Platzhalter Bild

Internal Applicants Only - Registry Operations Business Expert presso Cardiff University

Cardiff University · Cardiff, Regno Unito · Hybrid

51.753,00 £  -  56.535,00 £

Candidarsi ora

Hysbyseb

Mae'r swydd hon ar agor i weithwyr Prifysgol Caerdydd yn unig ar hyn o bryd.  Peidiwch ymgeisio os nad oes ganddoch gytundeb cyflogaeth ddilys gyda’r brifysgol.

Ymgeiswyr Mewnol yn Unig - Arbenigwr Busnes Gweithrediadau Cofrestrfa - Amser Part Time

Mae Dysgu Hyblyg Gydol Oes yn un o'r gweithgareddau sy’n rhan o'r gwaith o wireddu strategaeth y Brifysgol, sef Ein dyfodol, gyda'n gilydd.

Bydd sefydliad newydd ar gyfer Dysgu Hyblyg Gydol Oes newydd yn cael ei sefydlu a fydd yn dod â gwybodaeth ac arbenigedd y Brifysgol ynghyd. Bydd yn cefnogi timau academaidd i ddatblygu a chyflwyno gwasanaeth dysgu gydol oes hyblyg newydd ac ehangach, a hynny er mwyn cyflawni “portffolio o gynigion addysgol newydd gan gynnwys gwasanaeth dysgu hyblyg gydol oes wedi’i rannu’n fodiwlau.” Bydd hyn yn arwain at amrywio ein ffrydiau incwm a thyfu rhai newydd, yn ogystal ag ehangu darpariaethau’r Brifysgol i ystod ehangach o ddysgwyr. 

Mae'r penodiad hwn wedi codi er mwyn cynnig arweiniad ar gyfnod rhaglen a fydd yn para tair blynedd er mwyn sefydlu a chefnogi'r sefydliad newydd. Yn Arbenigwr Busnes ar gyfer Dysgu Hyblyg Gydol Oes o fewn Gweithrediadau'r Gofrestrfa, byddwch yn gweithio'n agos gyda Gweithrediadau'r Gofrestrfa a thîm ehangach y rhaglen Dysgu Hyblyg Gydol Oes i gefnogi'r Brifysgol i sefydlu dulliau newydd o ddysgu hyblyg gydol oes, cynnig cyngor, arweiniad a chymorth, ac arwain prosiectau yn y maes hwn.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn greadigol ac yn angerddol am newid trawsnewidiol ym maes addysg. Bydd ganddo sgiliau cyfathrebu a rheoli prosiectau rhagorol a bydd yn ffynnu mewn amgylchedd gweithio hyblyg, ystwyth a chydweithredol. Bydd hefyd yn meithrin cysylltiadau gwaith parchus ac empathig i ysbrydoli gwelliant parhaus. 

Swydd am gyfnod penodol tan 31 Gorffennaf 2028 yw hon ac mae ar gael ar unwaith. Croesewir ceisiadau am secondiad gan ymgeiswyr yn y Brifysgol.

Oriau Gwaith Wythnosol: 17 awr 30 munud.

Cyflog: £51,753 - £56,535 pro rata bob blwyddyn (Gradd 7).

Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig llawer o fuddion rhagorol, gan gynnwys 37 diwrnod o wyliau blynyddol (yn ogystal â gwyliau banc), pro-rata ar gyfer rhan amser, cynllun pensiwn, gweithio cyfunol (sy'n golygu y byddwch yn gallu gweithio gartref am beth o'ch amser), cynllun beicio i'r gwaith a mentrau teithio eraill, cynyddiadau blynyddol i fyny’r raddfa gyflog, a mwy. Mae'n lle cyffrous a bywiog i weithio ynddo, gyda llawer o heriau gwahanol ac mae'n gefnogwr Cyflog Byw balch.

I gael rhagor o wybodaeth am gydbwysedd bywyd-gwaith, buddion ariannol, datblygiad a lles, a rhai o’r cyfleusterau a’r gwasanaethau sydd ar gael i staff ym Mhrifysgol Caerdydd, ewch i Yr hyn y gallwn ei gynnig - Swyddi - Prifysgol Caerdydd

Dyddiad cau: 15 Medi 2025

Nid yw ceisiadau allanol yn cael eu hystyried ar gyfer y swydd hon ar hyn o bryd.  Os penderfynir agor y swydd i ymgeiswyr allanol, bydd yr isbennawd ar y brig yn cael ei thynnu a rhoddir digon o amser i chi wneud cais - cadwch olwg ar y dudalen am fanylion.


Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir gwneud hynny drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o wahanol gefndiroedd.  Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned beth bynnag fo’u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oed.  Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.

Disgrifiad Swydd

Diben y Swydd

Cefnogi prosiect Dysgu Hyblyg Gydol Oes y Brifysgol, gan ddarparu cyngor, arweiniad a chefnogaeth. Gweithio â chydweithwyr o bob rhan o Golegau ac Ysgolion y Brifysgol, mewn partneriaeth â TG a’r Academi Dysgu ac Addysgu (LTA), i adolygu a sefydlu systemau a phrosesau i gefnogi amcanion y prosiect. Bydd angen i chi feddu ar wybodaeth am ystod lawn o brosesau gweithredol prifysgol a deall pob agwedd ar ddefnyddio System Rheoli Gwybodaeth Myfyrwyr (SIMS) neu system cofnodion myfyrwyr arall a'r rhyngddibyniaethau rhwng systemau.  Bydd angen i chi gynghori i sicrhau bod y gweithdrefnau a'r systemau a ddatblygwyd yn gallu cefnogi gofyniad adrodd statudol y Brifysgol.

Dyletswyddau a Chyfrifoldebau

Prif Ddyletswyddau
  • Darparu cyngor ac arweiniad proffesiynol ar systemau’r gofrestrfa, prosesau a gweithdrefnau i gwsmeriaid mewnol ac allanol a fydd yn cael effeithiau ar draws y sefydliad, a chynnig cyngor ar effaith prosesau a gweithdrefnau’r Brifysgol ar ddatblygiadau a chynlluniau strategol.
  • Bod yn gyfrifol am ddatrys problemau'n annibynnol o fewn y gofrestrfa lle mae'r problemau'n effeithio ar amcanion y prosiect, defnyddio synnwyr cyffredin a chreadigrwydd wrth awgrymu'r camau gweithredu gorau, gan gynghori â chydweithwyr a sicrhau bod cynulleidfaoedd yn deall materion cymhleth a chysyniadol a’u datrysiadau.
  • Cynghori a chefnogi'r rhai sy'n cyflawni prosiectau sydd ag effaith ar y sefydliad cyfan, gan fonitro cynnydd ac ymyrryd yn ôl yr angen.
  • Ymchwilio a dadansoddi materion penodol ar gyfer y prosiect, gan greu adroddiadau argymhellion, wedi'u cefnogi gan ddatblygiadau’n rhan o systemau, prosesau a gweithdrefnau.
  • Sicrhau bod y ddarpariaeth o systemau prifysgol yn ystyried prosesau a gweithdrefnau o'r dechrau i'r diwedd.  Newid yn rhagweithiol y ffordd y mae'r systemau'n cael eu darparu i gefnogi'r broses yn effeithiol yn unol â gofynion y cwsmer, gan gyfrannu at ddatblygu safonau ar draws y sefydliad yn rhan o’r rhaglen Dysgu Hyblyg Gydol Oes.
  • Meithrin perthynas â chysylltiadau o bwys i wneud yn siŵr bod amcanion y swydd yn cael eu bodloni, gan ddatblygu cysylltiadau cyfathrebu addas yn y Brifysgol a chyda chyrff allanol yn ôl yr angen.
  • Creu gweithgorau penodol o gydweithwyr ar draws y Brifysgol i gyflawni amcanion y prosiect a sicrhau ymgynghori â rhanddeiliaid allweddol.
  • Datblygu a chyflwyno hyfforddiant ar systemau, prosesau a gweithdrefnau prifysgol.
  • Ymgymryd ag amrywiaeth o ddyletswyddau gweinyddol i gefnogi'r prosiect.
  • Cyfarwyddo ac arwain gweithwyr eraill yn y prosiect yn ôl yr angen.

Dyletswyddau Cyffredinol
  • Sicrhau eich bod yn defnyddio eich dealltwriaeth o bwysigrwydd cyfrinachedd wrth gyflawni pob dyletswydd.
  • Cadw at bolisïau’r Brifysgol ar Iechyd a Diogelwch a Chydraddoldeb ac Amrywiaeth.
  • Cyflawni dyletswyddau eraill o bryd i'w gilydd nad ydynt wedi’u nodi uchod ond sy’n cyd-fynd â gofynion y swydd.

Uchafswm y Cyflog

56,535

Gradd

Gradd 7

Isafswm y Cyflog

51,753

Categori Swyddi

Rheolaethol a Gweithredol

Llwybr Gyrfa

Staff Rheoli, Proffesiynol ac Arbenigol - MPSS

Manyleb Unigolyn

YR HYN Y BYDD EI ANGEN ARNOCH ER MWYN YMGYMRYD Â’R SWYDD HON (MANYLEB Y PERSON)

Fel arfer mae sgiliau, cymwysterau neu brofiadau penodol y dylai unrhyw weithiwr feddu arnyn nhw cyn y gellir eu hystyried ar gyfer swydd.  Bydd rhai o'r rhain yn hanfodol ac ni fyddech yn gallu cyflawni'r rôl hebddynt, ond mae rhai yn ddymunol.

Polisi’r Brifysgol yw defnyddio manyleb yr unigolyn yn adnodd allweddol wrth ddethol pobl ar gyfer y rhestr fer. Dylai’r ymgeiswyr ddangos tystiolaeth eu bod yn bodloni POB UN o’r meini prawf hanfodol yn ogystal â'r meini prawf dymunol, pan fo'n berthnasol. Yn rhan o’r broses ymgeisio, gofynnir ichi roi'r dystiolaeth hon mewn datganiad ategol.  Dylech wneud eich gorau i ddangos yn glir sut rydych yn bodloni pob un o’r meini prawf hanfodol drwy roi enghreifftiau o sut, pryd a ble y bu ichi gyflawni’r camau angenrheidiol o’r blaen.  Gallwch gyfeirio at elfennau o unrhyw agwedd ar eich bywyd, megis addysg, gwaith, bywyd y cartref neu'r gymuned, cyn belled â'ch bod yn canolbwyntio ar eu perthnasedd i anghenion y swydd hon.  Gofalwch fod y dystiolaeth yr ydych yn ei rhoi’n cyfateb i rifau’r meini prawf a amlinellwyd isod. Caiff eich cais ei ystyried ar sail yr wybodaeth a rowch yn unol â phob elfen.

I ddechrau eich Datganiad Ategol, copïwch yr adran nesaf mewn dogfen ar wahân a’i gludo, gan ysgrifennu eich atebion a’r enghreifftiau sy’n cyfateb i bob pwynt.  Cadwch y ddogfen gyda’r teitl Eich Enew – 20660BR Number – Arbenigwr Busnes Gweithrediadau Cofrestrfa - Amser Part Time a’i rhoi ynghlwm â’ch cais ar y system recriwtio.

Meini Prawf Hanfodol

Cymwysterau ac Addysg
  1. Cymhwyster ôl-raddedig/cymhwyster proffesiynol/NVQ 5 neu brofiad cyfatebol.
Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad
  1. Profiad sylweddol o gynghori ar newid addysgol ar draws y Brifysgol neu brosiectau penodol.
  2. Dealltwriaeth ragorol o reoliadau, polisi a gweithdrefnau academaidd a sut y gellir datblygu/gweithredu'r rhain mewn modd strategol.
  3. Profiad profedig o ddatblygu prosesau sy'n gysylltiedig â dysgu ac addysgu neu weinyddu addysg uwch.
Gwasanaethu Cwsmeriaid, Cyfathrebu a Gweithio’n Rhan o Dîm
  1. Gallu diamheuol i ddylanwadu ar benderfyniadau uwch o fewn y ddisgyblaeth arbenigol sy'n cael effaith strategol.
  2. Profiad diamheuol o weithio gydag ystod o staff ac adrannau addysg uwch, wrth gynnal ymwybyddiaeth o bolisïau a safonau’r Brifysgol.
  3. Sgiliau cyfathrebu a darbwyllol effeithiol, gan gynnwys y gallu i gyflwyno gwybodaeth gymhleth i ystod eang o gynulleidfaoedd, a meithrin partneriaethau rhwng yr Academi Dysgu ac Addysgu a chydweithwyr yn y Brifysgol.
Cynllunio, Dadansoddi a Datrys Problemau
  1. Tystiolaeth o’r gallu i ystyried a datrys problemau yn greadigol o’ch pen a’ch pastwn eich hun, gan bennu ar atebion ymarferol ac arloesol a’u cynnig.
  2. Tystiolaeth o baratoi adroddiadau rheolaidd ar gynnydd gwaith ac uwchgyfeirio risgiau fel y bo'n briodol.
  3. Gallu blaenoriaethu a rheoli nifer o dasgau, gyda sgiliau trefnu a rheoli prosiectau rhagorol a'r gallu i ddarparu atebion arloesol i heriau neu gyfleoedd ym maes addysg ddigidol.

Meini Prawf Dymunol
  1. Profiad o weithio ym maes Addysg Uwch.
  2. Rhuglder yn y Gymraeg, yn ysgrifenedig ac ar lafar.
Candidarsi ora

Altri lavori