Platzhalter Bild

Internal Only - Admissions Operations Manager (Partnerships) en Cardiff University

Cardiff University · Cardiff, Reino Unido · Hybrid

41.064,00 GBP  -  46.049,00 GBP

Solicitar ahora

Hysbyseb

Mae'r swydd hon ar agor i weithwyr Prifysgol Caerdydd yn unig ar hyn o bryd.  Peidiwch ymgeisio os nad oes ganddoch gytundeb cyflogaeth ddilys gyda’r brifysgol.

Ymgeiswyr Mewnol yn Unig - Rheolwr Gweithrediadau Derbyn Myfyrwyr (Partneriaethau)
Derbyniadau
Cyfathrebu a Marchnata


O dan arweiniad y Pennaeth a Dirprwy Bennaeth Derbyn Myfyrwyr, bydd deiliad y swydd yn:
  • Sicrhau bod proses derbyn myfyrwyr rhagorol ac amserol yn cael ei chynnal o'r dechrau i'r diwedd, o'r ymholiad cychwynnol hyd at ymrestru.
  • Gweithio ar y cyd i sicrhau datblygiad parhaus y broses derbyn myfyrwyr, er mwyn ateb y galw a diwallu anghenion busnes.
  • Cynnig arweinyddiaeth i gydweithwyr mewn Ysgolion a Cholegau academaidd, a gwasanaethau proffesiynol eraill, wrth ddefnyddio'r uwch brosesau derbyn myfyrwyr a, lle cymeradwyir, cefnogi datblygiad eu prosesau eu hunain sy'n cyd-fynd â derbyn a recriwtio myfyrwyr, gan gynnig cyngor ac arweiniad arbenigol.
  • Sicrhau bod digwyddiadau allweddol yn cael eu cyflwyno’n llwyddiannus, megis y broses Cadarnhau a Chlirio.
  • Cynrychioli’r tîm Derbyn Myfyrwyr mewn digwyddiadau/cyfarfodydd mewnol ac allanol.
  • Rheoli partneriaethau gweithredol allanol mewn perthynas â derbyn myfyrwyr er mwyn sicrhau bod safonau a rhwymedigaethau cytundebol yn cael eu bodloni a bod gan bartneriaid bwynt cyswllt allweddol ar gyfer ymholiadau ynglŷn â derbyn myfyrwyr.
Gan weithio o fewn y tîm Derbyn Myfyrwyr, byddwch yn aelod o’r Uwch Dîm Rheoli Derbyniadau, yn gyfrifol am arwain a goruchwylio’r broses weithredol a’r tîm/au prosesu o fewn y tîm Derbyn Myfyrwyr, dan arweiniad y Dirprwy Bennaeth Derbyn Myfyrwyr ac i gefnogi’r Ysgolion a Cholegau Academaidd.

Mae hon yn swydd amser llawn am gyfnod o 4 blynedd.

Cyflog: £41,064 – £46,049 y flwyddyn (Gradd 6).

Oherwydd natur gwaith derbyn myfyrwyr bydd adegau pwysig yn ystod y flwyddyn pan fydd gwyliau'n cael eu cyfyngu, yr oriau agor yn cael eu hymestyn, a bydd angen gweithio ar benwythnosau o bryd i'w gilydd. Bydd hyn yn digwydd yn ystod y gwaith cadarnhau a chlirio ym mis Awst yn bennaf, ond mae’n bosibl y bydd hyn yn digwydd ar adegau eraill hefyd, a bydd angen gweithio goramser i ymrestru myfyrwyr yn ystod y cyfnodau hyn.

Dyddiad cau: Dydd Mercher, 29 Hydref 2025

Nid yw ceisiadau allanol yn cael eu hystyried ar gyfer y swydd hon.


Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn y gellir gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol sydd eisiau creu prifysgol sy’n ceisio cyflawni ei rhwymedigaethau cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd i Gaerdydd, Cymru a’r byd. Er mwyn helpu ein gweithwyr i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywyd personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu’r swydd.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Disgrifiad Swydd

Prif Ddyletswyddau
  • Gweithio gyda'r Ysgolion a'r Colegau academaidd i sicrhau bod yr amcanion/gofynion recriwtio strategol yn cael eu bodloni drwy'r broses derbyn myfyrwyr.
  • Gweithio gydag adrannau eraill yn yr Gwasanaethau Proffesiynol i sicrhau bod y broses derbyn myfyrwyr yn diwallu anghenion a bodloni gofynion meysydd cysylltiedig.
  • Arwain gweithrediad y tîm Derbyn Myfyrwyr drwy gynllunio llwyth gwaith yn effeithiol, trefnu, cyfathrebu a dirprwyo gwaith lle bo’n briodol, cymryd camau priodol a gwneud penderfyniadau annibynnol yn ôl yr angen.
  • Defnyddio data a ddarperir gan y Timau Data Derbyn Myfyrwyr/Gwybodaeth Busnes i gydbwyso llwythi gwaith a chynllunio adnoddau'n effeithiol.
  • Datblygu prosesau derbyn myfyrwyr i fodloni a (lle bo hynny'n bosibl) rhagori ar ddisgwyliadau ymgeiswyr ac anghenion busnes, gan gynnwys gwerthuso datblygiadau system, digidol a TG.
  • Dan arweiniad a chyfarwyddyd y Dirprwy Bennaeth Derbyn Myfyrwyr, sicrhau bod y gwaith sydd ynghlwm â Chadarnhad a Chlirio yn cael ei gwblhau’n llwyddiannus.
  • Dan arweinyddiaeth a chyfarwyddyd y Pennaeth Derbyn Myfyrwyr, sicrhau bod y broses derbyn myfyrwyr yn llwyddiannus ar gyfer partneriaethau strategol. Sicrhau llwyddiant y bartneriaeth derbyn myfyrwyr drwy sicrhau bod yr holl randdeiliaid a thimau dan sylw yn ymgymryd â'u rolau a'u tasgau i'r safon ofynnol a darparu’r adroddiadau diweddaraf i'r Pennaeth Derbyn Myfyrwyr i ddangos y camau gweithredu a gymerwyd a'r rhai sydd heb eu cymryd, gan uwchgyfeirio unrhyw faterion a phryderon fel y bo'n briodol.
  • Arwain ar y ddarpariaeth o wybodaeth amserol, gyfredol a chywir am dderbyn myfyrwyr ar ddechrau’r cylch ac yn ystod y cylch i randdeiliaid mewnol a sicrhau bod unrhyw wybodaeth a ddarperir trwy gydol pob cylch yn hygyrch/yn cael ei chyfathrebu’n glir.
  • Goruchwylio perfformiad, cyfnod ymsefydlu, a datblygiad y tîm gyda chefnogaeth Arweinwyr y Tîm.
  • Gweithio gydag Arweinwyr y Tîm i reoli'r broses o gyflwyno'r holl brosesau derbyn myfyrwyr sy'n ymwneud â mynediad i raglenni a addysgir ac ymchwil. Mae hyn yn cynnwys casglu, cymeradwyo a diweddaru gofynion mynediad yn barod ar gyfer dechrau pob cylch.
  • Gweithio gyda'r Rheolwr ac Arweinwyr Tîm Cymorth Derbyn Myfyrwyr i wella gwasanaethau a phrosesau derbyn myfyrwyr. Mae hyn yn cynnwys adolygu gofynion ceisiadau, rheoli ymholiadau, cyfathrebu, a gofynion system gan sicrhau bod unrhyw ddiweddariadau yn cael eu cyflwyno mewn modd amserol.
  • Cynorthwyo ac arwain aelodau’r tîm gyda materion yn ymwneud â pherfformiad a lles, gan uwch-gyfeirio yn ôl yr angen at wasanaethau cymorth arbenigol
  • Rheoli a chymryd camau priodol mewn perthynas â materion sy’n cael eu huwchgyfeirio, ymholiadau cymhleth neu gamgymeriadau yn ymwneud â’r broses derbyn myfyrwyr.
  • Sicrhau bod cytundebau lefel gwasanaeth y tîm yn cael eu gweithredu, gan addasu'r rhain yn unol â newidiadau o ran llwyth gwaith a gofynion y cwsmer.
  • Goruchwylio a chydlynu hyfforddiant ym mhob maes sy'n ymwneud â gwaith y tîm, gan gynnwys hyfforddiant Cadarnhau a Chlirio.
  • Darparu cefnogaeth i brosiectau'r Brifysgol sy'n ymwneud â derbyn myfyrwyr.
  • Cynrychioli’r tîm Derbyn Myfyrwyr a'r Brifysgol mewn digwyddiadau mewnol ac allanol.

Dyletswyddau Penodol
  • Sefydlu perthynas waith â chysylltiadau pwysig er mwyn gwella gwasanaethau a datblygu cysylltiadau cyfathrebu priodol â Cholegau/ Ysgolion/Cyfarwyddiaethau'r Brifysgol a chyrff allanol lle bo angen.
  • Rheolaeth linell o Arweinwyr Tîm Derbyn Myfyrwyr yn y Tîm Gweithrediadau.
  • Dirprwyo ar gyfer y Dirprwy Bennaeth Derbyn Myfyrwyr/Pennaeth Derbyn Myfyrwyr yn ôl yr angen.
  • Sicrhau bod prosesau a dyletswyddau derbyn yn cael eu cofnodi'n briodol a chyfredol (darparu llawlyfrau hyfforddi a phrosesau).

Uchafswm y Cyflog

46,049

Gradd

Gradd 6

Isafswm y Cyflog

41,064

Categori Swyddi

Rheolaethol a Gweithredol

Gwybodaeth Ychwanegol

Dutiau Penodol yn parhau:
  • Gweithio'n agos gyda'r Dirprwy Bennaeth Derbyn Myfyrwyr i sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei rhannu ac i gyflenwi dros ei gilydd yn ystod cyfnod o absenoldeb.
  • Rheoli partneriaethau gweithredol allanol sy'n gysylltiedig â derbyn myfyrwyr er mwyn sicrhau bod safonau a rhwymedigaethau cytundebol yn cael eu bodloni.
Dyletswyddau Cyffredinol
  • Datblygu’n bersonol ac yn broffesiynol mewn ffyrdd addas a fydd yn gwella eich perfformiad personol a’r tîm ehangach.
  • Sicrhau cydymffurfiaeth â'r holl Bolisïau a gweithdrefnau Derbyn Myfyrwyr. Creu amgylchedd gwaith cefnogol a hyblyg yn ogystal â hybu iechyd a lles yn y tîm.
  • Cynnal Gwerthoedd ac Ymddygiadau Gwasanaethau Proffesiynol Prifysgol Caerdydd.
  • Deall pwysigrwydd cyfrinachedd a sensitifrwydd wrth ymgymryd â’r holl ddyletswyddau.
  • Sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion cyfreithiol a rheoliadol o ran cydraddoldeb ac amrywiaeth, diogelu data, hawlfraint a thrwyddedu, diogelwch, polisïau ariannol yn ogystal â holl bolisïau, gweithdrefnau a chodau eraill y Brifysgol.
  • Cyflawni dyletswyddau eraill sydd heb eu nodi uchod, ond sy'n cyd-fynd â'r rôl.
Y Tîm Derbyn Myfyrwyr sy’n gyfrifol am gynnal a gweinyddu proses recriwtio'r Brifysgol a'r polisïau sy'n ymwneud â derbyn myfyrwyr. Mae hyn yn cynnwys darparu prosesau cyflwyno ceisiadau, rhoi gwybod am benderfyniadau a chynnal systemau sy'n ymwneud â'r broses dderbyn.

Mae gan y Tîm Derbyn Myfyrwyr rôl bwysig o ran cynnal enw da’r Brifysgol drwy gyfathrebu’n effeithiol â’r cyhoedd yn ogystal â rhanddeiliaid mewnol ac allanol. Mae gan y Tîm Derbyn Myfyrwyr ddull sy'n rhoi’r cwsmer yn gyntaf ac yn cynrychioli'r Brifysgol ar lefel gorfforaethol. Mae’n cydweithio â’r tri choleg academaidd a'r ysgolion sy’n rhan o’r colegau hyn.

Mae’r Tîm Derbyn Myfyrwyr yn gyfrifol am gysylltiadau allweddol â chyrff allanol megis UCAS a Grŵp Russell, a'i nod yw dylanwadu ar arferion derbyn myfyrwyr yn lleol ac yn genedlaethol. Mae‘r tîm yn datblygu’n barhaus, gan weithio'n hyblyg i ddiwallu anghenion a’r galw am wasanaethau, ac mae wedi ymrwymo i roi’r profiad gorau posibl i ymgeiswyr.

Yn ogystal â gweithio mewn gwahanol leoliadau ar y campws yn bennaf, hwyrach y bydd adegau pan gewch weithio o bell (gelwir hyn yn weithio cyfunol). Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i gynnig yr hyblygrwydd hwn, pryd bynnag y bydd y rôl a’r anghenion busnes yn caniatáu hynny, gan eich helpu i gael cydbwysedd rhwng eich gwaith a’ch bywyd personol.

Ni yw’r Brifysgol fwyaf yng Nghymru – ac yn gyflogwr o bwys â mwy na 7,000 o staff – ac rydym yn sefydliad uchelgeisiol ac arloesol mewn prifddinas hardd a ffyniannus. Gallwn roi’r cyfle ichi weithio mewn sefydliad bywiog sy’n cynnig manteision a chyfleoedd gwych i ddatblygu eich gyrfa.

Sut byddwn ni’n eich helpu i wneud y swydd hon
Rydym eisiau eich cefnogi a'ch datblygu yn y swydd, gan ddefnyddio cyfuniad o'r canlynol i'ch helpu i gyrraedd eich llawn botensial.
  1. Cyfarfodydd un i un rheolaidd gyda’ch Rheolwr Llinell.
  2. Tîm profiadol a chefnogol o'ch cwmpas.
  3. Cymorth i ymgymryd â sesiynau hyfforddi a datblygu mewn ffordd sy’n berthnasol i'r swydd, fel y nodir gan eich Rheolwr Llinell.
  4. Cyfle i ymuno â'r cynllun mentora staff.
  5. Cymorth i ddysgu’r Gymraeg neu loywi eich sgiliau iaith.

Llwybr Gyrfa

Staff Rheoli, Proffesiynol ac Arbenigol - MPSS

Manyleb Unigolyn

Rydym yn awyddus i gyflogi pobl sydd ag amrywiaeth eang o brofiadau. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Rydym yn arbennig o awyddus i gael ceisiadau gan ymgeiswyr o gefndiroedd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y Brifysgol, gan gynnwys pobl o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.

Bydd y swydd hon hwyrach yn gyfle ichi ehangu ar eich profiad o weithio mewn swydd neu gyd-destun gweinyddol blaenorol, a bydd gennych ddiddordeb penodol ym myd addysg uwch, atal twyll neu gydymffurfio, gan ddangos eich sgiliau trosglwyddadwy a'ch gallu i fod yn llwyddiannus yn y swydd. Dylech fod yn frwdfrydig dros ddatblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau i ddod yn aelod gwerthfawr o'r tîm.

PWYSIG: Tystiolaeth o Feini Prawf
Bydd eich cais yn cael ei asesu yn unol â’r meini prawf hanfodol a dymunol canlynol ar gyfer y swydd. Nodwch mai'r rhain hefyd yw’r meini prawf a ddefnyddir i asesu’r ymgeiswyr ar y rhestr fer mewn cyfweliad a/neu drwy ddulliau eraill (e.e. prawf sgiliau neu gyflwyniad).

Mae’n rhaid ichi restru'r meini prawf hanfodol a dymunol yn benawdau wedi'u rhifo gan roi enghreifftiau clir a phenodol o dan bob un ynghylch sut rydych yn bodloni pob maen prawf unigol. Cewch gyfeirio at elfennau o unrhyw agwedd ar eich bywyd (e.e. gwaith, cartref, addysg/cymwysterau neu fywyd cymunedol) os ydynt yn berthnasol i’r swydd. Mae’n bosibl na chaiff eich cais ei ystyried os na fyddwch yn dilyn y fformat hwn.

Cadwch eich datganiad ategol mewn dogfen ar wahân sy’n dwyn y teitl [EICH ENW-RHIF BR-TEITL Y SWYDD] a'i roi ynghlwm wrth eich cais yn y system recriwtio.

Meini Prawf Hanfodol
  1. Tystiolaeth o Radd/cymhwyster NVQ 4 neu aelodaeth o gorff proffesiynol/profiad proffesiynol cyfatebol.
  2. Tystiolaeth o brofiad sylweddol o arwain tîm mawr, yn benodol o fewn y sector AU, gan gynnwys profiad o ymdrin â materion perfformiad a lles.
  3. Tystiolaeth amlwg o allu gweithio'n annibynnol, gwneud penderfyniadau dan bwysau a chymryd cyfrifoldeb a pherchnogaeth ar lefel uwch.
  4. Tystiolaeth o brofiad sylweddol o reoli gwaith tîm, ymateb i newidiadau mewn llwyth gwaith a blaenoriaethau, gosod a rheoli terfynau amser, a chynllunio'n rhagweithiol ar gyfer gofynion y dyfodol.
  5. Tystiolaeth o wybodaeth arbenigol am systemau a phrosesau gweinyddol priodol, yn enwedig cronfa ddata reoli SITS/SIMS a systemau rheoli ymholiadau, gan nodi datblygiadau posibl a gwneud gwelliannau fel y bo'n briodol.
  6. Y gallu amlwg i gyfleu gwybodaeth gysyniadol fanwl a chymhleth yn effeithiol ac yn broffesiynol gydag amrywiaeth eang o bobl, gan gynnwys ar ffurf cyflwyniad.
  7. Tystiolaeth o’r gallu i ddatblygu rhwydweithiau mewnol ac allanol, a defnydd o'r rhwydweithiau hyn i hwyluso datblygiadau hirdymor.
  8. Tystiolaeth o’r gallu i ymchwilio i anghenion cwsmeriaid ac addasu'r gwasanaeth yn briodol i ofalu bod gwasanaeth o safon ar gael yn rheolaidd.
  9. Tystiolaeth o'r gallu i ymgymryd â phrosiectau penodol a'u darparu, bodloni dangosyddion perfformiad allweddol y cytunwyd arnynt, adrodd ar gynnydd a phrofiad o oruchwylio timau prosiect tymor byr.
  10. Tystiolaeth o’r gallu i ddatrys problemau eang yn annibynnol gan ddefnyddio menter a chreadigedd; ymchwilio i achos y broblem, nodi a chynnig atebion ymarferol, a bwrw ymlaen â datrysiadau y cytunwyd arnynt.

Meini Prawf Dymunol
  1. Rhuglder yn y Gymraeg, yn ysgrifenedig ac ar lafar.
  2. Gwybodaeth am yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd a sut mae hyn yn effeithio ar y sector AU, a’r rheoliad diogelu data (GDPR).
  3. Gwybodaeth amlwg am Fisa Myfyrwyr a gofynion mewnfudo.
  4. Parodrwydd i fod yn hyblyg ac yn agored, gydag agwedd gadarnhaol a phragmatig at newid.
Solicitar ahora

Otros empleos