Platzhalter Bild

Hybrid Cydlynydd Cyflawni - Academi Seren bei Equal Education Partners

Equal Education Partners · Cardiff, Vereinigtes Königreich · Hybrid

30.000,00 £  -  30.000,00 £

Jetzt bewerben

Cydlynydd Cyflawni – Academi Seren

💷 Cyflog: £30,000 y flwyddyn

📅 Dyddiad Cychwyn: Medi 2025

🕒 Llawn Amser: 37 awr yr wythnos

📄 Cytundeb: 1 flwyddyn gyda phosibiliad o ymestyn am 4 mlynedd pellach

Trosolwg

Rydym yn chwilio am Gydlynydd Cyflawni i gefnogi cyflawniad darpariaeth Academi Seren – menter mynediad i addysg uwch flaenllaw Llywodraeth Cymru.  

Byddwch yn chwarae rhan allweddol mewn sicrhau bod y rhaglen yn gweithredu’n esmwyth, gan weithio’n agos gyda’r Uwch Reolwr Cyflawni yn Llywodraeth Cymru, y tîm o chwech o Reolwyr Cyflawni wedi’u lleoli ar draws Cymru, ac yn ymgysylltu gyda dysgwyr, ysgolion, colegau a phartneriaid mewn sefydliadau addysg uwch.

Mwy am Academi Seren

Gweledigaeth Academi Seren yw i ddysgwyr, waeth beth fo’u cefndir economaidd-gymdeithasol, gael yr uchelgais, y gallu a’r chwilfrydedd i gyflawni eu potensial a rhagori yn nodau addysgol y dyfodol ar y lefel uchaf. 

Y genhadaeth yw i gefnogi dysgwyr Seren wrth iddynt geisio rhagori drwy dri amcan strategol: 

  • Tanio chwilfrydedd a chymhelliant dysgwyr ar gyfer eu dysgu.
  • Grymuso dysgwyr i wneud dewisiadau uchelgeisiol, gwybodus am eu llwybr addysgol yn y dyfodol. 
  • Datblygu gallu dysgwyr i gyrraedd eu potensial a llwyddo mewn prifysgolion blaenllaw iawn.

Mae Academi Seren yn darparu rhaglen o gefnogaeth arbenigol a anelir at anghenion ein dysgwyr disgleiriaf ac yn darparu rhaglen hybrid o weithgareddau gorgyrsiol i ymestyn a herio dysgwyr, sy’n datblygu o Flwyddyn 8 i Flwyddyn 13. 

Eich Rôl

Byddwch yn chwarae rhan ganolog mewn cydlynu cefnogaeth ar gyfer Tîm Cyflawni Academi Seren, ac yn bennaf, ar gyfer Uwch Reolwr y Tîm Cyflawni. Bydd hyn yn cynnwys:

  • Cydlynu prosiect – cynnal cynlluniau prosiect, rhestrau tasgau a logiau risg/gweithredoedd.
  • Cefnogi ymgysylltiad – cydlynu darpariaeth wyneb-yn-wyneb ar ran y tîm
  • Logisteg y rhaglen – gan gynnwys archebu lleoliadau/mannau cyfarfod, teithio a llety; cysylltu gyda siaradwyr, cyflenwyr a rhieni; paratoi cyfarwyddyd ymuno ar gyfer digwyddiadau wyneb-yn-wyneb a digwyddiadau rhithiol.
  • Monitro cyllideb – cefnogi’r tîm i ystyried gwerth am arian, tracio gwariant yn erbyn y gyllideb; codio anfonebau a chodi archebion prynu cyn eu rhannu gyda’r adran gyllid i’w prosesu.

Dyddiad cau: 10 Awst 2025

Requirements

Am Beth Rydym yn Chwilio

Rydym yn chwilio am unigolyn sydd gan:

  • Dystiolaeth o brofiad mewn cydlynu prosiectau neu raglenni (croesewir profiad o’r sector addysg, y sector gyhoeddus neu’r trydydd sector).
  • Sgiliau cyfathrebu i ymgysylltu yn rhagweithiol gyda phobl ifanc, athrawon a rhanddeiliaid gan arddangos sgiliau ysgrifenedig a llafar clir; gweithio’n hyderus gyda thimau sydd ar wasgar.
  • Sgiliau trefniadol a sylw cryf at fanylion; y gallu i gydbwyso nifer o ddyddiadau cau yn bwyllog.
  • Defnyddiwr taenlenni hyfedr (Excel neu Google Sheets) ar gyfer amserlenni, cyllidebau syml neu dracio tasgau.
  • Ymagwedd rhagweithiol sy’n canolbwyntio ar ddatrys problemau; cyfforddus yn gweithio yn annibynnol ac wrth gydweithio.
  • Cyfarwydd gyda phrosesau cyllidebu syml.

 

Dymunol (ond nid yn angenrheidiol)

·        Profiad o ddefnyddio meddalwedd rheoli prosiectau neu gydweithio

·        Dealltwriaeth o’r tirwedd addysg yng Nghymru.

·        Sgiliau iaith Gymraeg.

Benefits

  • Cyflog blynyddol o £30,000
  • 25 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd â gwyliau banc
  • Gweithio hybrid
  • TOIL am waith gyda’r nos a’r penwythnos
Jetzt bewerben

Weitere Jobs