Administrative Assistant, CASCADE chez Cardiff University
Cardiff University · Cardiff, Royaume-Uni · Onsite
- Junior
- Bureau à Cardiff
Hysbyseb
Mae Ysgol Gwyddorau Cymdeithas Prifysgol Caerdydd yn ceisio recriwtio Cynorthwyydd Gweinyddol i weithio yn y Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol i Blant (CASCADE), Canolfan Ymchwil sydd wedi'i lleoli yn yr Ysgol.
Yn y rôl hon darparu gwasanaeth gweinyddu i’r Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant (CASCADE) a Rhaglen ExChange Wales, cymryd rhan mewn ystod o dasgau arferol, a’u cwblhau i fodloni gofynion gweithredol ac o ran gwasanaeth cwsmeriaid. Darparu cymorth ac arweiniad ar brosesau a gweithdrefnau gweinyddol CASCADE ac ExChange Wales, sicrhau bod timau CASCADE ac ExChange Wales yn cael eu cefnogi a bod dyletswyddau allweddol yn cael eu cyflawni.
Mae'r swydd hon yn llawn-amser (35 awr yr wythnos), cyfnod penodol o 1st Medi 2025 tan 31st Mawrth 2028.
Cyflog: £24,900 - £25,733 y flwyddyn (Gradd 3), gyda gynyddrannau blynyddol hyd at cyflog terfynol ar frig y raddfa. Fel arfer, mae apwyntiadau newydd yn cael eu gwneud ar ddechrau'r raddfa gyflog.
Yn gyfrifol am Sian Lewis,Swyddog Digwyddiadau a Chyfathrebu. CASCADE
Am drafodaeth anffurfiol am y rôl, cysylltwch â Sian, [email protected]
Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig llawer o fanteision rhagorol, gan gynnwys 40 diwrnod o wyliau blynyddol (gan gynnwys gwyliau banc), gweithio cyfunol (sy'n golygu y byddwch yn gallu gweithio gartref am beth o'ch amser), cynllun beicio i'r gwaith a mentrau teithio eraill, cynyddiadau blynyddol i fyny'r raddfa gyflog, a mwy. Mae'n lle cyffrous a bywiog i weithio, gyda llawer o heriau gwahanol ac mae'n gefnogwr Cyflog Byw balch.
Hysbysebwyd y swydd hon i weithwyr Prifysgol Caerdydd yn unig yn flaenorol. Rydym nawr yn gwahodd ceisiadau allanol.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir gwneud hynny drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o wahanol gefndiroedd. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned beth bynnag fo’u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oed. Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Disgrifiad Swydd
- Ymdrin ag ystod o ymholiadau gan gwsmeriaid mewnol ac allanol yn broffesiynol, gan ddeall eu gofynion ac addasu'r ymatebion safonol yn unol â hynny
- Cydweithio â phobl eraill i lunio argymhellion ar gyfer datblygu prosesau a gweithdrefnau hirsefydlog
- Cefnogi timau CASCADE ac ExChange Wales gyda gweinyddiaeth ar gyfer digwyddiadau, gweminarau a gweithdai
- Meithrin perthynas waith ag enwau cyswllt allweddol i helpu i wella’r gwasanaeth
- Ymgymryd ag amrywiaeth o ddyletswyddau gweinyddol i gefnogi timau CASCADE ac ExChange Wales
- Casglu ac adolygu data er mwyn diweddaru systemau gweinyddol, megis cronfeydd data a thaenlenni, gan sicrhau bod y wybodaeth yn gywir a thynnu sylw eich rheolwr llinell at dueddiadau a phatrymau sylfaenol.
- Cyfrannu at lwyddiant y tîm, arwain swyddogion eraill drwy esiampl a chefnogi’r gwaith o oruchwylio a rheoli’r tîm.
- Cynorthwyo i baratoi a dosbarthu deunyddiau ar gyfer digwyddiadau, lledaenu ymchwil, a chynnwys digidol, megis agendâu, cyflwyniadau, a rhestrau o gyfranogwyr.
- Darparu cymorth gweinyddol cyffredinol i dimau CASCADE ac ExChange Wales, gan gynnwys Rheolwr y Ganolfan, Rheolwr Gweinyddol, Rheolwr Rhwydwaith ExChange, Swyddogion Digidol a Gwe, a Phennaeth a Chyd-Ymchwilwyr, trwy drefnu cyfarfodydd, cydlynu argaeledd ar draws canolfannau ac endidau, trin a thrafod gohebiaeth a chymryd cofnodion.
- Monitro ac ymateb i ymholiadau cyffredinol ynghylch gweinyddiaeth CASCADE a'r rhaglen ExChange trwy fewnflychau e-bost CASCADE ac ExChange.
- Cadw cofnodion cywir o weithgareddau ExChange, gan gynnwys manylion digwyddiadau, rhestrau cyswllt, a chofnodion cyfarfodydd.
- Helpu i baratoi papurau a gofynion o ran adrodd.
- Rheoli gofynion offer swyddfa.
- Cefnogi trefniadaeth a chyflwyniad digwyddiadau CASCADE ac ExChange, gan gynnwys gweminarau, gweithdai, a chynadleddau, gan weithio'n agos gyda'r Swyddog Digwyddiadau a Chyfathrebu.
- Cydlynu logisteg ar gyfer digwyddiadau ar-lein ac yn bersonol, megis archebu lleoliadau, trefnu arlwyo, a sefydlu llwyfannau cyfarfod rhithwir.
- Cynorthwyo gyda'r broses gofrestru, gan gynnwys rheoli rhestrau mynychwyr, anfon gwahoddiadau, a phrosesu RSVPs.
- Darparu cymorth gweinyddol wrth gynhyrchu cynnwys ar-lein, gan gynnwys podlediadau, fideos a gweminarau.
- Casglu a threfnu data sy'n ymwneud â digwyddiadau ExChange a pherfformiad cynnwys digidol
- Cynorthwyo i baratoi adroddiadau ar gyhoeddiadau, canlyniadau digwyddiadau, ymgysylltu â chyfranogwyr, a metrigau digidol ar gyfer rhanddeiliaid mewnol ac allanol.
- Sicrhau bod yr holl ddata yn cael ei drin yn unol â rheoliadau GDPR.
- Mewnbynnu data ar gyfer gwariant ariannol ar bryniannau CASCADE, gan gynnwys mewngofnodi traciwr cyllid a chynorthwyo'r Rheolwr Gweinyddol gyda phrosesau caffael ac ariannol.
- Cynorthwyo i olrhain a phrosesu treuliau sy'n ymwneud â gweithgareddau ExChange, gan gynnwys prosesu anfonebau a chynnal cofnodion cyllideb.
- Sicrhau eich bod yn defnyddio eich dealltwriaeth o bwysigrwydd cyfrinachedd wrth gyflawni pob dyletswydd
- Glynu wrth bolisi Iechyd a Diogelwch a pholisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth y Brifysgol
- Cyflawni dyletswyddau eraill o bryd i'w gilydd nad ydynt wedi’u nodi uchod ond sy’n cyd-fynd â gofynion y swydd.
- Cynnal Gwerthoedd ac Ymddygiad y Gwasanaethau Proffesiynol.
Uchafswm y Cyflog
Gradd
Isafswm y Cyflog
Categori Swyddi
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae’r Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol i Blant (CASCADE) yn ymwneud â phob agwedd ar ymateb y gymuned i anghenion cymdeithasol plant a theuluoedd, gan gynnwys gwasanaethau cymorth i deuluoedd, gwasanaethau plant mewn angen, amddiffyn plant, plant sy'n derbyn gofal a mabwysiadu. Ei nod pennaf yw gwella lles a diogelwch plant a'u teuluoedd trwy:
- Cynhyrchu tystiolaeth ymchwil sylfaenol o safon a gydnabyddir yn rhyngwladol
- Peri bod canlyniadau'r ymchwil hon, ac ymchwil gan eraill, ar ffurf hygyrch i blant a theuluoedd sy'n derbyn gwasanaethau gofal cymdeithasol, gweithwyr proffesiynol a llunwyr polisïau.
- Datblygu capasiti yng Nghymru i ymchwilio i ofal cymdeithasol drwy roi cyfleoedd i ymchwilwyr, boed yn israddedigion neu’n ymchwilwyr uwch
- Ymgysylltu ag amrywiaeth o gydweithredwyr ym maes ymchwil, gan gynnwys plant a phobl ifanc, rhieni a gofalwyr, ymarferwyr, llunwyr polisïau a darparwyr gofal cymdeithasol o'r sectorau cyhoeddus a phreifat a'r trydydd sector.
Mae ExChange Wales yn dwyn ymchwilwyr blaenllaw, ymarferwyr a’r sawl sy’n defnyddio’r gwasanaeth dan sylw ynghyd i rannu arbenigedd, tystiolaeth ynghylch ymchwil a phrofiadau o ofal.
Mae ExChange Wales yn cynnig hyfforddiant rhad ac am ddim ac o safon uchel, a chefnogaeth ar gyfer datblygiad parhaus gweithwyr gofal cymdeithasol ledled Cymru. Gydag arbenigwyr cenedlaethol blaenllaw, rydym yn cyflwyno cynadleddau, gweithdai a gweminarau sy'n galluogi deialog a dysgu rhwng ymchwilwyr, llunwyr polisïau ac ymarferwyr. Mae gennym hefyd ystod amrywiol o adnoddau a phrosiectau ar-lein gan gynnwys fideos, podlediadau a blogiau. Yn hollbwysig, mae ein digwyddiadau a'n hadnoddau yn cyfoethogi sgiliau, tra’n rhoi llais pobl sydd â phrofiad bywyd ar flaen y gad, o ran ein dysgu.
Ysgol Gwyddorau Cymdeithas Prifysgol Caerdydd
Mae ExChange wedi'i leoli yn CASCADE a CASCADED yn Ysgol Gwyddorau Cymdeithas Prifysgol Caerdydd. Mae'r Ysgol yn ganolfan addysgu ac ymchwil ryngddisgyblaethol. A chanddi gysylltiadau cryf â’r diwydiant a maes meddygaeth, ei nod yw arwain trafodaethau cyhoeddus a thrafodaethau ynghylch pholisïau drwy’r byd, ledled y wlad ac yn lleol, ac mae’n enwog am ei hysgolheictod arloesol ym maes y gwyddorau cymdeithasol a thu hwnt.
Mae’r Ysgol yn gartref i nifer o ganolfannau a sefydliadau ymchwil megis Sefydliad Astudiaethau Heddlu’r Prifysgolion (UPSI), sy’n rhan o Sefydliad Ymchwil y Brifysgol i Droseddu a Diogeledd bellach; Sefydliad Ymchwil, Data a Dulliau Cymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD); Canolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol i Blant (CASCADE); y Ganolfan er Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth ym maes Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer); Y Ganolfan Ymchwil Gofal Cymdeithasol i Oedolion (CARE) a Chanolfan Ymchwil Ryngwladol y Morwyr (SIRC). Mae llawer o ganolfannau ymchwil yr Ysgol wedi'u lleoli ym Mharc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol (SPARK) y Brifysgol - y cyntaf yn y byd, ac yn rhan o Gampws Arloesedd ehangach y Brifysgol.
Mae gan yr Ysgol Peirianneg ddyfarniad Athena SWAN Efydd sy’n cydnabod arferion cyflogi da ac ymrwymiad i ddatblygu gyrfaoedd benywod sy’n gweithio yn y byd academaidd. Mae Prifysgol Caerdydd yn gyflogwr cyfle cyfartal sy'n annog unigolion cymwys â chymwysterau addas i wneud cais heb ystyried rhyw, hil, anabledd, oedran, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, crefydd neu gred, statws priodasol neu feichiogrwydd a mamolaeth. Rydyn ni’n annog merched, yn benodol, i ymgeisio am y swydd hon. Byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu’r swydd.
Llwybr Gyrfa
Manyleb Unigolyn
- NVQ 2/cymwysterau TGAU (graddau A-C) neu gymwysterau cyfatebol
- Profiad o weithio mewn amgylchedd gweinyddol neu swyddfa
- Y gallu i ddefnyddio pecynnau TG swyddfa cyffredin (e.e. Microsoft Office)
- Y gallu i sefydlu systemau a gweithdrefnau gweinyddol safonol
- Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol ac yn broffesiynol ag ystod eang o bobl
- Y gallu i weithio'n effeithiol yn aelod o dîm, a rhoi cyngor a chyfarwyddyd i aelodau eraill y tîm yn ôl yr angen
- Y gallu diamheuol i ymdopi â cheisiadau estynedig am wybodaeth neu wasanaeth, gan ddatrys problemau cwsmeriaid pan fo'n briodol
- Y gallu i gynllunio, blaenoriaethu a threfnu eich llwyth gwaith eich hun yn unol ag amserlenni y cytunir arnynt
- Y gallu i gymryd y cam cyntaf wrth ddatrys problemau ac ymateb i ymholiadau er mwyn cydymffurfio â’r gweithdrefnau a’r arferion safonol
- Parodrwydd i hyfforddi a datblygu ymhellach
- Cymwysterau Safon Uwch neu gyfatebol
- Profiad o weithio mewn lleoliad ymchwil neu ofal cymdeithasol
- Profiad o weithio ym maes Addysg Uwch
- Rhuglder yn y Gymraeg, yn ysgrifenedig ac ar lafar
Polisi Prifysgol Caerdydd yw defnyddio manyleb yr unigolyn fel offeryn allweddol wrth ddethol pobl ar gyfer y rhestr fer. Felly, mae’n rhaid i ymgeiswyr ddangos tystiolaeth eu bod yn bodloni'r HOLL feini prawf hanfodol, a'r meini prawf dymunol, lle bo'n berthnasol.
Yn rhan o'ch cais, gofynnir i chi ddarparu'r dystiolaeth hon drwy ddatganiad ategol. Gwnewch yn siŵr bod eich tystiolaeth yn cyfateb i'r meini prawf a amlinellir ym manyleb yr unigolyn. Ystyrir eich cais ar sail yr wybodaeth a roddwch ar gyfer pob maen prawf.
Wrth atodi’r datganiad ategol i broffil eich cais, cofiwch roi cyfeirnod y swydd wag yn nheitl y ddogfen: XXXXBR.
Bydd eich cais mewn perygl o beidio â chael ei ddatblygu os nad ydych yn dangos tystiolaeth eich bod wedi bodloni'r holl feini prawf hanfodol. Mae'r ysgol yn croesawu cyflwyno CV i gyd-fynd â'r dystiolaeth ar gyfer meini prawf y swydd.