Lecturer - Occupational Therapy chez Cardiff University
Cardiff University · Cardiff, Royaume-Uni · Onsite
- Senior
- Bureau à Cardiff
Hysbyseb
Rydym yn chwilio am Ddarlithydd amser llawn i ymuno â thîm Therapi Galwedigaethol Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd.
Yn y swydd hon, byddwch yn cael cefnogaeth i gynnig addysg o ansawdd uchel a byddwch yn cyfrannu at ddatblygiad ein rhaglenni addysg. Byddwch yn cefnogi myfyrwyr i ddatblygu sgiliau allweddol ar lefelau israddedig a/neu ôl-raddedig. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn anelu at gyflawni rhagoriaeth wrth addysgu ac mewn ysgolheictod.
Rydym yn chwilio am unigolyn sydd â brwdfrydedd dros addysg arloesol sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr. Dylech fod yn drefnus, yn gydweithredol, ac yn meddu ar rinweddau arweinyddiaeth.
Dylai ymgeiswyr feddu ar radd ôl-raddedig ar lefel PhD, a bod â phrofiad clinigol perthnasol. Mae’n rhaid i’r ymgeiswyr fod wedi cofrestru’n Therapydd Galwedigaethol gyda Chyngor y Proffesiynau Iechyd a Gofal. Bydd gofyn cael tystysgrif cofnod troseddol fanwl.
Yn rhan o’u cyfnod prawf, bydd unigolion yn cael cefnogaeth i gymryd rhan yn rhaglenni Cymrodoriaethau Addysg Prifysgol Caerdydd. Ar ddiwedd y rhaglen, byddwch yn cael eich achredu’n Gymrawd.
Croesewir ymholiadau anffurfiol, ac mae modd cyfeirio’r rhain at Steve Evans, Pennaeth Proffesiynol (Therapi Galwedigaethol). E-bost: [email protected].
Cynigir y swydd hon ar Radd 6 neu Radd 7. Mae’n swydd amser llawn (35 awr yr wythnos) ac yn benagored. Bydd deiliad y swydd yn gweithio ym Mharc y Mynydd Bychan.
Wrth wneud cais am y swydd hon, nodwch y Radd yr hoffech wneud cais amdani.
Cyflog: £41,064 - £46,049 y flwyddyn (Gradd 6) neu £51,753 - £56,535 y flwyddyn (Gradd 7). Fel arfer, bydd pobl a benodir ym Mhrifysgol Caerdydd yn dechrau ar waelod y raddfa gyflog, heblaw o dan amgylchiadau eithriadol.
Dyddiad hysbysebu: Dydd Iau, 9 Hydref 2025
Dyddiad cau: Dydd Gwener, 24 Hydref 2025
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywyd personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu’r swydd.
Mae modd cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg, ac ni chaiff y rhain eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy’n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Disgrifiad Swydd
Bydd deiliad y swydd yn cyfrannu at hwyluso gweithgareddau dysgu ac ysgolheictod yn y ddarpariaeth israddedig ac ôl-raddedig yn yr Ysgol, gan gynnwys datblygu, cyflwyno, asesu a gwerthuso modiwlau/rhaglenni. Bydd yn cefnogi myfyrwyr drwy'r system tiwtor personol, yn goruchwylio prosiectau ymchwil myfyrwyr ac yn cyflawni dyletswyddau gweinyddol o fewn y maes gwaith yn ôl yr angen. Bydd yn anelu at ragoriaeth mewn addysgu ac ysgolheictod/ymchwil ac yn ysbrydoli eraill i wneud yr un fath.
PRIF DDYLETSWYDDAU A CHYFRIFOLDEBAU
Addysgu
- Cynllunio ac addysgu Therapi Galwedigaethol a rhaglenni perthnasol eraill yn rhan o dîm y modiwl, ac arwain modiwlau.
- Ysbrydoli myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig o dan arweiniad mentor / arweinydd modiwlau, a meithrin sgiliau asesu a rhoi adborth adeiladol i fyfyrwyr.
- Goruchwylio gwaith myfyrwyr, gan gynnwys goruchwylio myfyrwyr israddedig a myfyrwyr gradd Meistr, yn ogystal â chyd-oruchwylio myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig.
- Rhoi gofal bugeiliol drwy fod yn Diwtor Personol a chynnig cefnogaeth ac arweiniad i fyfyrwyr, gan feithrin a sefydlu ymddiriedaeth.
- Cyfrannu at ysgolheictod yn y maes gwaith drwy gymryd rhan mewn cynadleddau, seminarau a fforymau academaidd a phroffesiynol eraill er mwyn rhannu canlyniadau ysgolheictod unigol.
- Ymgysylltu â gweithgarwch ysgolheigaidd drwy ysgrifennu erthyglau mewn cyfnodolion a/neu roi allbwn sy’n ehangu gwybodaeth yn y maes gwaith hwn.
- Cyfrannu at ysgolheictod drwy waith rhyngddisgyblaethol gydag unigolion a thimau yng nghymuned ehangach y Brifysgol a thu hwnt.
- Cyflawni mathau eraill o ysgolheictod, gan gynnwys gwneud gwaith sy’n gysylltiedig ag asesiadau (gosod a marcio papurau a rhoi adborth adeiladol i fyfyrwyr), gweinyddu a bod yn rhan o waith pwyllgor.
- Cydweithio’n effeithiol â chyrff diwydiannol, masnachol a chyhoeddus, sefydliadau proffesiynol, sefydliadau academaidd eraill ac ati, a hynny’n rhanbarthol ac yn genedlaethol i godi proffil yr Ysgol, meithrin partneriaethau sy'n werthfawr yn strategol a chwilio am gyfleoedd i gydweithio ar amrywiaeth o weithgareddau. Bydd disgwyl i'r gweithgareddau hyn gyfrannu at waith yr Ysgol a gwella ei phroffil rhanbarthol a chenedlaethol
- Datblygu'n bersonol ac yn broffesiynol mewn ffordd addas a fydd yn gwella eich perfformiad yn y swydd
- Mentora cydweithwyr llai profiadol a rhoi cyngor ynglŷn â datblygiad personol.
- Cymryd rhan yng ngweinyddiaeth a gweithgareddau’r Ysgol er mwyn hyrwyddo’r Ysgol a’i gwaith i’r Brifysgol ehangach a’r byd y hwnt iddi.
- Cyflawni dyletswyddau eraill nad ydynt wedi’u nodi uchod ond sy’n cyd-fynd â gofynion y swydd.
- Glynu wrth bolisïau’r Brifysgol ar Iechyd a Diogelwch a Chydraddoldeb ac Amrywiaeth
- Sicrhau eich bod yn deall pwysigrwydd cyfrinachedd wrth ymgymryd â phob un o’ch dyletswyddau.
Uchafswm y Cyflog
Gradd
Isafswm y Cyflog
Categori Swyddi
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd wedi'i lleoli ar gampws y Waun ochr yn ochr â'r Ysgolion Meddygaeth a Deintyddiaeth ac mae'n rhannu'r safle gydag Ysbyty Prifysgol Cymru, gan ddod â thimau addysg, ymchwil a chlinigol ynghyd. Mae'r Ysgol yn darparu rhaglenni cyn-gofrestru ar gyfer Nyrsio Oedolion, Plant ac Iechyd Meddwl, Bydwreigiaeth, Ffisiotherapi, Therapi Galwedigaethol, Radiograffeg a Delweddu Diagnostig a Radiotherapi ac Oncoleg. Mae ganddi raglenni ôl-raddedig amlddisgyblaethol a addysgir ac ymchwil.
Mae'r Ysgol yn hyrwyddo iechyd a lles drwy addysg ac ymchwil o'r radd flaenaf. Mae ein darpariaeth amlddisgyblaethol yn sicrhau bod ein myfyrwyr yn dod yn weithwyr gofal iechyd proffesiynol medrus ac arloesol sy'n ymrwymedig i ethos o ofal sy'n seiliedig ar dystiolaeth ledled y DU a ledled y byd. Mae gan ein portffolio o ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol gymhwysol effaith glinigol uniongyrchol, gyda chryfderau penodol mewn iechyd meddwl, canser ac adsefydlu a gweithgaredd corfforol.
Mae gennym ddull cydweithredol cryf o weithio gydag Ysgolion eraill yng Ngholeg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd ac ar draws y Brifysgol gyfan. Mae'r Coleg yn ffurfio amgylchedd delfrydol ar gyfer ymchwil iechyd a biolegol gyda chwe chryfder ymchwil thematig sy'n cwmpasu Canser; Bioleg Datblygiad ac Adfywiol; Haint, Llid ac Imiwnedd; Mecanweithiau Systemau Byw; Meddwl, Ymennydd a Niwrowyddoniaeth ac Iechyd y Boblogaeth.
Llwybr Gyrfa
Manyleb Unigolyn
Cymwysterau ac Addysg
- Gradd ôl-raddedig ar lefel PhD neu uwch mewn maes pwnc cysylltiedig a chymhwyster cofrestradwy mewn Therapi Galwedigaethol.
Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad
- Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus a phortffolio ysgolheigaidd sy’n tyfu.
- Profiad o addysgu israddedigion/ôl-raddedigion (a allai gynnwys eu helpu i ddysgu drwy ymarfer) profiad sylweddol ar Radd 7
- Dangos gwybodaeth arbenigol a dealltwriaeth o ddatblygiadau cyfredol, gan ledaenu gwybodaeth a dealltwriaeth o’r fath yn y proffesiwn Therapi Galwedigaethol
- Y gallu i gynllunio a chyflwyno modiwlau sy’n rhan o raglenni addysgu’r ysgol, gan gynnwys eu datblygu’n barhaus, neu dystiolaeth o ddefnyddio sgiliau tebyg yn ymarferol
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol a’r gallu i gyflwyno syniadau cymhleth a chysyniadol yn eglur ac yn hyderus i eraill drwy ddefnyddio sgiliau o’r radd flaenaf ac ystod o gyfryngau
- Y gallu i roi cymorth bugeiliol priodol i fyfyrwyr, gwerthfawrogi anghenion ac amgylchiadau myfyrwyr unigol a bod yn diwtor personol iddynt.
Gradd 7 – Y gallu i arwain modiwlau a chydlynu gydag eraill i ddiwallu anghenion myfyrwyr a bodloni eu disgwyliadau.
- Gallu dangos tystiolaeth o greadigrwydd, arloesedd a gwaith tîm yn y gwaith.
- Y gallu diamheuol i weithio heb oruchwyliaeth fanwl.
- Gallu diamheuol i addasu i ofynion newidiol sefydliad
- Parodrwydd i ysgwyddo cyfrifoldeb dros waith gweinyddol academaidd