'u harchifo’n cael eu cynnal yn unol â rheoliadau diogelu data
  • Cefnogi gwaith y Gwasanaethau Proffesiynol yn DECIPHer, gan gyfrannu at gyfarfodydd tîm, datblygu arfer da yn y tîm a helpu cydweithwyr wrth eu gwaith
Dyletswyddau Cyffredinol
  • Cadw at holl bolisïau'r Brifysgol a datblygu’n bersonol ac yn broffesiynol mewn ffordd briodol
  • Cyflawni dyletswyddau eraill nad ydynt wedi’u nodi uchod ond sy’n cyd-fynd â gofynion y swydd
  • Arddel Gwerthoedd ac Ymddygiadau’r Gwasanaethau Proffesiynol neu’r hyn sy’n cyfateb iddynt yn lleol

Uchafswm y Cyflog

26,093

Gradd

Gradd 3

Isafswm y Cyflog

25,249

Categori Swyddi

Gweinyddol / Clerigol

Gwybodaeth Ychwanegol

Y Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er mwyn Gwella Iechyd y Cyhoedd

Cafodd Y Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer)  ei sefydlu gyda chyllid gan Gydweithredu ar Ymchwil Glinigol y DU (UKCRC) yn un o bump o Ganolfannau Rhagoriaeth Ymchwil Iechyd y Cyhoedd rhwng 2009 - 2019 ar y cyd â Phrifysgol Bryste a Phrifysgol Abertawe. Yn 2020, fe ddaeth yn un o Ganolfannau Rhagoriaeth Ymchwil Iechyd y Cyhoedd wedi’i ariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, ar y cyd ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, gyda chymorth ariannol tan 2025. Mae DECIPHer bellach wedi derbyn cyllid cynaliadwy gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i barhau ei waith rhwng 2025-2030.

Mae cymorth ariannol parhaus yn sicrhau y gallwn ni barhau i roi:
  • llwyfan ar gyfer iechyd y cyhoedd amlddisgyblaethol rhyngwladol sy’n arwain y byd ymchwil i wneud gwelliannau
  • awyrgylch rhyngwladol sy’n arwain y byd ar gyfer datblygu gyrfa ym maes iechyd y cyhoedd ymchwil i wneud gwelliannau
  • man amlwg yng Nghymru i weithio ar y cyd rhwng y byd academaidd, polisi, ymarfer   a'r cyhoedd mewn ymchwil gwella iechyd y cyhoedd i wneud y defnydd gorau o ymchwil, ac effaith.
Mae DECIPHer yn chwarae rhan sylweddol mewn cyfres o fuddsoddiadau pwysig wedi’u hariannu gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd, a’r Ganolfan Wolfson er Iechyd Meddwl Pobl Ifanc a chanolfan Behavioural Research-UK wedi’i hariannu gan Y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC). O fewn y pum mlynedd nesaf, bydd yn cydweithio â sefydliadau sydd wedi cael eu hariannu yn ddiweddar gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, gan gynnwys y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Atal Hunanladdiad a Hunan-Niweidio ac Uned Feiroleg Gymhwysol Cymru. Mae hefyd yn cynnal y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion a rhaglen ymchwil ac addysgu mewn methodoleg a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer datblygu a gwerthuso ymyriadau. Bydd ein gwaith ymchwil o 2025 yn anelu at wella iechyd y cyhoedd, lleihau anghydraddoldebau, ac ysgogi arloesedd methodolegol wrth ddatblygu a gwerthuso ymyriadau gwella iechyd.

Mae DECIPHER ym Mharc Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd (sbarc | spark) ochr yn ochr â nifer fawr o ganolfannau ymchwil gwyddorau cymdeithasol eraill. Mae wedi’i leoli yn bennaf yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, ac mae'n gweithio ar draws y Brifysgol, gyda rhai ymchwilwyr wedi'u lleoli yn yr Ysgol Meddygaeth. Mae Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol yn cael ei chydnabod yn rhyngwladol yn ganolfan rhagoriaeth mewn ymchwil ac addysgu ar draws ystod o bynciau, gan gynnwys cymdeithaseg, astudiaethau polisi, troseddeg, addysg a gwaith cymdeithasol.

Mae rhagor o fanylion am weithgareddau’r Ysgol ar ein hafan: https://www.cardiff.ac.uk/cy/social-sciences
 

Llwybr Gyrfa

Cymorth Gweinyddol

Manyleb Unigolyn

Meini Prawf Hanfodol 
  1. Y gallu i gyflawni tasgau gweinyddol amrywiol, gan ddangos y gallu i gymryd y cam cyntaf a blaengynllunio
  2. Profiad o weithio mewn amgylchedd gweinyddol neu swyddfa
  3. Profiad o ddefnyddio pecynnau TG a ddefnyddir yn aml mewn swyddfeydd (e.e. Microsoft Office, rhaglenni e-bost ac ati)
  4. Y gallu i sefydlu a chynnal systemau a gweithdrefnau gweinyddol safonol, gan gynnwys defnyddio systemau'r Brifysgol i gasglu a chofnodi data ar-lein ac ar ffurf copi caled (bydd hyfforddiant yn cael ei roi, lle bo angen)
  5. Y gallu i gyfathrebu ag amrywiaeth eang o bobl mewn modd effeithiol a chwrtais ond cynnal safonau proffesiynol, gan addasu eich iaith a’ch dull o gyfathrebu gan ddibynnu ar bwy rydych yn cyfathrebu ag ef
  6. Y gallu i weithio’n dda gyda'ch tîm, gan wybod sut i roi cyngor, arweiniad ac adborth (i gydweithwyr ac aelodau o'r cyhoedd) fel y bo'n briodol 
  7. Y gallu i ymdrin â cheisiadau am wybodaeth neu wasanaeth, gan ddatrys problemau cwsmeriaid lle bo’n briodol neu uwchgyfeirio problemau lle bo angen
  8. Y gallu i gynllunio a threfnu eich llwyth gwaith eich hun yn ôl yr amserlen y cytunwyd arni ac a bennwyd gan eich rheolwr llinell
  9. Y gallu i gymryd y cam cyntaf i ddatrys problemau ac ymateb i ymholiadau, gan ddod o hyd i'r ateb gorau a'i gynnig

Meini Prawf Dymunol
  • Profiad o weithio ym maes addysg uwch
  • Y gallu i siarad/deall Cymraeg, neu barodrwydd i ddysgu’r iaith

PWYSIG: Tystiolaeth o'r Meini Prawf
Polisi Prifysgol Caerdydd yw defnyddio manyleb yr unigolyn fel offeryn allweddol wrth ddethol pobl ar gyfer y rhestr fer. Felly, mae’n rhaid i ymgeiswyr ddangos tystiolaeth eu bod yn bodloni'r HOLL feini prawf hanfodol, a'r meini prawf dymunol, lle bo'n berthnasol.

Yn rhan o'ch cais, gofynnir i chi ddarparu'r dystiolaeth hon drwy ddatganiad ategol. Gwnewch yn siŵr bod eich tystiolaeth yn cyfateb i'r meini prawf a amlinellir ym manyleb yr unigolyn. Ystyrir eich cais ar sail yr wybodaeth a roddwch ar gyfer pob maen prawf.

Wrth atodi’r datganiad ategol i broffil eich cais, cofiwch roi cyfeirnod y swydd wag yn nheitl y ddogfen: XXXXBR.

Bydd eich cais mewn perygl o beidio â chael ei ddatblygu os nad ydych yn dangos tystiolaeth eich bod wedi bodloni'r holl feini prawf hanfodol. Mae'r ysgol yn croesawu cyflwyno CV i gyd-fynd â'r dystiolaeth ar gyfer meini prawf y swydd.
Postuler maintenant

Plus d'emplois