Hybrid Professional Law Teacher presso Cardiff University
Cardiff University · Cardiff, Regno Unito · Hybrid
- Professional
- Ufficio in Cardiff
Hysbyseb
Astudiaethau Cyfreithiol Proffesiynol Caerdydd
Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth
Astudiaethau Cyfreithiol Proffesiynol Caerdydd yw’r adran yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth sy’n cynnig cwrs Diploma Graddedig yn y Gyfraith, Cwrs Ymarfer Cyfreithwyr a Chwrs Hyfforddiant y Bar – llwybrau ôl-raddedig i gymhwyster proffesiynol ar gyfer bargyfreithwyr a chyfreithwyr. Prifysgol Caerdydd yw'r unig brifysgol yng Ngrŵp Russell sy’n cynnig y cyrsiau hyn i gyd. Mae’r Ysgol yn cynnig trefniadau asesu cyfreithwyr ar ddyletswydd, cynrychiolwyr gorsafoedd heddlu a thystion arbenigol. Staff â chymwysterau proffesiynol sy’n cynnal y cyrsiau hirsefydlog yma sydd wedi ennill eu plwyf ymhlith gweithwyr proffesiynol y maes, ac mae adborth myfyrwyr bob tro yn rhagorol.
Hoffai’r Ysgol benodi athrawon sydd â chymwysterau priodol i’w helpu i gynnal pob un o’i chyrsiau trwy drefn tâl fesul awr. Mae’n tiwtoriaid tâl fesul awr yn cydweithio'n agos â’r staff amser llawn i gyflwyno ac asesu ein rhaglenni. Mae'r gallu i addysgu pobl am bynciau cyfreithiol galwedigaethol a’u hyfforddi ym maes medrau cyfreithiol yn hanfodol. Bydd y swyddi hyn yn addas iawn i ymarferwyr cyfreithiol a hoffai wneud peth addysgu ynghyd â’u gwaith cyfreithiol proffesiynol.
Anfonwch unrhyw ymholiadau am y swydd at Jetsun Lebasci, Pennaeth Astudiaethau Cyfreithiol Proffesiynol Caerdydd: [email protected]
Gwefan: https://www.cardiff.ac.uk/cy/law-politics
Mae'r cytundebau yma’n benagored, amrywiol eu horiau (tâl yn ôl yr awr) ac ar gael yn syth.
Cyflog: £40,497 - £45,413 y flwyddyn, pro-rata yn ôl nifer yr oriau sy’n cael eu gweithio (Gradd 6)
Dyddiad hysbysebu: Dydd Mercher, 13 Awst 2025
Dyddiad cau: Dydd Gwener, 29 Awst 2025
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu neu oedran. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau’n arbennig gan y rhai sy’n perthyn i grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yng ngweithlu'r Brifysgol, megis y rhai sy’n uniaethu fel LHDT+, du, Asiaidd neu o gefndir ethnig leiafrifol neu’r rhai ag anabledd. Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywyd personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu’r swydd.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Disgrifiad Swydd
Ymgymryd â rôl weinyddol academaidd sylweddol yn adran berthnasol yr Ysgol/Uned neu weithgareddau rheoli priodol eraill yn ôl yr angen.
PRIF WEITHGAREDDAU/CYFRIFOLDEBAU
• Helpu i lunio a chyflwyno rhaglenni addysgu a datblygu modiwlau yn rhan o dîm pwrpasol, gan gynnwys paratoi deunyddiau addysgu lle bo’n briodol. Addysgu myfyrwyr, gan gynnwys eu hannog i drafod elfennau ymarferol a damcaniaethol ar y gyfraith; goruchwylio ymyriadau’r myfyrwyr ac ymateb iddynt; rhoi adborth adeiladol; ymateb i gwestiynau y tu allan i’r dosbarth a digwyddiadau annisgwyl wrth gyflwyno cyrsiau.
• Dylunio a chynllunio unedau addysgu yn rhan o raglenni gradd ôl-raddedig, megis darlithoedd/seminarau/gweithdai unigol, neu adrannau mwy o fodiwlau. Mae hyn yn cynnwys nodi amcanion dysgu a dewis cwricwla priodol; dewis deunydd darllen, adnoddau a dulliau addysgu; pennu, cynllunio a chynhyrchu deunydd astudio; cynllunio sut i gyflwyno’r cwrs; a chynllunio ar gyfer digwyddiadau annisgwyl; megis cynnydd arafach/cynt na’r disgwyl.
• Yn ôl y gofyn, addysgu modiwlau a chydweithio ag academyddion eraill i wneud yn siŵr bod y cwrs yn ategu cyrsiau eraill y myfyrwyr; datblygu cyrsiau a newid y cwricwlwm drwy gydweithio â chydweithwyr.
• Cynnal asesiadau ar gyfer cyrsiau. Gan gynnwys helpu i lunio dulliau a meini prawf asesu; marcio profion asesu gan ofalu bod digon o gymedroli; rhoi adborth ar bapur neu ar lafar i’r myfyrwyr; penderfynu a ddylid cymryd amgylchiadau myfyrwyr i ystyriaeth wrth eu hasesu ai peidio.
• Goruchwylio neu farcio traethodau estynedig neu brosiectau ar gyfer gradd meistr lle bo’n briodol.
• Gwerthuso addysgu, gan gynnwys hwyluso adborth myfyrwyr; myfyrio ar eich dull a chyflwyniad addysgu eich hun a gweithredu syniadau ar gyfer gwella eich cyflwyniad addysgu a’ch perfformiad eich hun.
• Gweithredu yn bwynt cyswllt ar gyfer ymholiadau academaidd a bugeiliol myfyrwyr, gan arwain a chyfeirio myfyrwyr at wasanaethau cyngor a chymorth perthnasol. Gall hyn fod yn rhan o rôl Tiwtor Personol ffurfiol, neu’n aelod o dîm cyflwyno modiwl.
• Cyflawni dyletswyddau gweinyddol sy'n gysylltiedig ag addysgu yn ôl y gofyn, gan fynd i’r afael â cheisiadau adweithiol yn brydlon, megis y rhai sy'n ymwneud ag addysgu, goruchwylio myfyrwyr a thasgau gweinyddol neu weithredoedd gan bwyllgorau a gweithgorau.
• Ymgymryd â gweithgareddau datblygiad proffesiynol parhaus y cytunir arnynt â'r rheolwr llinell a thrwy weithgareddau ategol megis y gwasanaeth prawf neu ADP blynyddol (Adolygu Datblygiad a Pherfformiad).
... parhau mewn gwybodaeth ychwanegol
Uchafswm y Cyflog
Gradd
Isafswm y Cyflog
Categori Swyddi
Gwybodaeth Ychwanegol
CYFFREDINOL
• Sicrhau eich bod yn defnyddio eich dealltwriaeth o bwysigrwydd cyfrinachedd wrth gyflawni eich holl ddyletswyddau.
• Glynu wrth bolisïau'r Brifysgol.
• Cyflawni dyletswyddau eraill o bryd i'w gilydd nad ydynt wedi'u nodi uchod ond sy'n cyd-fynd â gofynion y swydd.
• Gofalu bod pawb yn cadw at ofynion statudol a rheoleiddiol cydraddoldeb ac amrywioldeb, diogelu data, hawlfreintiau a thrwyddedu, diogelwch, materion ariannol a pholisïau, gweithdrefnau a chodau eraill y Brifysgol fel y bo’n briodol.
• Cymryd gofal rhesymol am eich iechyd a’ch diogelwch eich hun a phobl eraill y gall yr hyn y byddwch yn ei wneud neu’n methu â’i wneud yn y gwaith effeithio arnynt, yn unol â Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974, cyfarwyddebau'r CE a pholisïau a gweithdrefnau’r Brifysgol ar iechyd, diogelwch a’r amgylchedd, yn ogystal â chydweithio â'r Brifysgol, sef y cyflogwr, i gyflawni unrhyw ddyletswyddau cyfreithiol sydd ganddi.
CYNLLUNIO A THREFNU
• Pennaeth yr Ysgol fydd yn dyrannu gorchwylion addysgu a gweinyddu ynghyd â’r rhai sy’n arwain ei rhaglenni.
• Cynllunio a blaenoriaethu’ch gwaith a chynllunio ar gyfer peth addysgu.
• Ymdrin â cheisiadau sy’n codi bob dydd, fel y rhai sy’n ymwneud ag addysgu, goruchwylio myfyrwyr a thasgau gweinyddol.
Llwybr Gyrfa
Manyleb Unigolyn
Wrth atodi’r datganiad i ategu eich cais i broffil, cofiwch roi cyfeirnod y swydd wag yn nheitl y ddogfen, xxxxBR
MEINI PRAWF HANFODOL
1. Cymwysterau bargyfreithiwr, cyfreithiwr neu swyddog gweithredol cyfreithiol.
2. Y gallu i ddangos profiad o ymarfer cyfreithiol a gwybodaeth arbenigol, gan gynnwys profiad a gwybodaeth gyfoes yn y maes pwnc. 3. Y gallu i addysgu pynciau ar Gwrs Hyfforddi'r Bar (BTC) a/neu'r Cwrs Ymarfer Cyfreithwyr (SPC) a/neu'r Diploma Graddedig yn y Gyfraith.
4. Y gallu i ddarparu hyfforddiant meithrin medrau yn ystod y BTC ac/neu’r SPC. 5. Y gallu i ddylunio a diweddaru deunyddiau addysgu ac asesiadau.
6. Sgiliau cyfathrebu rhagorol (yn ysgrifenedig ac ar lafar) a’r gallu i gyflwyno syniadau cymhleth yn eglur ac yn hyderus i eraill drwy ddefnyddio amrywiaeth o gyfryngau.
7. Medrau trin a thrafod pobl yn effeithiol ar gyfer cydweithio â myfyrwyr a staff.
8. Sgiliau trefnu ardderchog diamheuol a'r gallu i reoli a blaenoriaethu eich llwyth gwaith eich hun yn effeithiol drwy fabwysiadu agwedd hyblyg at y gwaith.
9. Y gallu i ymdrin â cheisiadau sy’n codi bob dydd megis y rhai hynny sy’n ymwneud ag addysgu, goruchwylio myfyrwyr a thasgau gweinyddol.
10. Y gallu i weithio ar y cyd yn rhan o dîm addysgu a heb oruchwyliaeth agos.
MEINI PRAWF DYMUNOL
1. Tystiolaeth o’ch gallu ym maes addysgu, megis cymhwyster athro neu hanes o hyfforddi cydweithwyr neu weithwyr cyfreithiol proffesiynol eraill.
2. Y gallu i gyfathrebu ac addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.