Platzhalter Bild

Hybrid Compliance Assistant presso Cardiff University

Cardiff University · Cardiff, Regno Unito · Hybrid

£24,900.00  -  £25,733.00

Candidarsi ora

Hysbyseb

Cynorthwy-ydd Cydymffurfio

Mae Prifysgol Caerdydd yn sefydliad o fri yng nghanol prifddinas Cymru. Mae’n enwog am ei champws bywiog, ei hymchwil o'r radd flaenaf a'i hamgylchedd dysgu rhagorol. Mae'r Tîm Ystadau a Chyfleusterau’r Campws yn rhan annatod o’r gwaith o gynnal a gwella isadeiledd y Brifysgol, gan sicrhau profiad eithriadol i’r myfyrwyr, y staff ac ymwelwyr

Rydym yn chwilio am 1 Cynorthwyydd Cydymffurfio i ymuno â'n Hadran Ystadau, i gynnal profion a chynnal systemau larwm tân yn rheolaidd, goleuadau brys, larymau toiled anabl a larymau lloches anabl,
Mae'r pecyn buddion yn cynnwys 32 diwrnod o wyliau'r flwyddyn ynghyd ag wyth gŵyl banc, ac mae amrywiaeth o ostyngiadau ar gael i’r staff.

Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig amodau gwaith a buddion gwych, sy’n cynnwys: -
  • Lwfans gwyliau blynyddol hael
  • Cynllun pensiwn
  • Gwisg
  • Mynediad at gerbyd cwmni yn ystod oriau gwaith
  • Mynediad at gyfleusterau hamdden a diwylliannol y Brifysgol
  • Wythnos waith 35 awr
Mae hon yn swydd amser llawn a phenagored.

Cyflog: £24,900 i £25,733 y flwyddyn (Gradd 3)

Dyddiad hysbysebu: Dydd Mawrth, 29 Gorffennaf 2025

Dyddiad cau: Dydd Mawrth, 26 Awst 2025


Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir gwneud hynny drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o wahanol gefndiroedd.  Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned beth bynnag fo’u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oed.  Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Disgrifiad Swydd

Cynorthwyo i gynnal cydymffurfiaeth â rheoliadau a safonau diogelwch tân trwy gynnal profion ac archwiliadau rheolaidd o'r system diogelwch bywyd ac elfennau o ffabrig adeiladau ffisegol ar gyfer parth diffiniedig o adeiladau.  Mae ymagwedd sy'n canolbwyntio ar y cwsmer yn hanfodol gan sicrhau cyfathrebu effeithiol â meddianwyr / rheolwyr adeiladau i sicrhau bod yr effaith ar randdeiliaid a busnes / gweithrediadau'r brifysgol yn cael ei leihau cymaint â phosibl.

Ni yw’r brifysgol fwyaf yng Nghymru. Rydym hefyd yn gyflogwr o bwys, sydd â mwy na 7,000 aelod o staff. Rydym yn brifysgol uchelgeisiol ac arloesol mewn prifddinas hardd a llewyrchus.  Gallwn roi’r cyfle i chi weithio mewn sefydliad bywiog sy’n cynnig buddion gwych a chyfleoedd i gamu ymlaen yn eich gyrfa.

DYLETSWYDDAU A CHYFRIFOLDEBAU

DYLETSWYDDAU PENODOL


Larwm dân: 
  • Trefnu a chynnal profion wythnosol o bwyntiau galw â llaw ar gyfer systemau larwm tân ar amser penodol y cytunwyd arno gyda rhanddeiliaid,
  • Sicrhau cyfathrebu effeithiol gyda chydweithwyr yn yr Ystafell Reoli Diogelwch i fod yn ymwybodol o brofion.
  • Creu a chynnal amserlenni a chofnodion profi.  Diweddaru llyfrau log tân electronig a phapur a chronfeydd data electronig eraill gyda chofnodion profi.

Goleuadau argyfwng: 
  • Trefnu, trefnu a chynnal profion misol a blynyddol ar systemau goleuadau argyfwng, gan achosi’r aflonyddwch lleiaf i feddianwyr yr adeilad,
  • Cynhyrchu tystysgrifau ar gyfer profion wedi'u cwblhau,
  • Datblygu a chynnal lluniadau ac amserlenni ar gyfer gosodiadau a rheolyddion systemau.

Larymau toiled a lloches tân hygyrch: 
  • Trefnu a chynnal profion misol ar larymau toiled hygyrch a lloches tân. 
  • Sicrhau cyfathrebu effeithiol gyda chydweithwyr yn yr Ystafell Reoli Diogelwch i fod yn ymwybodol o brofion.
  • Cadw cofnodion cywir o'r profion a gynhaliwyd. 
   
Ymarferion tân: 
  • Trefnu a chynnal driliau gwacáu mewn tân/argyfwng bob 6 mis, gan gydgysylltu â’r Timau Gweithrediadau Diogelwch a Chymorth Adeiladau i gael cymorth, ac i sicrhau bod protocolau cydymffurfio a diogelwch yn cael eu dilyn. 
  • Cadw cofnodion cywir o'r driliau a gynhaliwyd.
 
Arall:
  • Trefnu, a chynnal archwiliadau a phrofion diogelwch tân / iechyd a diogelwch cyffredinol rheolaidd gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:
    • Llwybr dianc,
    • Drysau tân,
    • Arwyddion diogelwch tân a dianc mewn argyfwng,
    • Diffoddwyr a blancedi tân,
    • Cadeiriau EVAC,
    • Diffibrilwyr.

DYLETSWYDDAU CYFFREDINOL
  • Cadw cofnodion cywir o wiriadau, arolygiadau, profion a gwaith adfer a gwblhawyd neu a godwyd ar gyfer sylw arbenigol,
  • Cydweithio ag eraill i wneud argymhellion ar gyfer datblygu a gwella prosesau a gweithdrefnau cyfredol,
  • Meithrin perthynas waith dda ag enwau cyswllt allweddol i helpu i wella’r gwasanaeth,
  • Ymgymryd ag amrywiaeth o ddyletswyddau gweinyddol i gefnogi'r tîm a'r adran,
  • Casglu ac adolygu data er mwyn diweddaru systemau gweinyddol, megis cronfeydd data a thaenlenni, gan sicrhau bod y wybodaeth yn gywir a thynnu sylw eich rheolwr llinell at dueddiadau a phatrymau sylfaenol,
  • Cyfrannu'n weithredol at lwyddiant y tîm
  • Cadw at holl bolisïau'r Brifysgol a datblygu’n bersonol ac yn broffesiynol mewn ffordd briodol,
  • Cyflawni dyletswyddau eraill nad ydynt wedi’u nodi uchod ond sy’n cyd-fynd â gofynion y swydd,
  • Arddel Gwerthoedd ac Ymddygiad y Gwasanaethau Proffesiynol neu’r hyn sy’n cyfateb iddynt yn lleol.

Uchafswm y Cyflog

25,733

Gradd

Gradd 3

Isafswm y Cyflog

24,9`00

Categori Swyddi

Stadau

Gwybodaeth Ychwanegol

GWYBODAETH YCHWANEGOL

SUT Y BYDDWN NI’N EICH HELPU I GYFLAWNI’R SWYDD HON


Rydyn ni am eich cefnogi a'ch datblygu yn y swydd, gan ddefnyddio cyfuniad o'r canlynol i'ch helpu i gyrraedd eich llawn botensial.
  • Cyfarfodydd un-i-un rheolaidd gyda’ch rheolwr llinell,
  • Tîm profiadol a chefnogol o'ch cwmpas,
  • Cefnogaeth i ymgymryd â hyfforddiant a datblygiad sy'n berthnasol i'r rôl, fel y nodir gan eich rheolwr llinell,
  • Cynllun mentora staff,
  • Cymorth i ddysgu’r Gymraeg neu loywi eich sgiliau iaith,

Llwybr Gyrfa

Gwasanaethau Gweithredol

Manyleb Unigolyn

Rydym yn awyddus i gyflogi pobl sydd ag ystod eang o brofiadau.  Rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran.  Rydym yn arbennig o awyddus i gael ceisiadau gan bobl o gefndiroedd nad ydyn nhw wedi’u cynrychioli’n ddigonol yn y Brifysgol, gan gynnwys pobl o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.

Rydym yn chwilio am chwaraewr tîm a fydd yn gweithio gyda chydweithwyr i ddarparu gwasanaeth rhagorol sy'n canolbwyntio ar y cwsmer.  Nid oes angen i chi fod wedi gweithio i brifysgol o'r blaen; dyma gyfle i ddangos eich potensial a dechrau eich gyrfa, neu barhau â hi, ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae’n bosibl y bydd y swydd hon yn gyfle ichi fagu profiad o weithio mewn swydd neu rôl weinyddol flaenorol a dangos eich sgiliau trosglwyddadwy a'ch potensial i fod yn llwyddiannus yn y swydd.  Dylech fod yn frwdfrydig dros ddatblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau i fod yn aelod gwerthfawr o'r tîm.

Bydd eich cais yn cael ei asesu yn unol â’r meini prawf hanfodol a dymunol canlynol ar gyfer y swydd.  Ar ôl copïo’r adran hon a’i chludo i ddogfen newydd, rhowch enghreifftiau clir sy’n dangos sut rydych yn bodloni pob maen prawf, a hynny drwy ysgrifennu o dan bob un.  Gallwch gyfeirio at elfennau o unrhyw agwedd ar eich bywyd (e.e. gwaith, cartref, addysg/cymwysterau neu fywyd cymunedol) cyn belled â'ch bod yn canolbwyntio ar eu perthnasedd i'r rôl.

Dylech arbed eich datganiad ategol mewn dogfen ar wahân gyda'r teitl [EICHENW-RHIF BR-TEITL SWYDD] a'i atodi i’ch cais yn y system recriwtio, sydd ar gael yma.

Nodwch mai dyma'r meini prawf y bydd ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cael eu hasesu yn unol â nhw hefyd mewn cyfweliad a/neu drwy ddulliau eraill (e.e. prawf sgiliau).

Meini Prawf Hanfodol
  1. Y gallu i gyflawni ystod o dasgau gweinyddol, gan gynnwys ysgrifennu'n glir ac yn gryno.
  2. Profiad o ddefnyddio pecynnau TG swyddfa cyffredin yn arbennig lefel dda o wybodaeth Excel (ee MS Office, e-bost ac ati).
  3. Y gallu i sefydlu a chynnal systemau a gweithdrefnau gweinyddol safonol, gan gynnwys defnyddio systemau'r Brifysgol i gasglu a chofnodi data ar-lein ac ar ffurf copi caled.  Bydd hyfforddiant yn cael ei roi pan fo angen.
  4. Y gallu i gyfathrebu ag ystod amrywiol o bobl yn effeithiol ac yn gwrtais tra'n cynnal safonau proffesiynol a lefelau uchel o wasanaeth i gwsmeriaid bob amser, gan addasu eich iaith a'ch arddull cyfathrebu gan ddibynnu ar bwy rydych chi'n cyfathrebu ag ef.
  5. Y gallu i weithio’n dda gyda'ch tîm, gan wybod sut i roi cyngor, arweiniad ac adborth (i ystod amrywiol o bobl) fel y bo'n briodol.
  6. Y gallu i gydweithio ag eraill (ee contractwyr, cydweithwyr mewnol).
  7. Y gallu i weithio heb oruchwyliaeth, cynllunio a threfnu eich llwyth gwaith eich hun o fewn terfynau amser y cytunwyd arnynt fel y'u gosodwyd gan eich Rheolwr Llinell.
  8. Y gallu i gymryd y cam cyntaf i ddatrys problemau ac ymateb i ymholiadau, gan ddod o hyd i'r ateb gorau a'i gynnig.
Meini Prawf Dymunol 
  1. Trwydded yrru lawn Grŵp B â llaw i’ch galluogi i yrru cerbyd prifysgol (os/pan fo angen),
  2. Profiad o weithio mewn rôl sy'n ymwneud â chydymffurfio, cynnal a chadw a/neu drydanol,
  3. Y gallu i siarad/deall Cymraeg, neu’r parodrwydd i’w dysgu.
Candidarsi ora

Altri lavori