Platzhalter Bild

Senior Lecturer in Design Skills chez Cardiff University

Cardiff University · Cardiff, Royaume-Uni · Onsite

£60,907.00  -  £66,537.00

Postuler maintenant

Hysbyseb

Uwch-ddarlithydd Sgiliau Dylunio - Addysgu ac Ysgolheictod
Ysgol Pensaernïaeth Cymru 


Mae Ysgol Pensaernïaeth Cymru am benodi Uwch-ddarlithydd Sgiliau Dylunio. Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd ddarparu addysgu o safon ym maes stiwdio dylunio a sgiliau dylunio, a chyfrannu at ddatblygiad addysgegol y maes pynciol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cefnogi myfyrwyr i ddatblygu sgiliau dylunio allweddol ar lefelau israddedig a/neu ôl-raddedig. Byddant hefyd yn cynnal rhagoriaeth ym maes addysgu ac ysgolheictod dylunio.

Swydd amser llawn (35 awr yr wythnos) a phenagored yw hon. 

Cyflog: £60,907 - £66,537 y flwyddyn (Gradd 8) 

Am ymholiadau anffurfiol am y swydd cysylltwch â’r Athro Ed Green [email protected] neu Kate Nash [email protected]

Dyddiad hysbysebu: Dydd Gwener, 29 Awst 2025
Dyddiad cau: Dydd Sul, 28 Medi 2025

Hysbysebwyd y swydd hon i weithwyr Prifysgol Caerdydd yn unig yn flaenorol.  Rydym nawr yn gwahodd ceisiadau allanol.


Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir gwneud hynny drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o wahanol gefndiroedd.  Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned beth bynnag fo’u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oed.  Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Disgrifiad Swydd

Datblygu addysgeg a darpariaeth addysgu'r Ysgol a'r Brifysgol ym meysydd stiwdio dylunio a sgiliau.
Cefnogi myfyrwyr i ddatblygu sgiliau dylunio allweddol ar lefelau israddedig a/neu ôl-raddedig. 
Cynnal rhagoriaeth ym maes addysgu ac ysgolheictod dylunio, ac ysbrydoli eraill i wneud yr un fath. 

Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau 

Addysgu

Darparu addysgu o safon ym maes stiwdio dylunio a sgiliau dylunio, a chyfrannu at ddatblygiad addysgegol y maes pynciol.
•    Nodi ac arwain cyfleoedd i gynllunio a chyflwyno cwricwlwm gwell neu newydd, gan gynnwys:
1)    cychwyn a rhoi modiwlau a rhaglenni newydd ar waith.
2)    datblygu strwythur modiwlau a rhaglenni presennol a gwerthuso effaith prosiectau arloesol fel y bo'n briodol.
3)    cynnal rhaglen werthuso ac ymchwil i asesu safon ac effaith yr addysgu presennol a chyfrannu’n sylweddol at ddatblygiad rhyngwladol addysgu o'r fath.
4)    Adolygu cynnwys a deunyddiau cyrsiau'n rheolaidd, gan eu diweddaru yn ôl yr angen.

•    Bod yn arweinydd rhaglenni a/neu modiwlau, gan sicrhau bod yr addysgu'n cael ei gyflwyno yn unol â’r gofynion cwricwlaidd cyfredol, datblygu a defnyddio technegau a deunydd addysgu arloesol a phriodol sy'n ennyn diddordeb, dealltwriaeth a brwdfrydedd ymhlith myfyrwyr.

•    Ymgymryd â gwaith sy'n gysylltiedig ag arholiadau, megis gosod a marcio asesiadau a rhoi adborth i fyfyrwyr.

•    Bod yn Diwtor Personol a rhoi cymorth bugeiliol i fyfyrwyr, gan gynnwys goruchwylio gwaith myfyrwyr Israddedig ac Ôl-raddedig, cyd-oruchwylio Ymchwilwyr Ôl-raddedig a bod yn aelod o banel adolygu cynnydd ymchwilwyr ôl-raddedig yn ôl y gofyn.


Ysgolheictod

•    Ymgymryd ag ymchwil addysgol, gwerthuso addysgegol a gweithgarwch ysgolheigaidd, ac arwain y gwaith hwn. Bydd hyn yn arwain at gyhoeddiadau mewn cyfnodolion ysgolheigaidd a phroffesiynol o safon.

•    Cyfrannu at gynadleddau, seminarau a fforymau academaidd a phroffesiynol eraill ar lefel genedlaethol a rhyngwladol i rannu canlyniadau eich ysgoloriaeth eich hun. 

Arweinyddiaeth

•    Arwain yn academaidd gan gydlynu gwaith eraill i sicrhau bod meysydd y cyrsiau gradd sy’n gysylltiedig â dylunio’n cael eu trefnu a'u cyflwyno'n effeithiol.

•    Bod yn rhan o gynllunio strategol adrannol a chyfrannu at brosesau cynllunio strategol ehangach y Brifysgol.

•    Cynnig cyfleoedd i staff ddatblygu, a hynny at ddibenion gwella sgiliau a gwybodaeth ym meysydd addysgeg dysgu ac addysgu, asesu ac adborth.

Arall

•    Ymgymryd â chyfrifoldebau gweithredol a gweinyddol, a'u harwain, ar gais Pennaeth yr Ysgol a'r uwch-dîm rheoli

•    Cydweithio'n effeithiol â chyrff diwydiannol, masnachol a chyhoeddus, sefydliadau proffesiynol, sefydliadau academaidd eraill, ac ati, yn rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol er mwyn codi proffil yr Ysgol, meithrin cynghreiriau strategol werthfawr, a chwilio am gyfleoedd i gydweithio ar draws sawl gweithgarwch. Bydd disgwyl i’r gweithgareddau hyn gyfrannu at yr Ysgol a gwella ei phroffil rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol.

•    Unrhyw ddyletswyddau eraill nad ydynt wedi’u nodi uchod ond sy’n cyd-fynd â gofynion y swydd.

Uchafswm y Cyflog

66,537

Gradd

Gradd 8

Isafswm y Cyflog

60,907

Categori Swyddi

Academaidd- Addysgu ac Ysgolheictod

Gwybodaeth Ychwanegol

Rydym yn un o ysgolion pensaernïaeth gorau’r DU. Cawn ein rhestru'n gyson ymhlith y 5 ysgol pensaernïaeth orau mewn tablau cynghrair pynciol cenedlaethol ac mewn prosesau asesu ymchwil cenedlaethol.

Cenhadaeth
Mae'r Ysgol yn hwyluso addysgu ac ymchwil ragorol trwy gynnal diwylliant bywiog a chydweithredol. Gan goleddu amrywiaeth a natur drawsddisgyblaethol pensaernïaeth, cynhaliwn ragoriaeth bob amser yn ein hymchwil ac arloeswn wrth addysgu a dysgu ym meysydd dylunio, y celfyddydau, crefftau, y dyniaethau a'r gwyddorau.  Rydym yn meithrin dysgwyr chwilfrydig, creadigol a moesegol a all adnabod a mynd i’r afael â heriau trwy arfer gwybodaeth a sgiliau eang eu cwmpas a hyblyg. Rydym yn meithrin synnwyr cryf o gymuned gynhwysol sy'n ffynnu yn sgil ei hamrywiaeth ac yn ymestyn y tu hwnt i'r byd academaidd i gynnwys ein cymunedau a'r byd ehangach.

Gweledigaeth
Prif nod yr ymchwil a’r addysgu a wnawn, sy'n arwain yn rhyngwladol, yw cyfrannu at y gwaith o bontio i amgylchedd adeiledig cynaliadwy a’i greu, ac a all wella lles cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol a gofalu am y blaned.
Gan elwa ar fwy na chanrif o brofiad ym maes addysg bensaernïol a hanes cryf o ragoriaeth ym maes dylunio, ymchwil, addysgu a’r genhadaeth ddinesig, ein nod hefyd yw parhau i arwain yn ein maes drwy fod yn ysgol pensaernïaeth o bwys yn y DU ac yn rhyngwladol, a hynny yn ystod ail ganrif ein bodolaeth a thu hwnt.

Llwybr Gyrfa

Addysgu ac Ysgolheictod

Manyleb Unigolyn

Meini Prawf Hanfodol 

Cymwysterau ac Addysg

1.    Gradd ôl-raddedig ar lefel PhD mewn maes  pynciol cysylltiedig neu brofiad perthnasol ym maes arferion pensaernïol.

2.    Tystysgrif Ôl-raddedig Addysgu a Dysgu yn y Brifysgol neu gymhwyster neu brofiad cyfatebol.

Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad

3.    Profiad helaeth o addysgu ar lefel israddedig/ôl-raddedig, gan arloesi wrth addysgu a datblygu a llunio cyrsiau.


4.    Enw da cenedlaethol sefydledig ac enw da cynyddol yn rhyngwladol mewn perthynas ag addysgu  ym maes dylunio pensaernïol.

5.    Y gallu diamheuol i lunio, cyflwyno a datblygu modiwlau’n barhaus ledled rhaglenni addysgu’r Ysgol, gan gyfrannu at ddatblygiad addysgol y Brifysgol.

Sgiliau Bugeiliol, Cyfathrebu a Gweithio mewn Tîm

6.    Sgiliau cyfathrebu rhagorol a'r gallu i rannu syniadau cymhleth a chysyniadol yn eglur ac yn hyderus i eraill gan ddefnyddio sgiliau o’r radd flaenaf ac ystod o gyfryngau.

7.    Y gallu i roi cymorth bugeiliol priodol i fyfyrwyr, gwerthfawrogi anghenion ac amgylchiadau myfyrwyr unigol a bod yn diwtor personol iddynt.

8.    Hanes diamheuol o arweinyddiaeth academaidd

Arall

9.    Y gallu diamheuol i ddangos creadigrwydd, bod yn arloesol a gweithio’n rhan o dîm yn y gwaith.

Meini Prawf Dymunol 

1.    Cymhwyster(au)    proffesiynol perthnasol megis y rheini y mae esemptiad yn perthyn iddynt gan Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain Rhan I, II a III a'r rheini a argymhellir/achredir gan Fwrdd Cofrestru'r Penseiri.               

2.    Tystiolaeth o gydweithio ag arferion / byd adeiladu ehangach a/neu brofiad o hyn.

3.     Y gallu diamheuol i addasu i ofynion newidiol byd Addysg Uwch. 

4.    Tystiolaeth o’r gallu i gyfrannu at rwydweithiau mewnol ac allanol, eu datblygu a’u defnyddio, a hynny i wella gweithgarwch addysgu ac ymchwil yr Ysgol. 

5.    Hanes diamheuol o fod yn gyfrifol am waith gweinyddol aca
Postuler maintenant

Plus d'emplois