Internal - Assistant Director - Digital Planning & Development en Cardiff University
Cardiff University · Cardiff, Reino Unido · Hybrid
- Senior
- Oficina en Cardiff
Hysbyseb
Ymgeiswyr Mewnol yn Unig - Cyfarwyddwr Cynorthwyol - Cynllunio a Darparu Digidol
Diben y swydd yw cynnig arweinyddiaeth strategol o ran sut mae’r Tîm Cynllunio a Chyflwyno Digidol yn datblygu, yn cyflawni ac yn gweithredu. Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am y canlynol yn Adran TG y Brifysgol:
- goruchwylio, cyflawni a chyfleu prosiectau a rhaglenni TG/digidol y cytunwyd arnynt a chefnogi’r rhai a fydd yn defnyddio’r hyn sy’n deillio ohonynt, gan gynnwys cyflawni’r Cynllun Digidol; cynllunio ariannol a rheoli cyllidebau’n effeithiol
- rheoli galw ac adnoddau
- cyfleu gweithgarwch adrannol yn effeithiol, ymgysylltu’n strategol â’r Colegau, yr Ysgolion a’r Gwasanaethau Proffesiynol (partneriaethau busnes)
- goruchwylio a rheoli risgiau adrannol, archwiliadau adrannol a chamau lliniaru
Mae hon yn swydd amser llawn a phenagored.
Salary: £76,188 y flwyddyn (SENST)
Dyddiad cau: Dydd Gwener, 17 Hydref 2025
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir gwneud hynny drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o wahanol gefndiroedd. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned beth bynnag fo’u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oed. Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Cysylltiadau Mewnol ac Allanol Mewnol Cyfarwyddwr TG – Rheolwr llinell Prif Swyddog Gweithrediadau Digidol a Gwybodaeth – Rheolwr llinell eilaidd Cyfarwyddwr Cyflawni’r Broses Drawsnewid Y Tîm Cyflawni’r Broses Drawsnewid (Swyddfa Rheoli Rhaglenni’r Brifysgol) – sicrhau bod prosesau newid yn cynnwys digon o siecbwyntiau sicrwydd pensaernïol Rheolwr Cyllid – cydweithio â’r Arweinydd Cyllid TG yn y Tîm Cyllid Canolog i sicrhau bod gan yr Adran yr ymwybyddiaeth ariannol i reoli’r cyllidebau a ddyrannwyd iddo a’i bod yn cael ei chefnogi i wneud hynny’n effeithiol Rhag Is-gangellorion y Colegau a Rhag Is-gangellorion thematig – rheoli ac ymgysylltu â rhanddeiliaid yn strategol ynghylch y gwasanaethau TG sy’n cael eu darparu ar eu cyfer Penaethiaid a Rheolwyr yr Ysgolion – rheoli ac ymgysylltu â rhanddeiliaid yn strategol ynghylch y gwasanaethau TG sy’n cael eu darparu ar eu cyfer Cofrestryddion y Colegau – rheoli ac ymgysylltu â rhanddeiliaid yn strategol ynghylch y gwasanaethau TG sy’n cael eu darparu ar eu cyfer Y Tîm Cyfathrebu a Marchnata – cyfathrebu â’r Brifysgol i rannu canlyniadau a manteision arfaethedig a gwirioneddol rhaglenni gwaith Adran TG y Brifysgol Cyfarwyddwyr eraill y Gwasanaethau Proffesiynol – rheoli ac ymgysylltu â rhanddeiliaid yn strategol ynghylch gwasanaethau sy’n cael eu darparu ganddynt ar hyn o bryd a’r gwasanaethau y byddant yn eu darparu yn y dyfodol, gan gynnwys y gwasanaethau TG sydd eu hangen nawr ac yn y dyfodol i gefnogi’r rhain Uwch-reolwyr eraill y Gwasanaethau Proffesiynol ac Academyddion – ymwneud â grwpiau llywio a Byrddau amrywiol Swyddogion etholedig Undeb y Myfyrwyr – rheoli ac ymgysylltu â rhanddeiliaid yn strategol ynghylch y gwasanaethau TG sy’n cael eu darparu ar eu cyfer Staff TG y Brifysgol – gweithio gydag arbenigwyr technegol ac ymarferwyr i sicrhau bod gwasanaethau TG yn effeithiol ac yn effeithlon o ran diwallu anghenion y Brifysgol Allanol RUGIT – ymwneud â fforwm Rheoli Gwasanaethau Grŵp Russell HEWIT – cynrychioli Prifysgol Caerdydd yn y fforwm Cyfarwyddwyr TG ym Myd Addysg Uwch yng Nghymru Cyflenwyr a Phartneriaid Technoleg Strategol – dethol darparwyr technoleg yn strategol a rheoli perthynas y Brifysgol â hwy |
Disgrifiad Swydd
- Gweithio gyda’r Prif Swyddog Gweithrediadau Digidol a Gwybodaeth a chydweithwyr eraill yn yr Uwch-dîm Arwain i bennu’r strategaeth ar gyfer Adran TG y Brifysgol a gwella sut mae’n gweithio, gan ddatblygu diwylliant rhagweithiol yn hytrach nag ymatebol
- Ysgogi’r gwaith o gyflawni strategaeth yr Adran yn unol â strategaeth y Brifysgol, y Cynllun Digidol ac anghenion cyffredinol y busnes, gan sicrhau bod staff TG y Brifysgol yn parhau i ganolbwyntio ar ganlyniadau sy’n hyrwyddo mabwysiadu technoleg, yn arwain at effeithlonrwydd ac yn sicrhau gwerth busnes mesuradwy i’r Brifysgol drwy ei buddsoddiadau digidol
- Cyfrannu at y gwaith o ddatblygu Cynllun Digidol y Brifysgol ac arwain y gwaith o weithredu’r strategaethau digidol a TG drwy greu cynlluniau gweithredu effeithiol
- Arwain y gwaith o reoli’r galw am wasanaethau TG, gan sicrhau bod ceisiadau am brosiectau TG a phrosiectau gwella’n cael eu cofnodi’n effeithiol a’u cyflawni wedi hynny, bod prosiectau newydd yn cael eu sefydlu a’u rheoli a bod prosiectau sy’n mynd rhagddynt yn cael eu cyflawni’n effeithiol
- Arwain y gwaith o fonitro a dyrannu adnoddau’r Adran yn effeithiol, gan sicrhau bod adnoddau’n cael eu defnyddio’n briodol ac yn effeithlon ar gyfer gweithgarwch busnes fel arfer a gweithgarwch trawsnewidiol; Sicrhau bod gwybodaeth gywir yn bodoli am yr adnoddau sydd ar gael i gefnogi trafodaethau’r Prif Swyddog Gweithrediadau Digidol a Gwybodaeth a’r Uwch-dîm Arwain ynghylch trefnu a blaenoriaethu’r llwyth gwaith
- Bod yn berchen ar gofrestrau risgiau’r Adran (gweithredol ac ar gyfer rhaglenni), gan sicrhau eu bod yn cael eu hadolygu’n rheolaidd a rhoi sicrwydd bod camau lliniaru’n cael eu cymryd; Nodi a chydlynu archwiliadau adrannol (mewnol ac allanol), gan sicrhau bod yr Adran yn ymateb i’r argymhellion ac yn gweithredu arnynt yn briodol
- Sicrhau bod strwythurau a phrosesau llywodraethu TG priodol yn cael eu creu a’u cynnal er mwyn goruchwylio rhaglenni a phrosiectau, rheoli galw, rheoli adnoddau, rheoli risgiau a rheoli gweithgarwch archwilio
- Datblygu cyfleoedd i gydweithio ac ymgysylltu ar lefel strategol â’r Colegau, yr Ysgolion a’r Gwasanaethau Proffesiynol i sicrhau bod atebion, mentrau a gwasanaethau TG yn cefnogi swyddogaethau academaidd a gweinyddol y sefydliad
- Arwain y gwaith o gyfleu gwasanaethau TG ac ymgysylltu digidol y Brifysgol yn effeithiol i hyrwyddo tryloywder, dealltwriaeth a gwaith gwych yr Adran
- Arwain y gwaith o gyllidebu gweithgarwch sy’n gysylltiedig â gwasanaethau TG y Brifysgol a’u cynllunio’n ariannol, gan gynnwys sicrhau bod cyllidebau cysylltiedig yn cael eu rheoli’n effeithiol
- Sicrhau bod aelodau’r staff ar bob lefel yn y Tîm Cynllunio a Chyflwyno Digidol yn cael eu rheoli’n briodol drwy gynnig arweinyddiaeth broffesiynol, gan gynnwys recriwtio, dethol, hyfforddi, datblygu a rheoli perfformiad aelodau o’r staff; Cefnogi, hyfforddi a mentora rheolwyr llinell uniongyrchol i sicrhau bod amcanion ac ymrwymiadau’n cael eu cyflawni’n unol â disgwyliadau, cytundebau a safonau perthnasol
Uchafswm y Cyflog
Gradd
Isafswm y Cyflog
Categori Swyddi
Gwybodaeth Ychwanegol
- Arwain, ysgogi a rheoli perfformiad y Tîm Cynllunio a Chyflwyno Digidol i ddarparu gwasanaeth proffesiynol o ansawdd uchel sy’n canolbwyntio ar y cwsmer ac sy’n gweithio’n unol â therfynau a safonau y cytunwyd arnynt
- Sicrhau bod y Tîm Cynllunio a Chyflwyno Digidol yn gallu defnyddio adnoddau priodol (caledwedd, meddalwedd ac adnoddau dynol) i’w alluogi i gyflawni ei swyddogaethau, gan wneud yn siŵr bod yr adnoddau’n cael eu sicrhau a’u defnyddio drwy ddull ariannol optimaidd a chynaliadwy
- Adolygu’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu ar gyfer cwsmeriaid yn barhaus i sicrhau eu bod yn cael eu darparu’n unol â’r gofynion a’r lefelau gwasanaeth y cytunwyd arnynt, gan ymgysylltu â rhanddeiliaid a chyflwyno adroddiadau i randdeiliaid ar wasanaethau a phrosesau gwell yn ôl yr angen; Defnyddio data ac adborth i wthio ymdrechion i wella’n barhaus yn eu blaen, gan addasu strategaethau a mentrau yn ôl yr angen
- Datblygu rhwydwaith o ddylanwad ar y cyd â’r Uwch-dîm Arwain, Tîm Arwain y Gwasanaethau Proffesiynol a chydweithwyr mewn swyddi cyfatebol yn y Brifysgol a’r tu allan iddi
- Rheoli a chynnal ymrwymiad i hyrwyddo a gwneud gwaith cyd-greu gyda grwpiau cwsmeriaid a rhanddeiliaid allweddol i ddod o hyd i atebion effeithiol
- Cynrychioli’r gwasanaethau TG a’r Brifysgol mewn fforymau priodol (gan gynnwys fforymau mewnol, allanol, cenedlaethol a rhyngwladol) a dirprwyo ar ran uwch-gydweithwyr yn ôl yr angen; Cysylltu â chyrff proffesiynol a rheoleiddwyr priodol sy’n ymwneud â materion TG fel sy’n briodol
- Cydweithio â'r Prif Swyddog Gweithrediadau Digidol a Gwybodaeth a Chyfarwyddwyr eraill i ddatblygu a chynnal cysylltiadau â phartneriaid a chyflenwyr technoleg allweddol, gan gynnwys trafod telerau contractau mawr sy’n ymwneud â thechnoleg a/neu ddatrys anghydfodau
- Dirprwyo ar ran y Cyfarwyddwr TG a chyflawni dyletswyddau eraill o bryd i’w gilydd sy’n gyson â natur y swydd ar gais y Cyfarwyddwr TG neu’r Prif Swyddog Gweithrediadau Digidol a Gwybodaeth
Yn atebol am gyllideb staff flynyddol o tua £2.5 miliwn
Yn atebol ar y cyd â holl Gyfarwyddwyr TG y Brifysgol am gyllideb gyfalaf flynyddol o tua £2 miliwn, cyllideb gylchol o tua £7.5 miliwn a chyllideb y Brifysgol ar gyfer meddalwedd o £3.8 miliwn
Rheoli galw ac adnoddau; cynllunio ariannol; rheoli partneriaethau busnes; rheoli prosiectau TG ar gyfer gwasanaeth TG y Brifysgol gyfan sy’n sicrhau bod mwy na 300 o adeiladau’r Brifysgol yn gallu cysylltu â’r rhyngrwyd a gweld data; 125,000 o ddyfeisiau wedi’u cofrestru ar y rhwydwaith; tua 1,000 o weinyddion; capasiti storio ffeiliau o 200TB; 400+ o fannau addysgu; 1,000 o gyfrifiaduron bwrdd gwaith mynediad agored at ddefnydd y myfyrwyr; sylfaen cwsmeriaid mewnol o tua 35,000 o fyfyrwyr a 9,000 o staff
Y rhai sy’n adrodd yn uniongyrchol i ddeiliad y swydd:
Uwch-reolwr – Llywodraethu a Sicrwydd
Arweinydd Digidol
Arweinydd y Portffolio TG
Prif Bartner Busnes TG
Rheolwr Cyflenwyr
Llwybr Gyrfa
Manyleb Unigolyn
Manyleb yr Unigolyn
Gradd berthnasol neu gymhwyster proffesiynol, ynghyd â phrofiad priodol o weithio mewn swydd debyg a thystiolaeth o ddiweddaru sgiliau’n rheolaidd; Yn ddelfrydol, profiad o sicrhau newid drwy fethodoleg strwythuredig megis Prince, MSP neu fframweithiau tebyg
Y gallu i ddangos gwybodaeth eang am bob agwedd ar TG, gan gynnwys llywodraethu TG, cefnogi a datblygu technoleg a rheoli gwasanaethau (ITIL)
Profiad sylweddol o reoli TG ar lefel uwch, ynghyd â hanes o arloesi, cyflawni a llwyddo mewn sefydliad o faint a chymhlethdod tebyg; Yn ddelfrydol, profiad o weithio mewn sefydliad addysg uwch
Hanes profedig o ddatblygu a chyflawni strategaethau TG a chynlluniau gweithredu
Gwybodaeth broffesiynol uwch a chyfredol am reoli TG a phrofiad o greu diwylliant TG perfformiad uchel yn y sefydliad
Gweledigaeth a dealltwriaeth o'r ffactorau sy’n rheoli technoleg a fydd yn dylanwadu ar y gwaith o ddatblygu gwasanaethau TG yn y dyfodol a sut y gall hyn ychwanegu gwerth at anghenion ac arferion newidiol ymchwil, dysgu ac addysgu a gwasanaethau cymorth y Brifysgol
Tystiolaeth gref o'r gallu i reoli adnoddau (ariannol ac anariannol) yn effeithiol ac asesu a rheoli risgiau
Nodweddion Personol
Yn feddyliwr strategol ac yn arweinydd arloesol, a hefyd yn rheolwr gweithredol profiadol
Yn meddu ar sgiliau rhyngbersonol aeddfed ac yn gallu dangos y gallu i ymdrin â rhanddeiliaid yn effeithiol iawn, gan gydweithio ac ymgysylltu â chydweithwyr ar lefel uwch
Yn gyfforddus wrth ymdrin â’r rhanddeiliaid uchaf yn fewnol ac yn allanol mewn ffordd gyfartal
Yn fedrus wrth gyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig
Yn dangos gwrthrychedd a didueddrwydd; Yn fedrus wrth ddadansoddi a datrys problemau drwy feddwl yn glir, rhoi sylw i fanylion, arsylwi, gwrando a dyfalbarhau
Yn canolbwyntio ar faterion strategol allweddol; Yn defnyddio barn bragmatig wrth roi rheolau ar waith; Yn meddu ar wybodaeth eang am dechnegau ac arferion cyfredol sy'n gysylltiedig â swydd ar lefel Cyfarwyddwr TG
Yn deall y prif faterion sy'n wynebu TG a’r gwaith o reoli’r sefydliad mewn cyd-destun masnachol, yn enwedig ym maes strategaeth systemau a pholisïau; Yn gallu dylanwadu drwy fod yn argyhoeddiadol ar y lefel uchaf mewn cyfarfodydd ffurfiol ac anffurfiol fel ei gilydd
Yn hyrwyddo codau ymddygiad a moeseg proffesiynol
Yn fuddsoddwr naturiol mewn pobl a thimau sy’n gallu cymell ac ymestyn perfformiad; Yn dangos ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol parhaus
Yn gallu ysgogi a sicrhau newid
Yn wydn ac yn gallu blaenoriaethu a gweithio'n dda, gan gynnwys bod yn hyblyg o dan bwysau
Y gallu i sefydlu cysylltiadau gwerthfawr sy'n meithrin llwyddiant yn y sefydliad a'r tu allan iddo