Internal Applicants Only - School Technician presso Cardiff University
Cardiff University · Cardiff, Regno Unito · Onsite
- Junior
- Ufficio in Cardiff
Hysbyseb
Ymgeiswyr Mewnol yn Unig - Technegydd Ysgol
Yr Ysgol Meddygaeth
Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Gwyddorau Bywyd
Mae'r Ysgol Meddygaeth, sydd wedi'i lleoli yn Adeilad Hadyn Ellis, yn chwilio am Dechnegydd labordy i weithio’n rhan o dîm technegol craidd sy'n darparu cefnogaeth dechnegol ar y safle yn rhan o’r Ysgol Meddygaeth, gan ddarparu cyngor, arweiniad ac arbenigedd technegol arbenigol i'r gymuned ymchwil.
Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig llawer o fanteision rhagorol, gan gynnwys 40 diwrnod o wyliau blynyddol (gan gynnwys gwyliau banc), cynllun pensiwn lleol, cynllun beicio i'r gwaith a mentrau teithio eraill, cynyddrannau blynyddol o fewn y raddfa gyflog, a mwy. Dyma le cyffrous a bywiog i weithio lle mae llawer o heriau gwahanol. Mae’r Brifysgol hefyd yn falch o gefnogi’r Cyflog Byw.
Cysylltwch ag Emma Dalton, Rheolwr Labordai ([email protected]), am drafodaeth anffurfiol, gyfrinachol am y rôl.
Swydd amser llawn a phenagored (35 awr yr wythnos) yw hon ac mae modd dechrau ar unwaith.
Cyflog: £25,249 – £26,093 y flwyddyn (Gradd 3) Fel arfer, bydd pobl a benodir ym Mhrifysgol Caerdydd yn dechrau ar waelod y raddfa gyflog, heblaw o dan amgylchiadau eithriadol.
Dyddiad cau: Dydd Mawrth, 30 Medi 2025
Nid yw ceisiadau allanol yn cael eu hystyried ar gyfer y swydd hon ar hyn o bryd. Os penderfynir agor y swydd i ymgeiswyr allanol, bydd yr isbennawd ar y brig yn cael ei thynnu a rhoddir digon o amser i chi wneud cais - cadwch olwg ar y dudalen am fanylion.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a sicrhau diwylliant gwaith cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Er mwyn cefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywyd personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu’r swydd neu weithio'n hyblyg.
Mae modd cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg, ac ni chaiff cais a gyflwynir yn Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Disgrifiad Swydd
Dyletswyddau a Chyfrifoldebau
Prif Ddyletswyddau
Darparu gwasanaeth i staff a myfyrwyr drwy gynnal a chadw, gwasanaethu ac atgyweirio deunyddiau, peiriannau ac offer i gefnogi adrannau ymchwil mewn amgylcheddau labordy yn yr Ysgol Meddygaeth, gan gynghori a hyfforddi staff a myfyrwyr ar eu defnydd diogel a phriodol gan ddefnyddio canllawiau sefydledig (Gweithdrefnau Gweithredu Safonol)
Paratoi'r holl ddeunyddiau a chyfarpar yn ôl yr angen i’w defnyddio gan gwsmeriaid a sicrhau bod y man rydych yn gyfrifol amdano’n cael ei gadw’n lân ac yn daclus
Rheoli stoc, gan sicrhau bod lefel y stoc yn cael ei chynnal a bod y stoc yn cael ei diogelu’n ddigonol a’i dosbarthu yn ôl yr angen
Delio ag ymholiadau cyffredinol gan gwsmeriaid mewnol ac allanol mewn modd proffesiynol, gan ddilyn gweithdrefnau sydd ar waith, cyfeirio ymholiadau cymhleth at yr aelodau perthnasol o’r staff a sicrhau bod yr holl ffeithiau a gwybodaeth angenrheidiol yn cael eu cofnodi a'u trosglwyddo i’r bobl briodol
Helpu i gadw cofnodion cyffredinol, diweddaru cronfeydd data a dadansoddi data/gwybodaeth gyffredinol yn ôl yr angen
Cofnodi canlyniadau arbrofion mewn fformat hawdd ei ddefnyddio a'i gyflwyno, a helpu staff a myfyrwyr i baratoi deunyddiau/data technegol ar gyfer y dyfodol, e.e. at ddibenion addysgu neu gyhoeddi
Cynllunio a rheoli prosiectau bach, gan wneud yn siŵr bod adnoddau'n cael eu defnyddio'n effeithiol
Cymryd rhan flaenllaw yng ngwaith y tîm, gan osod esiampl a dangos ymagwedd hyblyg at gyflawni canlyniadau'r tîm
Dyletswyddau Cyffredinol
Sicrhau eich bod yn defnyddio eich dealltwriaeth o bwysigrwydd cyfrinachedd wrth gyflawni pob dyletswydd
Cadw at bolisïau’r Brifysgol ar Iechyd a Diogelwch a Chydraddoldeb ac Amrywiaeth
Cyflawni dyletswyddau eraill o bryd i'w gilydd nad ydynt wedi'u cynnwys uchod, ond sy'n cyd-fynd â'r rôl
Uchafswm y Cyflog
Gradd
Isafswm y Cyflog
Categori Swyddi
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae’n rhaid ichi fodloni rhai gofynion cyn gallu dechrau’r swydd (gweler yr adran ‘Meini Prawf Hanfodol’), ond bydd modd datblygu sgiliau eraill drwy gael hyfforddiant neu brofiad cyffredinol yn y gwaith. Rydym yn awyddus i'ch cefnogi a’ch datblygu ar ôl ichi ddechrau yn y swydd gan ddefnyddio cyfuniad o’r canlynol er mwyn sicrhau eich bod yn gallu rhoi o’ch gorau:
1. Cyfarfodydd un i un rheolaidd gyda'ch rheolwr
2. Tîm profiadol a chefnogol o'ch cwmpas
3. Cefnogi’r hyfforddiant a’r datblygiad sy'n berthnasol i'ch swydd ac y bydd ei angen arnoch o bosibl
Gwybodaeth ychwanegol
PWYSIG: Tystiolaeth o Feini Prawf
Mae'n bolisi gan yr Ysgol Meddygaeth ddefnyddio manyleb yr unigolyn yn adnodd allweddol wrth ddethol pobl ar gyfer y rhestr fer. Dylai’r ymgeiswyr ddangos tystiolaeth eu bod yn bodloni’r HOLL feini prawf hanfodol, yn ogystal â’r meini prawf dymunol, pan fo hynny’n berthnasol. Yn rhan o’r broses ymgeisio, bydd gofyn ichi roi’r dystiolaeth hon ar ffurf datganiad ategol.
Wrth gyflwyno'r ddogfen hon/ei hatodi i broffil eich cais, cofiwch roi cyfeirnod y swydd wag yn y teitl. Yn achos y swydd hon, y cyfeirnod yw 20458BR
Os na fydd ymgeiswyr yn cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig sy’n dangos eu bod yn bodloni pob un o’r meini prawf hanfodol, ni fydd eu cais yn symud ymlaen. Mae'r Ysgol Meddygaeth yn croesawu derbyn CVs i ategu tystiolaeth o feini prawf y swydd.
Llwybr Gyrfa
Manyleb Unigolyn
Cymwysterau ac Addysg
- NVQ 2/TGAU A-C neu gymhwyster cyfatebol/profiad cyfatebol sy'n gysylltiedig â'r gwaith
- Profiad o osod, cynnal a chadw a thrwsio cyfarpar
- Profiad sylweddol o weithio mewn swydd cymorth technegol
- Hyfedredd o ran defnyddio pecynnau TG priodol
Gwasanaethau i Gwsmeriaid, Cyfathrebu a Gweithio mewn Tîm
- Gallu cyfathrebu'n effeithiol ac yn broffesiynol ag amrywiaeth eang o bobl
- Tystiolaeth o allu gweithio'n effeithiol yn aelod o dîm, gan roi cyngor ac arweiniad i aelodau eraill y tîm lle bo angen
- Gallu delio â cheisiadau am wybodaeth neu wasanaeth yn brydlon, yn effeithiol ac yn gwrtais
- Gallu cymryd y cam cyntaf wrth ddatrys problemau ac ymateb i ymholiadau er mwyn cydymffurfio â gweithdrefnau ac arferion safonol
- Gallu gweithio o'ch pen a'ch pastwn eich hun a heb oruchwyliaeth i derfynau amser, gan gynllunio, trefnu a phennu blaenoriaethau ar gyfer eich gwaith eich hun, yn ogystal â rheoli prosiectau bach fel y bo'n briodol
- Y gallu i ddilyn a datblygu Gweithdrefnau Gweithredu Safonol a'u hadolygu'n rheolaidd
Meini Prawf Dymunol
- Cymwysterau Safon Uwch neu gyfatebol, neu brofiad cyfatebol sy'n gysylltiedig â'r gwaith mewn labordy
- Parodrwydd i hyfforddi a datblygu ymhellach
- Profiad o weithio ym maes Addysg Uwch
- Rhuglder yn y Gymraeg, yn ysgrifenedig ac ar lafar