Hybrid Internal Applicants Only - Director of Finance Transformation presso Cardiff University
Cardiff University · Cardiff, Regno Unito · Hybrid
- Senior
- Ufficio in Cardiff
Hysbyseb
Ymgeiswyr Mewnol yn Unig - Cyfarwyddwr Trawsnewid Cyllid
Diben Prifysgol Caerdydd yw creu a rhannu gwybodaeth, ac addysgu er budd pawb. Ein gweledigaeth yw bod yn un o brifysgolion blaenllaw’r byd, yn rhagorol o ran ymchwil ac addysg, sy’n cyflawni ei rhwymedigaethau cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd i Gaerdydd, Cymru, y DU a'r byd. Mae’r rôl y mae Cyllid yn ei chwarae wrth gefnogi’r weledigaeth hon yn hanfodol i sicrhau bod ein cwsmeriaid allanol a mewnol wrth wraidd yr hyn a wnawn, drwy gynnig gwasanaeth effeithlon ac effeithiol i gwsmeriaid ar bob achlysur.
Mae’r swyddogaeth Cyllid bellach yn cychwyn ar raglen sylweddol o drawsnewid i gyflawni'r weledigaeth, y gwasanaethau a'r cymorth sydd eu hangen ar y busnes. Wrth wraidd hyn mae model newydd o ddarparu gwasanaethau sy'n manteisio ar ddefnyddio mwy o dechnoleg, ffyrdd symlach o weithio a data gwell. Mae gan y Cyfarwyddwr Trawsnewid Cyllid rôl ganolog i'w chwarae wrth i gyllid awtomeiddio prosesau, canolbwyntio ar effeithlonrwydd a safoni a thrawsnewid profiad y cwsmer.
Mae'r swydd hon yn gyfnod penodol hyd at 30 Medi 2028.
Bydd y cyflog ar y raddfa cyflogau uwch a bydd yn gymesur â phrofiad a chyflawniadau'r ymgeisydd llwyddiannus.
Dyddiad cau: 26 Awst 2025
Nid yw ceisiadau allanol yn cael eu hystyried ar gyfer y swydd hon ar hyn o bryd. Os penderfynir agor y swydd i ymgeiswyr allanol, bydd yr isbennawd ar y brig yn cael ei thynnu a rhoddir digon o amser i chi wneud cais - cadwch olwg ar y dudalen am fanylion.
Sylwer bod Prifysgol Caerdydd yn cadw'r hawl i roi'r gorau i hysbysebu'r swydd hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir gwneud hynny drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o wahanol gefndiroedd. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned beth bynnag fo’u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oed. Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.
Disgrifiad Swydd
Bydd y Cyfarwyddwr Trawsnewid Cyllid yn aelod o'r Uwch Dîm Rheoli Cyllid, gyda chyfrifoldeb am sicrhau bod amcanion y Rhaglen Trawsnewid Cyllid yn cael eu cyflawni yn unol â'r achos busnes. Bydd yn gweithio'n agos gyda'r Prif Swyddog Ariannol, y Cyfarwyddwyr Cyllid a Chaffael a Phenaethiaid Cyllid, gan ddarparu cefnogaeth a her i sicrhau bod y rhaglen yn derbyn adnoddau priodol a bod gwelliannau wedi'u hymgorffori mewn prosesau busnes fel arfer.
- Cyfarwyddo'r Rhaglen Trawsnewid Cyllid gan sicrhau bod ansawdd, uchelgais a gweithrediad llwyddiannus ein cynlluniau yn ein galluogi i gyflawni ein gweledigaeth ar gyfer Cyllid, gan gynnwys camau'r dyfodol yn y Rhaglen Trawsnewid Cyllid.
- Cefnogi'r Uwch Dîm Rheoli Cyllid i feithrin y capasiti a'r gallu ar gyfer newid a gwella prosesau ar draws yr adran gyllid a chefnogi newid o swyddogaethau gwasanaethau proffesiynol eraill.
- Arwain y gwaith o baratoi achosion busnes, pennu a rheoli gofynion staffio ac adnoddau, goruchwylio creu a rheoli cynlluniau prosiect, monitro a rheoli rhyngddibyniaeth, risgiau a phroblemau rhaglenni, a sicrhau bod canlyniadau rhaglenni’n cael eu cyflawni’n llwyddiannus yn gyffredinol a bod manteision y rhaglenni’n cael eu gwireddu.
- Adeiladu a rheoli tîm trawsnewid sy'n perfformio'n dda, sy'n wydn yn ystod newid, ac sydd â synnwyr cryf o gymuned sy'n galluogi aelodau newydd o staff i gael eu hintegreiddio'n llwyddiannus.
- Goruchwylio dewis a chyflwyno systemau ac offer cyllid, a chynllunio a chyflwyno prosesau a gweithdrefnau cyllid safonol i ysgogi effeithlonrwydd a chysondeb ar draws y Brifysgol.
- Darparu diweddariadau ac adroddiadau rheolaidd i uwch reolwyr ar gynnydd ac effaith y rhaglen trawsnewid cyllid, gan gynnwys bod yn gyfrifol am gynllunio ac yn atebol am gyflawni dangosyddion perfformiad allweddol i uwch reolwyr cyllid a'r gymuned ehangach o randdeiliaid.
- Cydweithio â rhanddeiliaid allweddol i sicrhau bod y model darparu gwasanaethau newydd yn cael ei fabwysiadu'n llyfn, ynghyd â phrosesau gwell, a systemau newydd sy'n galluogi'r adran cyllid i weithredu'n effeithlon a darparu gwerth am arian.
- Ysgogi mentrau gwella parhaus i optimeiddio trafodion ariannol a gwella'r ddarpariaeth gwasanaeth.
- Cydweithio â swyddogaethau canolog (megis yr Hwb Gwelliant Parhaus) i gyfrannu a sicrhau cysondeb.
- Sganio’r gorwel mewn modd perthnasol a chynnal profion meincnodi allanol ar gyfer arfer gorau wrth ddarparu adran cyllid effeithlon ac effeithiol.
Uchafswm y Cyflog
Gradd
Isafswm y Cyflog
Categori Swyddi
Llwybr Gyrfa
Manyleb Unigolyn
- Cyfrifydd Cymwysedig (ACCA, CIMA, ACA) gyda phrofiad helaeth ar ôl cymhwyso
- Profiad o arwain trwy gyfnod o drawsnewid mewn sefydliad mawr
- Y gallu i feithrin ac arwain tîm effeithiol, perfformiad uchel mewn amgylchedd hybrid
- Profiad o arwain ar gyflwyno systemau ac ailgynllunio prosesau
- Y gallu i ddeall anghenion cwsmeriaid ac addasu ffyrdd o weithio i sicrhau bod gwasanaeth o safon yn cael ei ddarparu
- Profiad diamheuol o reoli newid i wneud y gorau wrth fabwysiadu a gwreiddio ffyrdd newydd o weithio
- Sgiliau arweinyddiaeth cryf, y gallu i ddylanwadu ac ysgogi gweithredu
- Y gallu i gyfleu gwybodaeth fanwl a chymhleth yn effeithiol ac yn broffesiynol i amrywiaeth eang o bobl
- Profiad o ysgogi a dangos tystiolaeth o wella perfformiad trwy ddefnyddio data
- Ardystiad Lean, Six Sigma, neu fethodolegau gwella prosesau tebyg
- Profiad o sefydlu Cytundebau Lefel Gwasanaeth
- Profiad o reoli prosiectau.
- Ardystiad neu hyfforddiant mewn methodolegau rheoli newid
- Rhugl yn y Gymraeg, yn ysgrifenedig ac ar lafar