Platzhalter Bild

Hybrid Nature-based Learning Programme Development Manager (KTP Associate) bei Cardiff University

Cardiff University · Cardiff, Vereinigtes Königreich · Hybrid

38.000,00 £  -  41.000,00 £

Jetzt bewerben

Hysbyseb

Rheolwr Datblygu Rhaglenni Dysgu yn Seiliedig ar Natur (Cydymaith Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth)
Yr Ysgol Seicoleg


Mae gennym gyfle cyffrous newydd i weithio gyda Phrifysgol Caerdydd a WWT, yr elusen ar gyfer gwlypdiroedd a bywyd gwyllt, ar bartneriaeth trosglwyddo gwybodaeth sy'n canolbwyntio ar y rhaglen arobryn – Generation Wild.

Mae Generation Wild yn rhaglen cysylltu â natur ar gyfer ysgolion, plant a theuluoedd o gymunedau dan anfantais economaidd. Mae'r rhaglen wedi bod yn cael ei chynnal yn llwyddiannus am y tair blynedd diwethaf ac rydym bellach yn dechrau cyfnod newydd cyffrous.

Dros y ddwy flynedd a hanner nesaf, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio i ddangos tystiolaeth o effaith y rhaglen, gan helpu i sicrhau cyllid pellach fel y gellir parhau i'w chynnig am ddim i gymunedau difreintiedig. Byddant yn nodi cynulleidfaoedd talu newydd ac yn addasu'r rhaglen i ddiwallu eu hanghenion, gan helpu i sicrhau dyfodol hirdymor i'r rhaglen nodedig hon. Ymunwch â ni wrth i ni ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o’r rhai sy’n caru natur.

Mae partneriaethau trosglwyddo gwybodaeth yn cynnig cyfleoedd i raddedigion gynnal ymchwil ar y cyd â phrifysgolion a diwydiannau. Mae’r rôl yn cynnig cyfle i gydweithio â’r diwydiant a datblygu sgiliau ymchwil a masnachol. Mae’n gyfle gwych i reoli prosiect heriol yn y byd go iawn a rhoi datblygu strategol ar waith mewn cwmni arloesol.
Ynglŷn â phartneriaethau trosglwyddo gwybodaeth

Mae’r Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (PTG) yn fenter a gefnogir gan y Llywodraeth sy’n galluogi graddedigion i reoli prosiectau strategol mewn partneriaeth â phrifysgolion a diwydiant. Mae partneriaeth trosglwyddo gwybodaeth yn galluogi’r cydymaith i wneud y canlynol:
Symud ei (g)yrfa yn ei blaen yn gyflym.
Meithrin sgiliau rheoli prosiectau.
Bod yn fedrus ynghylch arferion masnachol.
Bod yn rhan o brifysgol ragorol.
Cael hyfforddiant perthnasol drwy raglen datblygiad personol bwrpasol.
Sicrhau cymhwyster rheoli, a gradd uwch, o bosib.
Mae'r swydd yn cynnig hyfforddiant pwrpasol (hyfforddiant preswyl ac ar-lein gyda’r bartneriaeth trosglwyddo ymchwil a thrwy'r cwmni), mentora a goruchwyliaeth. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Graddedigion – Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth (ktp-uk.org)

Os oes gennych ymholiadau anffurfiol, cysylltwch â'r Athro Merideth Gattis ([email protected]).

Swydd llawn amser (37.5 awr yr wythnos) yw hon am gyfnod penodol am 30 mis. Bydd y cyflogai yn cael ei gyflogi gan Brifysgol Caerdydd a'i leoli yn Ymddiriedolaeth Adar Gwyllt a Gwlyptiroedd, Slimbridge, Swydd Gaerloyw.

Cyflog: £38,000 - £41,000 y flwyddyn (ynghyd â bonws wedi cwblhau’r gwaith).

Dyddiad hysbysebu: Dydd Mercher, 23 Gorffennaf 2025

Dyddiad cau: Dydd Mercher, 20 Awst 2025


Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol.  Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran.  Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu’r swydd.

Mae modd cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg, ac ni chaiff cais a gyflwynir yn Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Mae Prifysgol Caerdydd wedi llofnodi Datganiad ar Asesu Ymchwil (DORA) San Francisco, sy'n golygu y byddwn, wrth wneud penderfyniadau cyflogi a dyrchafu, yn gwerthuso ymgeiswyr ar sail safon eu hymchwil, nid ar sail metrigau cyhoeddi na'r cyfnodolyn y mae'r ymchwil wedi’i chyhoeddi ynddo. Ceir rhagor o wybodaeth yma:  Asesu ymchwil yn gyfrifol - Ymchwil - Prifysgol Caerdydd

Disgrifiad Swydd

Ddangos tystiolaeth o effaith Generation Wild, rhaglen cysylltu â natur WWT ar gyfer ysgolion, plant a theuluoedd mewn cymunedau difreintiedig. Amrywio'r model cyflawni ac ariannu er mwyn sicrhau y gall y rhaglen barhau i fod o fudd i gynifer o bobl ifanc a theuluoedd â phosibl wrth barhau i fod yn gynaliadwy yn ariannol.

Cyffredinol
  • Arwain a rheoli’r prosiect: Cymryd perchnogaeth o brosiect y bartneriaeth trosglwyddo gwybodaeth a goruchwylio'r holl waith rheoli prosiect gan gynnwys llywodraethu ymchwil, moeseg ymchwil a chofnodion ariannol cywir, gan adrodd yn rheolaidd i'r Pwyllgor Rheoli Lleol.
  • Arloesi a gwella: Dylunio a lansio offer gwerthuso a rhaglenni dysgu newydd neu well. 
  • Trosglwyddo gwybodaeth: Bod yn gyswllt rhwng Prifysgol Caerdydd a WWT, gan drosglwyddo a chyflwyno’r syniadau academaidd diweddaraf yn y sefydliad. 
  • Cydweithio: Gweithio'n agos gyda goruchwylwyr academaidd, goruchwylwyr y cwmni, staff y cwmni a rhanddeiliaid perthnasol eraill i sicrhau bod y prosiect yn llwyddiannus. 

Dangos effaith
  • Dealltwriaeth o waith ymchwil cyfredol ym meysydd addysg, amgylcheddol ac iechyd a'r methodolegau a ddefnyddir yn gyffredin trwy adolygu a chydosod llenyddiaeth ymchwil bresennol.
  • Datblygu teclyn i asesu effaith Generation Wild ar i) cysylltiad â natur; ii) gofal a phryder am natur; iii) iechyd a lles cyfranogwyr
  • Lledaenu'r canfyddiadau ar draws y sectorau amgylcheddol, addysg ac iechyd ac i gyrff ac adrannau perthnasol yn y llywodraeth.
  • Ymgysylltu â gweithgareddau ymchwil y Brifysgol yn ôl yr angen.

Datblygu modelau cyflenwi ac ariannu newydd
  • Nodi cynulleidfaoedd talu newydd ar gyfer rhaglen Generation Wild ac ymgynghori â nhw i ddeall eu hanghenion a'u parodrwydd i dalu.
  • Datblygu a chyflwyno modelau cyflwyno newydd sy'n gweithio i'r cynulleidfaoedd newydd hyn ac sy'n hunangynhaliol yn ariannol.
  • Gweithio gyda thîm marchnata WWT i hyrwyddo'r rhain yn effeithiol i'r gynulleidfa darged.

Arall
  • Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill nad ydynt wedi’u nodi uchod ond sy'n cyd-fynd â gofynion y swydd

Uchafswm y Cyflog

41,000

Gradd

Gradd 4

Isafswm y Cyflog

38,000

Categori Swyddi

Academaidd- Ymchwil, Technegol

Llwybr Gyrfa

Technegol

Manyleb Unigolyn

NODYN PWYSIG I YMGEISWYR: Polisi'r Brifysgol yw defnyddio manyleb yr unigolyn yn adnodd allweddol i lunio’r rhestr fer, a dim ond yr ymgeiswyr hynny sy'n dangos yn glir eu bod yn bodloni (neu'n rhannol fodloni) pob un o'r meini prawf hanfodol a gaiff eu gwahodd i gyfweliad. Yn ystod y broses ymgeisio, gofynnir i chi atodi datganiad ategol. Mae’n rhaid i'r datganiad hwn amlinellu sut rydych yn bodloni'r meini prawf isod. Rydym yn argymell ei fformatio drwy ddefnyddio pob maen prawf yn is-bennawd a nodi eich profiad/tystiolaeth berthnasol o dan bob is-bennawd. Mae'n hanfodol eich bod yn cadw eich datganiad ategol drwy roi rhif y swydd wag (e.e. 1234BR) yn enw'r ffeil gan y gallai peidio â gwneud hynny olygu y bydd yn cael ei hepgor o'ch cais.

Meini Prawf Hanfodol

Cymwysterau ac Addysg
1.    Gradd ôl-raddedig ar lefel PhD mewn maes pwnc cysylltiedig neu brofiad perthnasol cyfatebol. 

Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad
2.    Arbenigedd a phortffolio diamheuol o waith ymchwil a/neu brofiad perthnasol yn un o’r meysydd ymchwil canlynol:
i.    Seicoleg amgylcheddol
ii.    Addysg amgylcheddol
iii.    Cysylltiad â natur
iv.    Seicoleg ddatblygiadol 
3.    Profiad o gynnal dadansoddiadau ystadegol perthnasol

Cyfathrebu a Gweithio’n Rhan o Dîm
4.    Y gallu i weithio ar y cyd fel rhan o dîm, gan ystyried, cydlynu a chydbwyso gwahanol anghenion a safbwyntiau         amrywiaeth o randdeiliaid.
5.    Y gallu i weithio'n annibynnol i nodi a datrys problemau a chyflawni targedau mewn modd amserol.
6.    Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig cryf, gan gynnwys ysgrifennu adroddiadau ar gyfer amrywiaeth o                                 gynulleidfaoedd.
7.    Sgiliau cyflwyno cryf, gan gynnwys cyflwyno canfyddiadau ymchwil a syniadau cyflwyno newydd i amrywiaeth o         gynulleidfaoedd.
8.    Sgiliau TG cryf gan gynnwys y gallu i gyfathrebu'n effeithiol drwy sianeli digidol e.e. Teams, Zoom ac ati. 

Meini Prawf Dymunol

1.    Dealltwriaeth dda o'r sector addysg amgylcheddol ac amcanion rhaglenni addysg/cysylltiad â natur. 
2.    Profiad o werthuso rhaglenni addysg natur/cysylltiad â natur gan gynnwys dealltwriaeth dda o ddulliau ymchwil         a gwerthuso a ddefnyddir i fesur cysylltiad â natur, gofal a phryder am natur ac iechyd a lles dynol.
3.    Gallu diamheuol i gyhoeddi gwaith mewn cyfnodolion rhyngwladol a/neu sicrhau allbynnau ymchwil eraill. 
4.    Profiad o weithio gyda phlant a grwpiau difreintiedig.
5.    Gwybodaeth sylfaenol am fodelau busnes ar gyfer datblygu cynnyrch a marchnata a'r gallu i nodi cyfleoedd               newydd yn y farchnad a datblygu rhaglenni newydd i fanteisio ar y rhain. 
Jetzt bewerben

Weitere Jobs