Platzhalter Bild

Internal Applicants Only - Finance Manager presso Cardiff University

Cardiff University · Cardiff, Regno Unito · Hybrid

£41,064.00  -  £46,049.00

Candidarsi ora

Hysbyseb

Mae'r swydd hon ar agor i weithwyr Prifysgol Caerdydd yn unig ar hyn o bryd.  Peidiwch ymgeisio os nad oes ganddoch gytundeb cyflogaeth ddilys gyda’r brifysgol.

Ymgeiswyr Mewnol yn Unig - Rheolwr Cyllid
Ysgol Pensaernïaeth Cymru
Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg


Mae cyfle cyffrous wedi codi i Reolwr Cyllid ymuno ag Ysgol Pensaernïaeth Cymru. Byddwch yn aelod rhagweithiol a cholegol o staff Gwasanaethau Proffesiynol yr Ysgol, ac yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr ym maes cyllid sydd wedi'u lleoli yng Ngholeg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg. Mae'r Ysgol wedi'i lleoli yn Adeilad Bute, yn gwasanaethu myfyrwyr, staff a rhanddeiliaid sy’n ymarferwyr allanol.
Mae gweithio cyfunol yn bosibl wrth wneud y swydd hon. Mae hynny’n golygu, yn ogystal â threulio amser yn gweithio ar y campws, y gallwch ddewis gweithio o leoliad arall (e.e. eich cartref) rywfaint o’r amser. Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i gynnig yr hyblygrwydd hwn, lle bynnag y bydd anghenion y swydd a’r busnes yn caniatáu hynny, er mwyn cefnogi cydbwysedd bywyd-gwaith.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y gallu a'r brwdfrydedd i reoli dyddiadau cau a thasgau sy’n gwrthdaro, ac i ddarparu gwasanaeth cymorth arbenigol ac o safon i'r Ysgol, gan roi arweiniad i'r tîm Cyllid a chymorth uwch ar gynllunio a rheoli ariannol yr Ysgol. Bydd gofyn i chi reoli'r broses o ymgysylltu ag ymgynghorwyr allanol, gan sicrhau taliadau cywir ac amserol, yn unol â pholisïau'r sefydliad. Bydd gofyn i chi weithio fel rhan o dîm, yn yr Ysgol ac yn nhîm Cyllid ehangach y Coleg. Bydd angen i chi fod yn gyfforddus wrth uwchgyfeirio materion cyllid ar ran y tîm lle bo angen.

Swydd amser llawn yw hon (35 awr yr wythnos), am gyfnod penodol ac ar gael tan 28 Hydref 2026.

Cyflog: £41,064 - £46,049 y flwyddyn (Gradd 6)

Am drafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Jodie Butkovic (Pennaeth Cyllid) - [email protected] neu Kate Farbrace (Rheolwr yr Ysgol) [email protected]

Dyddiad cau: Dydd Mawrth, 25 Tachwedd 2025

Nid yw ceisiadau allanol yn cael eu hystyried ar gyfer y swydd hon ar hyn o bryd.  Os penderfynir agor y swydd i ymgeiswyr allanol, bydd yr isbennawd ar y brig yn cael ei thynnu a rhoddir digon o amser i chi wneud cais - cadwch olwg ar y dudalen am fanylion.


Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir gwneud hynny drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o wahanol gefndiroedd.  Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned beth bynnag fo’u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oed.  Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Disgrifiad Swydd

Prif Ddyletswyddau

Cynllunio 
  • Rhoi cymorth a chyngor ariannol arbenigol i Bennaeth yr Ysgol, Rheolwr yr Ysgol ac uwch-aelodau eraill o staff, gan roi mewnbwn i helpu i lywio strategaeth a dulliau rheoli’r Ysgol. 
  • Gweithio gyda Phennaeth yr Ysgol a Rheolwr yr Ysgol i gymryd rhan weithredol ym mhroses gosod a chynllunio cyllideb flynyddol yr Ysgol a monitro perfformiad yn erbyn cyllidebau y cytunwyd arnynt. Bydd hyn yn cynnwys paratoi datganiadau ariannol cyfnodol ar gyfer Pennaeth yr Ysgol a deiliaid cyllidebau eraill, darparu dadansoddiadau a sylwebaethau o amrywiant a chynnig camau unioni priodol lle bo angen. 
  • Cyfrannu at reolaeth ariannol hirdymor yr Ysgol, gan ddehongli strategaethau’r Ysgol yn flaenoriaethau gwaith i sicrhau bod yr holl wasanaethau ariannol yn cael eu darparu a gweithio i wella’r amgylchedd gwaith. 
  • Rheoli'r broses o ymgysylltu â chyfranwyr allanol, gan gynnwys cysylltu â nhw, eu hymsefydlu a sicrhau taliadau cywir ac amserol yn unol â pholisïau'r sefydliad.

Adrodd 
  • Cynnal cyfres o adroddiadau ariannol llawn ar gyfer yr Ysgol. Bydd y rhain yn cael eu defnyddio i hysbysu Uwch Reolwyr Ysgolion a Cholegau am berfformiad ariannol, a fydd yn cynnwys amserlenni hanesyddol, cyfredol ac yn y dyfodol. 
  • Casglu a dadansoddi data i lywio penderfyniadau, sefydlu tueddiadau a phatrymau sylfaenol mewn data a chreu adroddiadau fel y bo'n briodol e.e amlinellu incwm ffioedd myfyrwyr, dyfarniadau ymchwil a chefnogaeth a datblygu mecanweithiau Ysgol ar gyfer adrodd a monitro rheolaidd yn y meysydd hyn. Sicrhau y caiff data ei reoli a’i ddadansoddi yn ôl yr angen ar gyfer adrodd yn fewnol ac allanol. 
  • Darparu gwybodaeth rheolaeth ariannol ar gyfer amrywiol bwyllgorau Ysgolion yn fisol, ar draws holl weithgareddau’r Ysgol (Addysgu, Ymchwil, Gwasanaethau ac ati) 
  • Cymryd y prif gyfrifoldeb dros reoli’r gweithgareddau cyfrifeg ariannol a chaffael a gynhelir yn yr Ysgol yn dda, a sicrhau bod swyddogaeth prosesau busnes cysylltiedig yn effeithiol ac effeithlon. 
  • Gwneud yn siŵr bod arferion a phrosesau ariannol yr Ysgol yn cyd-fynd â rheoliadau a gweithdrefnau academaidd y Brifysgol a chefnogi staff ar draws yr Ysgol wrth eu rhoi ar waith. 
  • Datblygu dealltwriaeth fanwl o incwm a gwariant yr Ysgol a sicrhau fod cofnodion ariannol yr Ysgol yn gywir ac yn gyfredol gan ddefnyddio pecyn rheolaeth ariannol y Brifysgol (Oracle EBS ar hyn o bryd). 
  • Cynnal ymarferion costio, gwerth am arian, ymchwiliadau ac ymarferion adolygu ariannol ad hoc eraill yn ôl y gofyn. 
  • Paratoi a chynnal cysoniadau cyflog at ddibenion rheoli cyllidebol/rhagweld, gan roi cyfrif am newidiadau arfaethedig a chymeradwy mewn sefydliadau staffio. 
  • Goruchwylio'r gwaith o gynnal rhestr asedau'r Ysgolion, gan gynnwys archwiliadau cyfnodol i sicrhau cywirdeb ac adrodd ar ddiwedd y flwyddyn. 
  • Gweithredu fel llofnodwr awdurdodedig o fewn yr Ysgol. 
  • Cefnogi Rheolwyr y Coleg gyda thasgau cyfnodol sy'n ymwneud ag arian gan gynnwys gosod ffioedd, ffurflenni blynyddol (TRAC/HESA), a diwedd y flwyddyn gan sicrhau bod yr holl staff dan sylw yn gwbl ymwybodol o'u cyfrifoldebau a bod terfynau amser penodol yn cael eu cwrdd;
 

Uchafswm y Cyflog

46,049

Gradd

Gradd 6

Isafswm y Cyflog

41,064

Categori Swyddi

Cyfrifeg a Chyllid, Rheolaethol a Gweithredol

Gwybodaeth Ychwanegol

Rheoli 
  • Rheoli, arwain a chymell tîm o staff a’u cefnogi wrth iddynt gyflawni eu rolau’n effeithiol a chymryd cyfrifoldeb cyffredinol dros eu sefydlu, eu llwyth gwaith, adolygu eu perfformiad ac anghenion o ran datblygiad/hyfforddiant. 
  • Hyrwyddo ymrwymiad i gyflawni gwasanaethau o safon uchel a diwylliant o welliant parhaus yn y Tîm Cyllid. 
  • Cydweithio’n agos â chydweithwyr yng ngwasanaethau proffesiynol canolog y Brifysgol a’r Coleg i ddatrys unrhyw faterion a all godi mewn modd amserol a sicrhau bod yr Ysgol yn cyflawni ei rolau mewn perthynas â’r swyddogaethau hynny sydd wedi’u dyrannu iddi ac yn cyfrannu’n effeithiol at y gweithgareddau hynny a wneir y tu allan i'r Ysgol.
  • Rheoli gweithrediadau’r tîm cyllid. Cynllunio, trefnu a dirprwyo gwaith, gan fonitro cynnydd ac ymyrryd yn ôl yr angen. 
  • Sicrhau bod cytundebau lefel gwasanaeth y tîm yn cael eu gweithredu, gan addasu'r rhain yn unol â newidiadau o ran llwyth gwaith a gofynion cwsmeriaid yn ôl yr angen. 
  • Meithrin rhwydweithiau ledled yr Ysgolion, y Colegau a’r Brifysgol er mwyn sicrhau llwyddiant amcanion a chynlluniau hirdymor y tîm, gan rannu arferion gorau ym maes rheoli ariannol. 
  • Gwneud argymhellion er mwyn datblygu prosesau a gweithdrefnau sefydledig a sicrhau eu bod yn cael eu gweithredu yn ôl yr angen. 
  • Rheoli perfformiad, cyfnod ymsefydlu a datblygiad y timau cyllid o fewn yr ysgolion a gosod amcanion allweddol trwy'r Adolygiad Datblygiad Personol. 
  • Cynorthwyo ac arwain aelodau'r tîm pan fydd materion sy’n ymwneud â lles yn codi a mynd ati i uwchgyfeirio materion yn ôl yr angen i feysydd sy’n rhoi cymorth arbenigol. 
  • Hyfforddi pobl eraill mewn meysydd sy'n ymwneud â gwaith y tîm. 
  • Manteisio ar gyfleoedd i ddatblygu’n bersonol ac yn broffesiynol sy’n briodol i berfformiad ac a fydd yn ei wella 

Dyletswyddau Cyffredinol
  • Gwneud argymhellion ar gyfer datblygu prosesau a gweithdrefnau sydd eisoes ar waith. 
  • Rheoli perfformiad, cyfnod sefydlu a datblygiad y tîm a gosod amcanion allweddol. 
  • Cynorthwyo ac arwain aelodau'r tîm pan fydd materion sy’n ymwneud â lles yn codi a mynd ati i uwchgyfeirio materion yn ôl yr angen i feysydd sy’n rhoi cymorth arbenigol. 
  • Hyfforddi pobl eraill mewn meysydd sy'n ymwneud â gwaith y tîm. 
  • Manteisio ar gyfleoedd i ddatblygu’n bersonol ac yn broffesiynol sy’n briodol i berfformiad ac a fydd yn ei wella 
  • Gwneud yn siŵr eich bod yn defnyddio eich dealltwriaeth o bwysigrwydd cyfrinachedd wrth gyflawni eich holl ddyletswyddau. 
  • Dilyn polisïau’r brifysgol ar Iechyd a Diogelwch a Chydraddoldeb ac Amrywiaeth. 
  • Cyflawni dyletswyddau eraill sydd heb eu cynnwys uchod, ond sy’n cyd-fynd â’r rôl. 
  •  

Llwybr Gyrfa

Staff Rheoli, Proffesiynol ac Arbenigol - MPSS

Manyleb Unigolyn

(carried on from JD) 

Diben y Swydd

Rhoi cyngor a chymorth ariannol proffesiynol ar lefel uchel er mwyn datblygu a gweithredu strategaethau academaidd yr Ysgolion yng Ngholeg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg yn barhaus, gan oruchwylio a rhoi cymorth i Ysgol Pensaernïaeth Cymru.
  • Arwain a rheoli’r gwaith o gyflawni gweithgareddau cyfrifeg a chaffael ariannol yn yr Ysgol, gan sicrhau bod yr Ysgol yn cydymffurfio’n barhaus â rheoliadau a gweithdrefnau ariannol y Brifysgol, gyda gofynion y noddwr perthnasol neu’r corff rheoleiddio a’r arferion gorau o ran gwarchod arian. 
  • Rhoi gwybodaeth a chyngor rheoli ariannol o ansawdd uchel i gynorthwyo Pennaeth yr Ysgol, Rheolwr yr Ysgol, Pennaeth Cyllid y Coleg, Cyfrifydd Rheoli’r Coleg ac uwch staff eraill gyda chynllunio strategol a gweithredol a gweithgareddau rheoli. 
  • Bod yn uwch aelod o wasanaethau proffesiynol yr Ysgolion, gan weithio'n agos gyda Rheolwr yr Ysgol a chydweithwyr eraill i sicrhau cefnogaeth effeithiol ac effeithlon i weithgareddau academaidd craidd yr Ysgol.  
Manyleb yr Unigolyn


Meini Prawf Hanfodol


Cymwysterau ac Addysg
  1. Cyfrifydd Rhan-gymwysedig neu Gymwys (CCAB neu gyfwerth) neu brofiad gwaith cysylltiedig cyfatebol.
Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad
  1. Profiad sylweddol o oruchwylio gweithgareddau ariannol o fewn amgylchedd ariannol.
  2. Gallu dangos gwybodaeth broffesiynol o fewn meysydd cyllid ac ymchwil a'r polisïau a'r gweithdrefnau o amgylch y meysydd hyn, i roi cyngor ac arweiniad i gwsmeriaid mewnol ac allanol.
  3. Profiad diamheuol o ddylunio, adolygu, addasu a rhoi prosesau a systemau busnes ar waith sy’n ymatebol, yn effeithiol ac yn gost-effeithiol.
  4. Sgiliau TG rhagorol gan gynnwys gwybodaeth uwch o Excel (pivots, v lookup ayyb.) a gwybodaeth gyffredinol am ddefnyddio Microsoft Office.

Gwasanaeth i Gwsmeriaid, Cyfathrebu a Gweithio mewn Tîm
  1. Y gallu i gyfleu gwybodaeth ariannol fanwl i gynulleidfa nad yw’n gyfarwydd â’r maes ariannol a chyfleu gwybodaeth gymhleth yn effeithiol ac yn broffesiynol i ystod eang o bobl.
  2. Gallu profedig i ryngweithio â rhanddeiliaid, ac o fewn sawl rhwydwaith, er mwyn cyfrannu at ddatblygiadau hirdymor. 
  3. Profiad o reoli tîm ac ymdrin â materion perfformiad a lles a thystiolaeth o allu i gynllunio gwaith tîm, dros gyfnodau amser estynedig, gan ymateb i newidiadau mewn llwyth gwaith a blaenoriaeth.
  4. Tystiolaeth o’r gallu i ymchwilio i anghenion cwsmeriaid ac addasu'r gwasanaeth yn unol â hynny er mwyn sicrhau bod gwasanaeth o safon yn cael ei ddarparu

Datrys Problemau, Cynllunio, Dadansoddi
  1. Tystiolaeth o’r gallu i ddatrys problemau sylweddol drwy gymryd y cam cyntaf a bod yn greadigol, gan gynnwys canfod a chynnig atebion ymarferol ac arloesol.

Meini Prawf Dymunol
 
  1. Profiad o weithio ym maes Addysg Uwch.
  2. Rhuglder yn y Gymraeg, yn ysgrifenedig ac ar lafar
Candidarsi ora

Altri lavori