Adleoli Mewnol yn Unig - Gweinyddydd Adnoddau Dynol presso Cardiff University
Cardiff University · Cardiff, Regno Unito · Onsite
- Junior
- Ufficio in Cardiff
Advert
The ability to work through the medium of Welsh is essential to this role.
Adleoli Mewnol yn Unig - Gweinyddydd Adnoddau Dynol
Mae Ysgol y Gymraeg yn ysgol groesawgar a llewyrchus sydd ar y brig yn y Times Good University Guide ar gyfer Astudiaethau Celtaidd. Rydym yn falch o fod yn gartref cefnogol i’n staff academaidd a staff gwasanaethau proffesiynol sydd yn darparu profiad rhagorol i'n cymuned arbennig o fyfyrwyr.
Mae Ysgol y Gymraeg yn chwilio am Weinyddydd Adnoddau Dynol i ymuno â’i thîm gwasanaethau proffesiynol cyfeillgar. Bydd y swydd yn gyfrifol am weinyddu materion Adnoddau Dynol o ddydd i ddydd, cefnogi Pennaeth yr Ysgol fel Cynorthwyydd Personol, darparu cymorth gweinyddol i Reolwr yr Ysgol ac Ysgrifenyddiaeth yr Ysgol.
Mae'r swydd yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau gweinyddol, gan gynnwys gyfrifoldeb dros brosesau gweinyddol Adnoddau Dynol megis recriwtio, cyfnod prawf, a gwyliau, taliadau misol i staff fesul awr, cadw a chynnal systemau AD a ffeiliau personol y staff, a darparu gwasanaeth gweinyddol i bwyllgorau sefydlog yr Ysgol.
Os ydych am drafod y swydd mewn rhagor o fanylder, mae croeso ichi gysylltu â Cadi Thomas, Rheolwr yr Ysgol.
Mae'r swydd hon yn un rhan amser (21 awr yr wythnos) a thymor penodol tan 31 Gorffennaf 2027.
Cyflog: £28,031 - £31,236 y flwyddyn, pro rata (Gradd 4)
Dyddiad Cau: Dydd Gwener, 26 Medi 2025
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gallwn wneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o wahanol gefndiroedd sydd am greu Prifysgol sy'n ceisio cyflawni ein rhwymedigaeth gymdeithasol, ddiwylliannol ac economaidd i Gaerdydd, Cymru, a'r byd. Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Job Description
Gan weithio o dan gyfarwyddyd y Rheolwr Ysgol a'r Pennaeth Ysgol, a chan gydweithredu ag aelodau eraill o staff academaidd a chydweithwyr yn y tîm Gwasanaethau Proffesiynol, darparu gwasanaeth sy'n cefnogi'r Ysgol fel Cynorthwyydd Personol i'r Pennaeth Ysgol, cymorth gweinyddol i'r Rheolwr Ysgol, rheoli Ysgrifenyddiaeth yr Ysgol, a gweinyddu Adnoddau Dynol o ddydd i ddydd.
Dyletswyddau a Chyfrifoldebau
Dyletswyddau Allweddol
Cynorthwyydd Personol
- Rhoi cymorth gweinyddol, proffesiynol ac effeithiol i'r Pennaeth Ysgol.
- Drafftio gohebiaeth a dogfennaeth ar ran y Pennaeth Ysgol, yn Gymraeg ac yn Saesneg ar lefel uchel o gymhwysedd proffesiynol.
- Bod yn gyfrifol am galendr y Pennaeth Ysgol gan gynnwys trefnu cyfarfodydd.
- Cydlynu ag is-adrannau gweinyddol Ysgolion eraill, y Coleg a'r Brifysgol yn ganolog, ac â chysylltiadau allanol fel y bo'n briodol i anghenion busnes y Pennaeth Ysgol; a sicrhau bod esboniadau a dehongliadau gofalus yn cael eu rhoi a'u deall, gan ddangos ymwybyddiaeth o'r hyn y dylid ei gyfathrebu a'r ffordd orau o gyfathrebu gwybodaeth berthnasol.
- Ateb y ffôn ar ran y Pennaeth Ysgol gan ymdrin â galwadau bryd bynnag y bo'n bosibl, cofnodi negeseuon a trosglwyddo galwadau mewn ffordd broffesiynol.
- Bod yn gyfrifol am drefniadau sy'n ymwneud ag ymwelwyr y Pennaeth Ysgol.
Ysgrifenyddiaeth yr Ysgol
- Rheoli gwasanaethu proffesiynol pob cyfarfod ffurfiol a phwyllgorau sefydlog yn yr Ysgol, gan weithio ar y cyd â chydweithwyr Gwasanaethau Proffesiynol ac academaidd: trefnu cyfarfodydd, creu agendâu, drafftio cofnodion, cyfathrebu'r camau gweithredu y cytunwyd arnynt a monitro cynnydd.
- Yn gyfrifol am gynhyrchu'r Calendr Ysgol a'i gynnal a'i gadw a'i ddiweddaru fel y bo angen.
Gweinyddu Adnoddau Dynol
- Yn gyfrifol am brosesau gweinyddol AD yr Ysgol, a bod yn gyswllt â thîm AD y Coleg a'r Brifysgol.
- Cynrychioli'r Ysgol ym mhob Grŵp Defnyddwyr AD, gan roi adborth am unrhyw wybodaeth berthnasol i'r Rheolwr Ysgol ei hystyried a gweithredu arni.
- Gweithio gyda chyd-weithwyr yn yr Ysgol i sicrhau taliadau cywir i staff achlysurol a fesul awr.
- Rheoli ffeiliau personol y staff.
- Gweinyddu'r cyfnod prawf, arfarnu, cofnodi absenoldeb a bwcio gwyliau.
- Gweinyddu'r prosesau recriwtio staff gan gynnwys gwiriadau mewnfudo.
- Gweinyddu prosesau cytundebol y staff.
- Cydlynu'r broses ymgeisio ar gyfer dyfarnu absenoldeb ymchwil yn unol â pholisi'r Ysgol a'r Brifysgol.
- Cynnal a chadw systemau AD (corehr a Kenexa).
Dyletswyddau Cyffredinol
- Sicrhau y defnyddir dealltwriaeth o bwysigrwydd cyfrinachedd wrth ymgymryd â phob dyletswydd.
- Dilyn polisïau'r Brifysgol ar Iechyd a Diogelwch a Chydraddoldeb ac Amrywiaeth.
- Gwneud dyletswyddau eraill o bryd i'w gilydd nad ydynt wedi'u cynnwys uchod, ond a fydd yn gyson â'r rôl.
Salary Range Max.
Grade
Salary Range Min.
Job Category
Career Pathway
Person Specification
1. Gallu cyfathrebu'n ysgrifenedig yn glir, yn gryno, ac yn effeithiol i roi cyngor ac arweiniad manwl ar weithdrefnau a pholisïau Adnoddau Dynol.
2. Tystiolaeth o safon dda o rifedd a llythrennedd TG.
3. Profiad o weithio mewn rôl weinyddol neu swyddfa a gallu sefydlu systemau a gweithdrefnau swyddfa safonol, a gwneud gwelliannau fel y bo'n briodol.
4. Gwybodaeth arbenigol am weithdrefnau a pholisïau Adnoddau Dynol.
5. Tystiolaeth o allu i gyfleu gwybodaeth arbenigol a chymhleth mewn modd effeithiol a phroffesiynol (ar lafar ac yn ysgrifenedig) i ystod o gwsmeriaid â gwahanol lefelau o ddealltwriaeth.
6. Y gallu i gynghori rhanddeiliaid allweddol yn eich maes gwaith a dylanwadu arnynt.
7. Tystiolaeth o allu i ymchwilio i anghenion cwsmeriaid ac addasu eich gwasanaeth yn unol â hynny er mwyn cynnig gwasanaeth o safon.
8. Y gallu i gymryd y cam cyntaf a bod yn greadigol er mwyn datrys problemau, ymateb i ymholiadau a gwneud argymhellion, gan nodi a chynnig atebion ymarferol a chymhwyso cyfrinachedd bob amser.
9. Y gallu i weithio heb oruchwyliaeth yn unol â therfynau amser, cynllunio, pennu a monitro eich blaenoriaethau chi a’r tîm.
10. Profiad o weithio mewn rôl weinyddol, gyda chyfrifoldebau yn cynnwys cymryd cofnodion cyfarfodydd a rheoli dyddiaduron.
Meini Prawf Dymunol
1. Cymhwyster CIPD Lefel 3
2. Profiad o weithio mewn rôl neu gyd-destun tebyg, e.e. Addysg Uwch.