Platzhalter Bild

Hybrid Administrator – School Operations Team chez Cardiff University

Cardiff University · Cardiff, Royaume-Uni · Hybrid

£28,031.00  -  £31,236.00

Postuler maintenant

Hysbyseb

Gweinyddwr
Tîm Gweithrediadau’r Ysgol


Mae’r Ysgol Ieithoedd Modern yn ceisio penodi Gweinyddwr Gweithrediadau'r Ysgol amser llawn i ddarparu cymorth proffesiynol cynhwysfawr a gwasanaeth o ansawdd uchel i'r Ysgol ar draws ystod o weithgareddau. 

Byddwch yn gweithio fel aelod o Dîm Gweithrediadau'r Ysgol, gan weithio'n agos gyda Rheolwr yr Ysgol a Rheolwr Gweithrediadau'r Ysgol i sicrhau bod gweithgareddau a swyddogaethau'r ysgol yn cael eu cynnal yn ddidrafferth. Bydd hyn yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol): digwyddiadau cyhoeddus; cyfathrebu mewnol yr ysgol; elfennau o Iechyd, Diogelwch a Lles; elfennau o Reoli Cyfleusterau, a phrosiectau arbennig.

Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn mwynhau gweithio ar draws ystod amrywiol o swyddogaethau, gyda phrofiad sylweddol o weithio mewn rôl weinyddol.

Swydd amser llawn (35 awr yr wythnos) yw hon am gyfnod penodol tan 31 Gorffennaf 2026, a bydd modd dechrau ar unwaith.

Cyflog: £28,031 – £31,236 y flwyddyn (Gradd 4).

Mae'r swydd wedi'i lleoli yn adeilad yr Ysgol ar Blas y Parc, Caerdydd.

Ar hyn o bryd, mae trefniadau ‘gweithio cyfunol’ ar waith i’r rhan fwyaf o swyddi ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae hyn yn golygu bod gan y staff yr hyblygrwydd i weithio’n rhannol o gartref ac yn rhannol o gampws y Brifysgol, gan ddibynnu ar ofynion penodol y busnes. Bydd modd trafod y trefniadau hyn ar ôl penodi'r ymgeisydd llwyddiannus.

Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig llawer o fuddion rhagorol, gan gynnwys 37 diwrnod o wyliau blynyddol (ynghyd â gwyliau cyhoeddus), pro rata i staff rhan-amser, cynllun pensiwn lleol, cynllun beicio i'r gwaith a chynlluniau teithio eraill, cynyddrannau blynyddol i fyny'r raddfa gyflog, a rhagor. Dyma le cyffrous a bywiog i weithio. Ceir llawer o heriau gwahanol yn y Brifysgol ac mae'n gefnogwr balch o’r Cyflog Byw.

Dyddiad cau: 7 Medi 2025

Hysbysebwyd y swydd hon i weithwyr Prifysgol Caerdydd yn unig yn flaenorol.  Rydym nawr yn gwahodd ceisiadau allanol.


Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gynorthwyo a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a sicrhau amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o gefndiroedd gwahanol sydd â’r uchelgais i greu Prifysgol sy’n ceisio cyflawni ei rhwymedigaeth gymdeithasol, ddiwylliannol ac economaidd i Gaerdydd, Cymru a’r byd.  Er mwyn helpu ein cyflogeion i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywyd personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu’r swydd neu weithio'n hyblyg.

Mae modd cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg, ac ni chaiff cais a gyflwynir yn Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Disgrifiad Swydd

Prif Ddyletswyddau
  • Rhoi cymorth gweithredol a gweinyddol, gan gynnwys cyngor ac arweiniad manwl ar brosesau a gweithdrefnau, i’r staff, y myfyrwyr neu aelodau’r cyhoedd mewn perthynas ag amrywiaeth o weithgareddau’r Ysgol, fel y nodir yn Niben y Swydd uchod.  Wrth ymgymryd â dyletswyddau’r swydd, defnyddio barn a chreadigrwydd i ddatrys unrhyw broblemau a allai godi, gan awgrymu'r camau gweithredu mwyaf priodol. 
  • Gweithio gydag eraill i argymell ffyrdd gwell o weithio a chyfrannu at ddatrys materion mwy cymhleth.
  • Bod yn brif gyswllt ar gyfer staff academaidd o ran trefnu digwyddiadau a gweithrediadau, ac yn bwynt cyswllt ar gyfer ymholiadau yn ymwneud â digwyddiadau allanol. Bydd hyn yn cynnwys rhoi cyngor ac arweiniad ar gynllunio a chyflwyno ystod eang o ddigwyddiadau (wyneb yn wyneb a rhithwir), megis darlithoedd cyhoeddus, digwyddiadau diwylliannol, ymweliadau VIP a chynadleddau mwy. Rheoli / cynnal digwyddiadau ar-lein ar Zoom a Teams a chynnig cymorth i ddigwyddiadau hybrid. Golygu digwyddiadau wedi'u recordio gan ddefnyddio LearnPlus i’w rhoi ar sianel YouTube yr Ysgol.
  • Rhoi cymorth gweithredol ar gyfer nifer o ddigwyddiadau a phrosiectau a chanddynt amserlenni sy'n gorgyffwrdd, gan weithio heb oruchwyliaeth i derfynau amser.  Bydd hyn yn cynnwys ymgymryd ag ystod o dasgau gan gynnwys cynllunio, cynnal cronfa ddata digwyddiadau’r Ysgol, trefnu lleoliadau, gwestai ac arlwyo, cydlynu rhestrau RSVP, a rheoli tocynnau a archebir/a brynir ar-lein gan ddefnyddio ffurflenni Microsoft, cynhyrchu a chydosod deunyddiau cynadledda a hyrwyddo, cyfathrebu â chynrychiolwyr a siaradwyr a’u cefnogi, rheoli / cynnal digwyddiadau ar-lein gan ddefnyddio Zoom a Teams a chynnig cefnogaeth i ddigwyddiadau hybrid a golygu digwyddiadau wedi'u recordio gan ddefnyddio LearnPlus ar gyfer sianel YouTube yr Ysgol.
  • Cynhyrchu a dosbarthu rhestrau digwyddiadau misol yr Ysgol, gan gysylltu â chydweithwyr ar draws yr Ysgol i sicrhau bod rhestr gynhwysfawr o weithgareddau, gan addasu gwybodaeth ac arddull ar gyfer pob math o gynulleidfa ac ysgrifennu a/neu olygu gwybodaeth. 
  • Monitro cyllidebau digwyddiadau a darparu costau, gan sicrhau bod y gwerth gorau yn cael ei gyflawni, ac adrodd ar gyllidebau yn ôl yr angen.
  • Gweithio gyda chydweithwyr o'r Ysgol a’r Coleg i hwyluso a chyfrannu at gynlluniau cyfathrebu / marchnata yn unol â chylch o weithgarwch sydd eisoes wedi’i baratoi.
  • Uwchlwytho gwybodaeth ar dudalennau gwe yr Ysgol / Brifysgol, gan ddefnyddio Squiz a drafftio eitemau newyddion ar gyfer tudalennau gwe Sefydliad Confucius Caerdydd / yr Ysgol Ieithoedd Modern.
  • Gweithio ochr yn ochr â thimau canolog i reoli a chynnal gwybodaeth gywir a chyfoes ar y tudalennau gwe allanol ac ar fewnrwyd fewnol MLANG, fel y chwiliwr cyrsiau. 
  • Cynrychioli'r ysgol mewn digwyddiadau a chyfarfodydd cyfathrebu, a rhwydweithiau mewnol ac allanol perthnasol eraill. Meithrin perthynas waith â chysylltiadau allweddol yn yr Ysgol, y Coleg a'r Brifysgol, gan rannu arfer gorau ac o ganlyniad helpu i wella'r modd y mae gweithgareddau yn yr Ysgol yn cael eu cynnal
  • Casglu a dadansoddi data (e.e. adborth o ddigwyddiadau / gweithgareddau) fel y gellir gwneud penderfyniadau gwybodus, gan sefydlu tueddiadau a phatrymau sylfaenol yn y data a darparu adroddiadau ac argymhellion ar gyfer rheolwyr.
  • Cyfarwyddo ac arwain cydweithwyr ar draws y Brifysgol ym maes digwyddiadau cyhoeddus a phrosiectau arbennig yn ôl yr angen.
Dyletswyddau Cyffredinol
  • Cyflawni dyletswyddau eraill nad ydynt wedi’u nodi uchod ond sy’n cyd-fynd â gofynion y swydd
  • Cadw at holl bolisïau'r Brifysgol a datblygu’n bersonol ac yn broffesiynol mewn ffordd briodol
  • Cynnal Gwerthoedd ac Ymddygiadau Gwasanaethau Proffesiynol y Brifysgol a’r Ysgol

Uchafswm y Cyflog

31,236

Gradd

Gradd 4

Isafswm y Cyflog

28,031

Categori Swyddi

Gweinyddol / Clerigol

Llwybr Gyrfa

Cymorth Gweinyddol

Manyleb Unigolyn

Meini Prawf Hanfodol
  1. Y gallu i gyfathrebu'n ysgrifenedig yn glir, yn gryno ac yn effeithiol i ddarparu cyngor ac arweiniad manwl ar ddigwyddiadau cyhoeddus, (gan gynnwys digwyddiadau recriwtio), a gweithgarwch cyfathrebu yn yr ysgol.
  2. Tystiolaeth o safon dda o rifedd a llythrennedd TG, gyda phrofiad o ddefnyddio meddalwedd arbenigol ar gyfer digwyddiadau a rheoli cyfathrebu e.e. ffurflenni Microsoft, meddalwedd golygu gwefannau (fel squiz).
  3. Profiad o weithio mewn swydd neu amgylchedd gweinyddol a’r gallu i sefydlu systemau a gweithdrefnau swyddfa safonol, gan wella’r rhain fel sy’n briodol
  4. Gwybodaeth a phrofiad arbenigol mewn perthynas â chynllunio a rheoli digwyddiadau.
  5. Profiad o ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol o fewn fframwaith sefydliadol/cwmni i hyrwyddo ac annog presenoldeb mewn digwyddiadau.
  6. Y gallu i gyfleu gwybodaeth arbenigol a chymhleth yn effeithiol ac yn broffesiynol i amrywiaeth o gwsmeriaid/defnyddwyr gwasanaethau y gall eu dealltwriaeth o’r mater amrywio. 
  7. Y gallu i ymchwilio i anghenion cwsmeriaid/defnyddwyr gwasanaethau ac addasu’r gwasanaeth yn unol â hynny er mwyn sicrhau bod gwasanaeth o safon yn cael ei ddarparu
  8. Y gallu i gymryd y cam cyntaf a bod yn greadigol er mwyn datrys problemau, ymateb i ymholiadau a gwneud argymhellion, gan ddod o hyd i atebion ymarferol a’u cynnig
  9. Y gallu i weithio heb oruchwyliaeth a chyflwyno gwaith mewn pryd, gan gynllunio, gosod a monitro eich blaenoriaethau chi a rhai’r tîm.
Meini Prawf Dymunol 
  1. Profiad o ysgrifennu briffiau i lywio cylchlythyrau, eitemau newyddion ar y we ac ati
  2. Profiad o weithio mewn swydd neu amgylchedd tebyg (e.e. addysg uwch)
  3. Y gallu i siarad/deall Cymraeg, neu barodrwydd i ddysgu’r iaith
Postuler maintenant

Plus d'emplois