Hybrid Research Associate presso Cardiff University
Cardiff University · Cardiff, Regno Unito · Hybrid
- Professional
- Ufficio in Cardiff
Hysbyseb
Gwahoddir ceisiadau am swydd Cymrawd Ymchwil yn yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio i weithio ar Bartneriaeth Polisi ac Arloesi’n Lleol ar gyfer y Gymru Wledig (LPIP) a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC). Mae’r LPIP ar gyfer y Gymru Wledig, sy’n cynnwys pedair prifysgol a sawl sefydliad gwledig, yn gweithio i gysylltu ymchwilwyr, cymunedau a llunwyr polisïau, a hynny er mwyn cefnogi datblygiad cynhwysol a chynaliadwy yng nghefn gwlad Cymru. Bydd y Cynorthwyydd Ymchwil yn cefnogi gwaith yr LPIP drwy gyfrannu at ymchwil a gwaith dadansoddi ar themâu gwledig cymdeithasol, diwylliannol, economaidd ac amgylcheddol, a thrwy helpu i gynhyrchu adroddiadau prosiect ac allbynnau academaidd o ansawdd uchel.
Swydd amser llawn yw hon am gyfnod penodol o 12 mis, ac mae ar gael ar unwaith.
Cyflog: £40,497 hyd at £45,413 y flwyddyn (Gradd 6) Nodwch nad ydyn yn rhagweld y byddwn yn penodi’n uwch na gradd 6.32, sef £40,497 y flwyddyn ar hyn o bryd
Os oes gennych ymholiadau anffurfiol cysylltwch â'r Athro Paul Milbourne ([email protected]) neu'r Athro Scott Orford ([email protected]).
Polisi Prifysgol Caerdydd yw defnyddio manyleb yr unigolyn fel offeryn allweddol wrth ddethol pobl ar gyfer y rhestr fer. Felly, mae’n rhaid i ymgeiswyr ddangos tystiolaeth eu bod yn bodloni'r HOLL feini prawf hanfodol, a'r meini prawf dymunol, lle bo'n berthnasol. Yn rhan o'ch cais, gofynnir i chi ddarparu'r dystiolaeth hon drwy ddatganiad ategol. Gwnewch yn siŵr bod eich tystiolaeth yn cyfateb i'r meini prawf a amlinellir ym manyleb yr unigolyn. Ystyrir eich cais ar sail yr wybodaeth a roddwch ar gyfer pob maen prawf. Wrth atodi’r datganiad ategol i broffil eich cais, cofiwch roi cyfeirnod y swydd wag yn nheitl y ddogfen: 20436BR.
Dyddiad hysbysebu: Dydd Gwener, 1 Awst 2025
Dyddiad cau: Dydd Gwener, 22 Awst 2025
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir gwneud hynny drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o wahanol gefndiroedd. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned beth bynnag fo’u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oed. Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi llofnodi Datganiad ar Asesu Ymchwil (DORA) San Francisco, sy'n golygu y byddwn, wrth wneud penderfyniadau cyflogi a dyrchafu, yn gwerthuso ymgeiswyr ar sail safon eu hymchwil, nid ar sail metrigau cyhoeddi na'r cyfnodolyn y mae'r ymchwil wedi’i chyhoeddi ynddo. Ceir rhagor o wybodaeth yma: Asesu ymchwil yn gyfrifol - Ymchwil - Prifysgol Caerdydd
Disgrifiad Swydd
- Cyflawni gwaith ymchwil ar themâu cymdeithasol, diwylliannol, economaidd a/neu amgylcheddol sy'n ymwneud â chefn gwlad Cymru a chyfrannu at berfformiad ymchwil cyffredinol yr Ysgol a’r Brifysgol drwy gynhyrchu allbwn mesuradwy, gan gynnwys cyhoeddi mewn cyfnodolion academaidd cenedlaethol, cynadleddau a gwneud ceisiadau am gyllid.
- Dadansoddi setiau data ystadegol, deunyddiau cyfweliad a/neu ddogfennau polisi gan ddefnyddio technegau meintiol ac ansoddol safonol.
- Datblygu amcanion ymchwil a chynigion ar gyfer prosiectau ymchwil annibynnol neu ar y cyd, gan gynnwys ceisiadau am gyllid.
- Mynd i gynadleddau/seminarau lleol a chenedlaethol a/neu roi cyflwyniadau yn y rhain yn ôl yr angen.
- Cyflawni tasgau gweinyddol sy'n gysylltiedig â'r prosiect ymchwil, gan gynnwys cynllunio a threfnu'r prosiect a rhoi’r gweithdrefnau sydd eu hangen ar waith er mwyn sicrhau bod adroddiadau cywir yn cael eu cyflwyno’n brydlon.
- Paratoi ceisiadau moeseg ymchwil a llywodraethu ymchwil fel sy’n briodol.
- Adolygu a chywain llenyddiaeth ymchwil sydd eisoes yn bodoli yn y maes.
- Cymryd rhan yng ngweithgareddau ymchwil yr Ysgol.
- Datblygu a chreu rhwydweithiau’n fewnol ac yn allanol i'r Brifysgol er mwyn dylanwadu ar benderfyniadau, ymchwilio i ofynion ymchwil y dyfodol a rhannu syniadau ar gyfer ymchwil er budd prosiectau ymchwil.
- Datblygu’n bersonol ac yn broffesiynol mewn modd priodol a fydd yn gwella perfformiad
- Cymryd rhan yng ngweinyddiaeth a gweithgareddau'r Ysgol er mwyn hyrwyddo'r Ysgol a'i gwaith i’r Brifysgol ehangach a’r byd y tu allan.
- Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill nad ydynt wedi’u nodi uchod ond sy'n cyd-fynd â gofynion y swydd.
Uchafswm y Cyflog
Gradd
Isafswm y Cyflog
Categori Swyddi
Llwybr Gyrfa
Manyleb Unigolyn
Cymwysterau ac Addysg
- Gradd ôl-raddedig ar lefel PhD mewn maes cysylltiedig (gallwch fod yn agosáu at orffen eich rhaglen/cyflwyno eich gwaith terfynol), neu brofiad diwydiannol perthnasol
- Arbenigedd a phortffolio diamheuol o ymchwil a/neu brofiad diwydiannol perthnasol yn y meysydd ymchwil canlynol:
- Daearyddiaeth ddynol neu ddisgyblaeth gysylltiedig
- Meysydd ymchwil cymdeithasol, diwylliannol, economaidd a/neu amgylcheddol
- Gwybodaeth am statws presennol ymchwil mewn maes arbenigol, gan gynnwys y gallu i weithio gyda dulliau ymchwil a dadansoddi ansoddol ac/neu feintiol, yn ogystal â'r gallu i grynhoi'n briodol.
- Gallu diamheuol i gyhoeddi mewn cyfnodolion rhyngwladol ac i gyflwyno mewn cynadleddau academaidd a/neu bolisi cenedlaethol/rhyngwladol.
- Gwybodaeth am gyllid ymchwil cystadleuol, a dealltwriaeth ohono, er mwyn gallu paratoi ceisiadau i’w cyflwyno i gyrff cyllido.
- Y gallu diamheuol i gyfathrebu'n effeithiol ac yn argyhoeddiadol
- Gallu diamheuol i fod yn greadigol ac yn arloesol a gweithio’n rhan o dîm yn y gwaith
- Y gallu diamheuol i weithio heb oruchwyliaeth fanwl.
- Tystiolaeth o gydweithio â sefydliadau yn y sector cyhoeddus, preifat neu'r trydydd sector
- Tystiolaeth o’r gallu i gyfrannu at rwydweithiau mewnol ac allanol, eu datblygu a'u defnyddio i wella gweithgarwch ymchwil yr Ysgol.
- Y gallu i gyfathrebu yn Gymraeg neu i ymrwymo i ymgysylltu â'r iaith Gymraeg o fewn rhaglen waith y prosiect.