Hybrid Internal Applicants Only - Facilities Officer chez Cardiff University
Cardiff University · Cardiff, Regno Unito · Hybrid
- Professional
- Bureau à Cardiff
Hysbyseb
Ymgeiswyr Mewnol yn Unig – Swyddog Cyfleusterau
Mae'r Ysgolion Mathemateg a Chyfrifiadureg a Gwybodeg am benodi Swyddog Cyfleusterau profiadol a phroffesiynol i ddarparu cefnogaeth weithredol gynhwysfawr i'r ddwy Ysgol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cyflawni amrywiaeth o ddyletswyddau i gefnogi’r Rheolwr Adeiladau, Cyfleusterau ac Iechyd a Diogelwch, a bydd yn cynorthwyo â’r gwaith o ddatblygu a chyflwyno systemau a gweithdrefnau i sicrhau bod yr holl weithrediadau’n rhedeg yn llyfn yn adeilad pwrpasol Abacws a lleoliadau eraill ar y campws, sydd ar hyn o bryd yn cynnwys safleoedd yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg yn Adeiladau’r Frenhines, Adeilad Julian Hodge a Phlas y Parc (sydd oll yn rhan o gampws Caerdydd).
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad ym maes rheoli adeiladau, gweithrediadau a/neu gyfleusterau, ac yn ddelfrydol bydd ganddynt rywfaint o brofiad o brosesau iechyd a diogelwch. Mae’r swydd yn rhan o’r tîm tîm Cyfleusterau ac Adeiladau, a bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus allu cefnogi a chyfrannu at y tîm yn ogystal â datrys problemau yn annibynnol. Byddant hefyd yn gallu blaenoriaethu ac ail-flaenoriaethu gwaith ar fyr rybudd, gweithio mewn modd trefnus, a gweithio’n dda o dan bwysau.
Mae’r swydd hon wedi’i lleoli ar y campws, gydag opsiynau i weithio tymor penodol tan 31 Gorffennaf 2026.
.
Swydd lawn-amser a phenagored (35 awr yr wythnos) yw hon, ac mae modd dechrau ar unwaith.
Cyflog: £27,644 - £30,805 y flwyddyn (Gradd 4)
Gellir gwneud ymholiadau anffurfiol i’r Rheolwr Adeiladau, Cyfleusterau ac Iechyd a Diogelwch, Abigail Rutherford ([email protected]).
I gael gwybodaeth am weithio ym Mhrifysgol Caerdydd, cysylltwch â Simon Hogg [email protected] neu Cath Noble [email protected]
Ni yw’r brifysgol fwyaf yng Nghymru – ac rydym yn gyflogwr o bwys, sydd â thros 7,000 o staff. Rydym yn sefydliad uchelgeisiol ac arloesol mewn prifddinas hardd a llewyrchus. Gallwn gynnig cyfle i chi weithio mewn sefydliad bywiog sy’n cynnig buddion gwych a chyfleoedd i chi ddatblygu eich gyrfa.
Os daw digon o geisiadau i law, mae Prifysgol Caerdydd yn cadw’r hawl i roi’r gorau i hysbysebu’r swydd hon yn gynnar. Rydym ni’n croesawu ymgeiswyr benywaidd ac ymgeiswyr o grwpiau lleiafrif ethnig yn arbennig, gan eu bod wedi’u tangynrychioli yn ein Hysgol.
Mae gan yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg a'r Ysgol Mathemateg ddyfarniad Athena SWAN Efydd sy'n cydnabod arfer cyflogi da ac ymrwymiad i ddatblygu gyrfaoedd benywod sy’n gweithio yn y gwyddorau.
Dyddiad Cau: Dydd Gwener, 8 Awst 2025
Nid yw ceisiadau allanol yn cael eu hystyried ar gyfer y swydd hon ar hyn o bryd. Os penderfynir agor y swydd i ymgeiswyr allanol, bydd yr isbennawd ar y brig yn cael ei thynnu a rhoddir digon o amser i chi wneud cais - cadwch olwg ar y dudalen am fanylion.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir gwneud hynny drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o wahanol gefndiroedd. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned beth bynnag fo’u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oed. Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Disgrifiad Swydd
Darparu cymorth cyfleusterau ac adeiladau i’r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg a’r Ysgol Mathemateg yn Adeilad Abacws a lleoliadau eraill ar y campws. Cefnogi’r ddwy Ysgol drwy adrodd a monitro ceisiadau cynnal a chadw tan eu bod wedi’u cwblhau, a dirprwyo ar gyfer y Rheolwr Cyfleusterau yn ôl yr angen ar gyfer prosiectau’n ymwneud â chyfleusterau neu adeiladau. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus gyfle hefyd i adeiladu ar eu profiad iechyd a diogelwch drwy gwblhau archwiliadau o adeiladau a chefnogi’r gwaith o greu prosesau diogelwch newydd yn y Labordy a lleoliadau technegol eraill.
Prif Ddyletswyddau
- Darparu cyngor ac arweiniad manwl ar gyfleusterau a gweithgareddau dydd i ddydd adeilad Abacws a lleoliadau eraill yn yr Ysgol.
- Cydweithio â’r tîm Cyfleusterau a Gwasanaethau Technegol i wneud argymhellion a datblygu prosesau a gweithdrefnau sylfaenol ar gyfer swyddfeydd a labordai (e.e. i gefnogi rheoli darpariaeth Iechyd & Diogelwch yn yr ardaloedd yma).
- Rhoi cyngor i gwsmeriaid mewnol ac allanol, gan ddefnyddio synnwyr cyffredin a bod yn greadigol wrth awgrymu'r camau gweithredu gorau lle bo'n briodol, a chyfrannu at ddatrys materion mwy cymhleth.
- Sefydlu perthynas waith â chysylltiadau pwysig er mwyn helpu i wella lefelau gwasanaeth, gan ddatblygu cysylltiadau cyfathrebu addas ag Ysgolion/Cyfarwyddiaethau'r Brifysgol a chyrff allanol fel y bo angen, i helpu i wella lefel y gwasanaeth y mae’r tîm yn ei ddarparu i’w cwsmeriaid.
- Cydlynu a/neu gyflawni amrywiaeth o dasgau cyffredinol i fodloni gofynion gweithredol a rhoi gwasanaeth i gwsmeriaid.
- Ymgymryd ag amrywiaeth o ddyletswyddau gweinyddol i gynorthwyo'r tîm a'r adran i gyflawni eu hamcanion.
- Casglu a dadansoddi data fel y gellir gwneud penderfyniadau gwybodus, gan nodi tueddiadau a phatrymau sylfaenol yn y data a chreu adroddiadau a rhoi argymhellion ar gyfer rheoli.
- Cyfrannu at lwyddiant y tîm, gan arwain pobl eraill drwy esiampl, a chefnogi prosesau goruchwylio a rheoli'r Tîm Cyfleusterau a Gwasanaethau Technegol.
- Cyfarwyddo ac arwain cydweithwyr yn yr Ysgol Mathemateg a’r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg ar brosesau iechyd a diogelwch.
- Gweithio’n agos gyda’r Rheolwr Cyfleusterau i gynllunio, cydlynu, a rhoi prosesau ar waith ar gyfer dyrannu gofodau, archebion dodrefn, a gwaith cynnal a chadw ataliol.
- Helpu i drefnu hyfforddiant a threfnu Marsialiaid Tân a Chymorth Cyntaf ar gyfer pob lleoliad.
- Cynnal archwiliadau diogelwch adeiladau yn rheolaidd ac ar hap gan adrodd ar unrhyw ganfyddiadau / problemau at sylw pobl eraill.
- Adrodd, cofnodi, a monitro problemau cynnal a chadw a chydweithio gyda staff yn yr Adran Ystadau.
- Cydlynu a / neu ymgymryd â thasgau trin â llaw gan geisio cymorth gan y tîm Trin Llaw canolog yn ôl yr angen.
- Hysbysu Gwasanaethau Diogelwch y Brifysgol am ddigwyddiadau diogelwch a chysylltu am unrhyw gamau dilynol.
- I weithio gyda cydweithwyr perthnasol i oruchwylio asesiadau Cyfarpar Arddangos Sgrîn (DSE) ar gyfer staff wedi eu lleoli mewn adeiladau perthnasol.
- Cefnogi'r Rheolwr Cyfleusterau i gydlynu rheolaeth allweddi / cardiau mynediad a rheolaeth leol ar reoli mynediad, gan gysylltu â deiliaid adeiladau a gwasanaethau diogelwch i sicrhau adeiladau sydd wedi'u diogelu'n effeithiol.
- I gefnogi’r datblygiad ac adolygiad o asesiadau risg perthnasol ar gyfer yr adeilad, ardaloedd arbenigol, a digwyddiadau.
- Goruchwylio trefnu cyfarfodydd perthnasol, cymryd cofnodion / logiau gweithredu a chyfrannu at eitemau ar yr agenda, yn ôl yr angen.
- Cyfrannu a chynorthwyo yn yr adolygiad rheolaidd o reoli adeiladau gweithredol a dogfennaeth, prosesau a gweithdrefnau Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd.
Uchafswm y Cyflog
Gradd
Isafswm y Cyflog
Categori Swyddi
Gwybodaeth Ychwanegol
- Bod yn gyfrifol am anghenion dydd i ddydd adeilad Abacws, gan gynnwys goruchwylio archebion nwyddau swyddfa, cynnal lefelau stoc y gegin, a sicrhau bod digon o bapur yn yr argraffwyr.
- Cyflawni dyletswyddau eraill o bryd i'w gilydd sydd heb eu crybwyll uchod ond sy’n cyd-fynd â'r swydd
Dyletswyddau Cyffredinol
- Ymgymryd ag amrywiaeth o ddyletswyddau gweinyddol i gefnogi'r Ysgolion.
- Gweinyddu cymorth cyntaf neu weithredu fel Marsial Tân dyletswyddau cymorth cyntaf yn ôl yr angen (darperir hyfforddiant).
- Sicrhau eich bod yn deall pwysigrwydd cyfrinachedd wrth ymgymryd â phob dyletswydd.
- Dilyn polisïau’r Brifysgol ar Iechyd a Diogelwch a Chydraddoldeb ac Amrywiaeth.
- Cyflawni dyletswyddau eraill o bryd i'w gilydd nad ydynt wedi'u crybwyll uchod ond sy'n cyd-fynd â'r swydd.
- Ymgymryd â dyletswyddau warden tân (darperir hyfforddiant) a chefnogi'r Gwasanaethau Diogelwch gyda gwacáu / driliau arfaethedig.
- Cefnogi a chynorthwyo'r Rheolwr Cyfleusterau i gyflawni amcanion y tîm.
- Trefnu a hwyluso paratoi / trefnu digwyddiadau e.e. gosod ystafelloedd, gosod offer ac ailosod ar ôl digwyddiadau.
Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg
Mae gan Brifysgol Caerdydd Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg lwyddiannus sydd ag enw da yn rhyngwladol am ei haddysgu a'i gweithgareddau ymchwil. Mae'r Ysgol yn cynhyrchu portffolio ysgogol o raddau BSc ac MSc ac yn cynnig graddau ymchwil sy'n arwain at gymhwyster MPhil a PhD. Mae gennym hanes cryf o waith ymchwil sy'n cael ei gydnabod am ei effaith eithriadol o ran cyrhaeddiad ac arwyddocâd, a nodwyd yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014 fod 79% o'n hallbynnau yn arwain y byd neu'n rhyngwladol rhagorol.
Caiff ein hincwm ymchwil blynyddol, sy'n werth miliynau o bunnoedd, ei ariannu gan amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys y Gymdeithas Frenhinol, Ymddiriedolaeth Leverhulme, Cynulliad Cenedlaethol Cymru (gan gynnwys Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru), Cynghorau Ymchwil y DU, gan gynnwys Cyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg, y Comisiwn Ewropeaidd a phartneriaid diwydiannol (IBM UK Ltd ac Airbus). Mae rhagor o wybodaeth i’w chael yn: http://www.caerdydd.ac.uk/computer-science
Ysgol Mathemateg
Mae'r Ysgol Mathemateg yn Ysgol a arweinir gan ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd, un o brifysgolion mwyaf blaenllaw’r DU, gydag enw da am ymchwil ryngwladol ragorol ac addysgu o ansawdd uchel. Yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2014 diweddar, cafodd yr ysgol ei graddio yn gydradd 19eg allan o 53 o gyflwyniadau yn yr Uned Asesu Gwyddorau Mathemategol. Roedd yr holl ymchwil a gyflwynwyd wedi'i raddio fel 'cael ei gydnabod yn rhyngwladol' ar y lleiaf, ac roedd 90% ohono naill ai'n 'rhagorol yn rhyngwladol' neu'n 'arwain y byd'. Un nodwedd unigryw o'r cyflwyniad oedd bod 100% o'n gwaith ymchwil wedi'i raddio i fod yn 'rhagorol' neu 'sylweddol iawn' am ei effaith o ran ehangder ac arwyddocâd. Mae ein hymchwilwyr wedi cynnig atebion i broblemau cyfoes megis diogelwch data ac amserau aros mewn ysbytai.
Mae'r Ysgol yn cynnig amgylchedd ôl-raddedig bywiog, gyda nifer sylweddol o raddedigion yn gweithio yn ei meysydd arbenigol. Mae dewis eang o raglenni gradd ar gael i fyfyrwyr israddedig, sy'n cynnwys ystod eang a chyffrous o fathemateg a'i chymwysiadau. Mae'r Ysgol yn ymgysylltu â'r diwydiant, pobl ifanc a'r gymuned ehangach i sicrhau bod ein gwaith ymchwil arloesol yn hygyrch i gynulleidfa ehangach. Mae gan yr Ysgol ddiwylliant hirsefydlog o ymchwil gymhwysol ac ymgysylltiad uniongyrchol ag amrywiaeth eang o sefydliadau diwydiannol, llywodraethol a masnachol fel y GIG, Hewlett Packard a'r Swyddfa Ystadegau Gwladol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael trwy: http://www.caerdydd.ac.uk/mathematics
Llwybr Gyrfa
Manyleb Unigolyn
- Gallu cyfathrebu'n ysgrifenedig yn glir, yn gryno, ac yn effeithiol i roi cyngor ac arweiniad manwl.
- Tystiolaeth o rifedd a llythrennedd TG o safon uchel.
- Profiad o weithio mewn rôl neu amgylchedd gweinyddol a’r gallu i sefydlu systemau a gweithdrefnau swyddfa safonol, gan wneud gwelliannau fel y bo'n briodol.
- Gwybodaeth arbenigol o gefnogi gwaith rheoli adeiladau a chyfleusterau.
- Gallu cyfleu gwybodaeth arbenigol a chymhleth yn effeithiol ac yn broffesiynol i ystod o gwsmeriaid sydd â lefelau amrywiol o ddealltwriaeth.
- Gallu cynghori rhanddeiliaid allweddol yn eich maes gwaith a dylanwadu arnynt.
- Gallu archwilio anghenion cwsmeriaid ac addasu eich gwasanaeth yn unol â hynny er mwyn cynnig gwasanaeth o safon.
- Gallu defnyddio eich menter eich hun a’ch creadigrwydd i ddatrys problemau, ymateb i ymholiadau a gwneud argymhellion, gan nodi a chynnig datrysiadau ymarferol.
- Gallu gweithio’n annibynnol i derfynau amser, gan gynllunio, gosod a monitro eich blaenoriaethau chi a rhai’r tîm.
- NVQ 3/Safonau Uwch neu brofiad cyfatebol.
- Profiad o weithio mewn swydd Iechyd a Diogelwch, neu swydd gydag elfennau Iechyd a Diogelwch.
- Profiad o weithio mewn amgylchedd tebyg, e.e. Addysg Uwch neu Addysg Bellach.
- Yn gallu siarad/deall Cymraeg neu barodrwydd i ddysgu.