Platzhalter Bild

IT Demand and Resource Manager na Cardiff University

Cardiff University · Cardiff, Reino Unido · Onsite

£51,753.00  -  £56,535.00

Candidatar-se agora

Hysbyseb

Rheolwr Galw ac Adnoddau TG

Mae Prifysgol Caerdydd yn cychwyn ar dasg uchelgeisiol i drawsnewid y ffordd y mae'n cynnig ac yn gwneud y gorau o dechnolegau digidol ym mhob rhan o’r sefydliad. Yn rhan o'r esblygiad strategol hwn, rydyn ni’n chwilio am Reolwr Galw ac Adnoddau TG blaengar i sefydlu swyddogaeth newydd yn adran TG y Brifysgol. Bydd y rôl hon yn helpu'r adran i fesur y galw am wasanaethau digidol a TG a chefnogi'r gwaith o ddyrannu adnoddau i gyflawni blaenoriaethau'r Brifysgol.  Bydd y Rheolwr Galw ac Adnoddau TG yn chwarae rhan ganolog wrth lunio sut rydym yn cynllunio, blaenoriaethu a chynnig gwasanaethau TG sy'n cefnogi ein rhagoriaeth academaidd, weithredol ac ym maes ymchwil.

Mae hwn yn gyfle unigryw i ymuno ag amgylchedd bywiog a chydweithredol, lle mae arloesi digidol wrth wraidd newid sefydliadol. Byddwch yn arwain cydweithwyr ar draws yr adran a thu hwnt i gysoni capasiti TG â nodau strategol y Brifysgol—gan sicrhau bod ein mentrau trawsnewid digidol, ein datblygiadau strategol, a’n gweithgarwch bob dydd yn derbyn cefnogaeth gan y bobl iawn, gyda'r sgiliau cywir, ar yr adeg iawn.

Yn y swydd hon, byddwch yn gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid mewn adrannau academaidd, yn y gwasanaethau proffesiynol, a’r gwasanaeth TG canolog i asesu a rheoli galw a gwneud y gorau o’r adnoddau. Bydd eich dealltwriaeth a'ch arweinyddiaeth yn dylanwadu'n uniongyrchol ar sut mae Prifysgol Caerdydd yn rhoi gwerth drwy dechnoleg—gan wella profiad y myfyrwyr, galluogi ymchwil arloesol, a datblygu effeithlonrwydd gweithredol.

Mae hon yn swydd amser llawn a phenagored.

Cyflog: £51,753 - £56,535 y flwyddyn (Gradd 7)

Fel arfer, mae penodiadau i rolau ym Mhrifysgol Caerdydd yn cael eu gwneud ar waelod graddfa oni bai mewn amgylchiadau eithriadol.

Dyddiad hysbysebu: Dydd Gwener, 10 Hydref 2025

Dyddiad cau: Dydd Sul, 26 Hydref 2025

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir gwneud hynny drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o wahanol gefndiroedd.  Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned beth bynnag fo’u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oed.  Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Disgrifiad Swydd

Prif Ddyletswyddau
•    Cynnig cyngor ac arweiniad proffesiynol ar brosesau a gweithdrefnau rheoli adnoddau a’r galw am wasanaethau TG i randdeiliaid, yn fewnol ledled y sefydliad ac i bartneriaid allanol.
•    Deall y gofynion a’r blaenoriaethau ar gyfer gwasanaethau TG a digidol sy'n deillio o ddatblygiadau strategol, mentrau trawsnewid digidol, a gweithgarwch bob dydd.
•    Asesu effaith y galw sy'n dod i'r amlwg am lwyth gwaith TG a chynghori ar yr effaith ar gynlluniau adnoddau presennol ar gyfer datblygiadau strategol ym maes TG, mentrau trawsnewid digidol, a gweithgarwch bob dydd.
•    Datblygu, rheoli a chynnal cofrestr o sgiliau, profiad a gwybodaeth yng nghymuned staff TG y Brifysgol at ddibenion cynllunio llwyth gwaith, gan nodi unrhyw anghenion hyfforddi a bylchau mewn sgiliau.
•    Cynllunio a chyflawni cynlluniau adnoddau gweithredol trwy offer cynllunio adnoddau sydd ag effaith ar draws y sefydliad, rheoli timau traws-swyddogaethol yn ôl yr angen, a sicrhau cyflawniad yn erbyn amserlenni ac amcanion y cytunwyd arnynt.
•    Sicrhau ein bod yn cynnig gwasanaethau rheoli adnoddau effeithiol ac ymatebol i'r sefydliad, gan fod yn barod i addasu modelau cyflawni i fodloni gofynion cwsmeriaid a phrosiectau sy'n esblygu, a chyfrannu at ddatblygu safonau ledled y Brifysgol ym maes cynllunio adnoddau TG.
•    Cymryd cyfrifoldeb dros ddatrys problemau cymhleth sy'n gysylltiedig â rheoli galw ac adnoddau TG yn annibynnol, gan ddefnyddio barn a chreadigrwydd i argymell datrysiadau priodol a sicrhau bod cynulleidfaoedd technegol ac annhechnegol yn deall y rhain yn glir.
•    Ymchwilio a dadansoddi materion cymhleth penodol sy'n gysylltiedig â chapasiti TG, cynllunio'r gweithlu, a’r galw am brosiectau, gan greu argymhellion sy’n seiliedig ar dystiolaeth gyda chefnogaeth arferion gorau'r sector a data mewnol.
•    Creu ac arwain gweithgorau ledled y Brifysgol i gefnogi'r gwaith o gyflawni portffolio TG/Digidol ac amcanion sy’n ymwneud â chynllunio adnoddau.
•    Sefydlu a chynnal perthnasoedd cryf â chysylltiadau allweddol yn y Gwasanaethau TG, mewn ysgolion academaidd, adrannau proffesiynol, a chyda phartneriaid allanol i sicrhau bod amcanion y rôl yn cael eu cyflawni.
•    Datblygu a darparu hyfforddiant ac arweiniad ar offer, prosesau a systemau cynllunio adnoddau i gydweithwyr ledled y Brifysgol.
•    Cyfarwyddo ac arwain gweithwyr eraill ledled y Brifysgol ar faterion sy'n ymwneud ag adnoddau TG a rheoli galw yn ôl yr angen.

Dyletswyddau Cyffredinol
•    Rheoli ac arwain y Tîm Rheoli Galw ac Adnoddau TG gan sicrhau y caiff amcanion yr adran eu cyfleu a'u cyflawni, gan gynllunio, trefnu a dirprwyo gwaith, monitro cynnydd ac ymyrryd yn ôl yr angen.
•    Rheoli perfformiad, cyfnod ymsefydlu a datblygiad y tîm Rheoli Galw ac Adnoddau TG.  Cefnogi ac arwain aelodau'r tîm mewn perthynas â materion sy’n ymwneud â lles, gan uwch-gyfeirio materion yn ôl yr angen i feysydd sy’n rhoi cymorth arbenigol.
•    Gwneud yn siŵr eich bod yn defnyddio eich dealltwriaeth o bwysigrwydd cyfrinachedd wrth gyflawni eich holl ddyletswyddau.
•    Dilyn polisïau’r Brifysgol ar iechyd a diogelwch a chydraddoldeb ac amrywiaeth
•    Cyflawni dyletswyddau eraill o bryd i’w gilydd nad ydynt wedi'u nodi uchod ond sy'n cyd-fynd â gofynion y swydd
 

Uchafswm y Cyflog

56,535

Gradd

Gradd 7

Isafswm y Cyflog

51,753

Categori Swyddi

Technoleg Gwybodaeth, Technegol

Gwybodaeth Ychwanegol

Fel gweithiwr ym Mhrifysgol Caerdydd, bydd deiliad y swydd: 

•  Sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion cyfreithiol a rheoleiddiol mewn perthynas â chydraddoldeb ac amrywiaeth, diogelu data, hawlfraint a thrwyddedu, diogelwch, polisïau, gweithdrefnau a chodau ariannol a Phrifysgol eraill fel y bo'n briodol. 
•  Cymerwch ofal rhesymol am iechyd a diogelwch eich hun a phersonau eraill y gall eich gweithredoedd neu hepgoriadau yn y gwaith effeithio arnynt yn unol â Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974, cyfarwyddebau'r CE a Pholisïau a gweithdrefnau Diogelwch, Iechyd a'r Amgylchedd y Brifysgol ac i gydweithredu â'r Brifysgol ar unrhyw ddyletswyddau cyfreithiol a osodir arni fel y cyflogwr. 

 

Llwybr Gyrfa

Staff Rheoli, Proffesiynol ac Arbenigol - MPSS

Manyleb Unigolyn

Nodyn Pwysig: Polisi’r Brifysgol yw defnyddio manyleb yr unigolyn i ddethol pobl ar gyfer y rhestr fer. Dylai ymgeiswyr ddangos tystiolaeth eu bod yn bodloni POB UN o’r meini prawf hanfodol, yn ogystal â’r rhai dymunol pan fo’n berthnasol. Yn rhan o’r broses ymgeisio, bydd gofyn ichi gyflwyno’r dystiolaeth hon ar ffurf datganiad ategol. Gofalwch fod y dystiolaeth yr ydych yn ei rhoi’n cyfateb i rifau’r meini prawf a amlinellir isod. Caiff eich cais ei ystyried ar sail y wybodaeth a rowch yn unol â phob elfen. Wrth atodi’r datganiad ategol i’ch cais, sicrhewch mai cyfeirnod y swydd wag yw enw’r ddogfen, e.e. Datganiad Ategol ar gyfer #### 

Meini Prawf Hanfodol 

Cymwysterau ac Addysg
1.    Cymhwyster ôl-raddedig/proffesiynol neu NVQ Lefel 5, neu brofiad cyfatebol.

Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad
2.    Profiad sylweddol o weithio ym maes cynllunio adnoddau TG neu’r gweithlu.
3.    Gwybodaeth broffesiynol arbenigol sy’n gysylltiedig â rheoli galw ac adnoddau TG, wedi eich cydnabod yn awdurdod yn y maes.
4.    Profiad diamheuol o ddatblygu, cynllunio, blaenoriaethu a rhoi prosesau a gweithdrefnau newydd ar waith.

Gwasanaethu Cwsmeriaid, Cyfathrebu a Gweithio mewn Tîm
5.    Yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau uwch randdeiliaid yng nghyd-destunau TG a chynllunio sefydliadol.
6.    Tystiolaeth o'r gallu i ystyried anghenion cwsmeriaid, addasu gwasanaethau, a rheoli disgwyliadau yn effeithiol.
7.    Gallu diamheuol i ddatblygu rhwydweithiau a phartneriaethau i gefnogi nodau strategol hirdymor.

Cynllunio, Dadansoddi a Datrys Problemau
8.    Tystiolaeth o allu ymchwilio a datrys problemau eang gan ddefnyddio crebwyll a chreadigrwydd, gan gynnwys cynnig atebion ymarferol ac arloesol.
9.    Gwybodaeth ddiamheuol o ddatblygiadau ac offer allweddol ym maes rheoli adnoddau a’r galw am wasanaethau TG .
10.    Tystiolaeth o allu cynnal a chyflwyno prosiectau penodol yn ogystal â goruchwylio timau prosiect tymor byr.

Meini Prawf Dymunol

1.    Profiad o weithio ym myd addysg uwch.
2.    Rhuglder yn y Gymraeg, yn ysgrifenedig ac ar lafar.
3.    Cymhwyster rheoli ITIL, neu gymhwyster tebyg.
Candidatar-se agora

Outros empregos