Platzhalter Bild

Internal Applicants Only - Senior Technician (2 Posts) en Cardiff University

Cardiff University · Cardiff, Reino Unido · Onsite

28.031,00 GBP  -  31.236,00 GBP

Solicitar ahora

Hysbyseb

Mae'r swydd hon ar agor i weithwyr Prifysgol Caerdydd yn unig ar hyn o bryd.  Peidiwch ymgeisio os nad oes ganddoch gytundeb cyflogaeth ddilys gyda’r brifysgol.

Ymgeiswyr Mewnol yn Unig - Uwch-dechnegydd (2 Swyddi)
Yr Is-adran Meddygaeth Seicolegol a’r Niwrowyddorau Clinigol
Yr Ysgol Meddygaeth
Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd


Mae hwn yn gyfle cyffrous i Uwch Dechnegydd ymuno â'r tîm i gefnogi ymchwil mewn anhwylderau iechyd meddwl. Bydd y swydd wedi'i lleoli ym Mhrifysgol Caerdydd yn Adran Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol (DPMCN), a gafodd y safle cyntaf yn y DU am amgylchedd ymchwil yn asesiad Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021 ar gyfer Seicoleg, Seiciatreg a Niwrowyddoniaeth. Bydd deiliad y rôl wedi'i leoli yn nhîm labordy craidd y Ganolfan Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig (CNGG), y mae ei ddiben yn cefnogi a hwyluso ymchwil ledled yr Adran. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn darparu darpariaeth gynhwysfawr o gefnogaeth dechnegol i'r Gyfarwyddiaeth/Ysgol mewn swyddogaeth oruchwylio/arbenigol.

Mae'r swydd hon wedi'i hariannu gan y Sefydliad Iechyd Cenedlaethol yn yr Unol Daleithiau ac mae'n gydweithrediad rhwng Prifysgol Gogledd Carolina (UNC), Ysgol Feddygaeth Icahn ym Mynydd Sinai (ISMMS), Prifysgol Caerdydd, a Regeneron Pharmaceuticals. Y nod yw casglu ac echdynnu dilyniant DNA gan gyfranogwyr o dras amrywiol sydd â diagnosis o anhwylder seiciatrig difrifol. Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus echdynnu DNA, QC a pharatoi llwythi i'n cydweithwyr ar gyfer dadansoddiadau genomig o dan ganllawiau.

Os oes gennych chi ymholiadau anffurfiol, cysylltwch ag Sara Davies, Arbenigwr Technegol, drwy e-bostio [email protected]

Mae'r swydd yn llawn amser (35 awr yr wythnos), ar gael o 1 Hydref 2025 ac am gyfnod penodol tan 30 Mehefin 2026, wedi'i lleoli yn Adeilad Hadyn Ellis, campws Cathays

Cyflog: £28,031 - £31,236 y flwyddyn (Gradd 4).  Ym Mhrifysgol Caerdydd, mae unigolion fel arfer yn dechrau ar waelod y raddfa gyflog ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol.

Mae'r rhan fwyaf o swyddi ym Mhrifysgol Caerdydd yn gweithredu o dan drefniadau "gweithio cyfunol" ar hyn o bryd, gan roi hyblygrwydd i staff weithio yn rhannol o gartref ac yn rhannol ar gampws y Brifysgol gan ddibynnu ar ofynion busnes penodol. Gall trafodaethau ynghylch y trefniadau hyn gael eu cynnal ar ôl penodi'r ymgeisydd llwyddiannus.

Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig llawer o fuddion rhagorol, gan gynnwys 40 diwrnod o wyliau blynyddol (gan gynnwys gwyliau banc), cynllun pensiwn lleol, cynllun beicio i'r gwaith a mentrau teithio eraill, cynyddrannau blynyddol o fewn y raddfa gyflog, a mwy. Dyma le cyffrous a bywiog i weithio, lle byddwch yn wynebu llawer o heriau gwahanol. Mae’r Brifysgol hefyd yn falch o gefnogi’r Cyflog Byw.

Sut y byddwn yn eich helpu i gyflawni’r swyddi hyn – 

Mae rhai pethau y mae’n rhaid ichi feddu arnynt cyn y gallwch ddechrau’r swydd hon (gweler y ‘Meini Prawf Hanfodol’), ond gellir datblygu pethau eraill naill ai yn sgil hyfforddiant neu drwy brofiad cyffredinol yn y swydd.  Rydym eisiau eich cefnogi a’ch datblygu unwaith y byddwch wedi dechrau yn y swydd, gan ddefnyddio cyfuniad o’r canlynol i sicrhau eich bod yn gallu rhoi o’ch gorau:

1.    Cyfarfodydd un-i-un rheolaidd â'ch rheolwr
2.    Tîm profiadol a chefnogol o'ch cwmpas
3.    Eich cefnogi drwy hyfforddiant a datblygiad yn ôl yr angen mewn ffyrdd sy’n berthnasol i’r swydd
4.    Cynllun mentora

Dyddiad cau: Dydd Gwener, 10 Hydref 2025

Nid yw ceisiadau allanol yn cael eu hystyried ar gyfer y swydd hon ar hyn o bryd.  Os penderfynir agor y swydd i ymgeiswyr allanol, bydd yr isbennawd ar y brig yn cael ei thynnu a rhoddir digon o amser i chi wneud cais - cadwch olwg ar y dudalen am fanylion.


Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir gwneud hynny drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o wahanol gefndiroedd.  Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned beth bynnag fo’u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oed.  Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Disgrifiad Swydd

Diben y Swydd
Rhoi cymorth technegol cynhwysfawr i'r Gyfarwyddiaeth/Ysgol mewn swyddogaeth oruchwylio/arbenigol

Dyletswyddau a Chyfrifoldebau

Prif Ddyletswyddau

•    Rhoi cymorth technegol i staff a myfyrwyr sy'n gweithio ar brosiectau sy'n ymwneud â rheoli cronfeydd data, curadu samplau a’u prosesu er mwyn eu dadansoddi oddi mewn i’r prosiect hwn, yn ogystal â phrosiectau eraill sy'n ymwneud â DPMCN. Gwneir hyn oll gan ddefnyddio canllawiau sefydledig yn unol â'r Ddeddf Meinweoedd Dynol (HTA) a’r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOPs).  
•    Sefydlu systemau arbrofol a chyfarpar ymchwil, gan gynorthwyo myfyrwyr a staff wrth ddefnyddio a gosod offer a chyfarpar, a'u helpu gyda phrofion ac arbrofion.
•    Gweithredu, cynnal a chadw, gwasanaethu, addasu, profi a thrwsio offer a chyfarpar cymhleth.
•    Cymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu, addasu a gosod offer a chyfarpar arbenigol.
•    Bod yn gyfrifol am lefelau stoc, diogelwch, cynnal a chadw, a glanhau deunyddiau, offer a chyfarpar yn yr ardal waith.
•    Cofnodi a chynnal dadansoddiad manwl ar ddata, gan gynnwys bod yn gyfrifol am gynnal a chadw cronfeydd data, a hynny’n unol â rheoliadau Asesu Technoleg Iechyd (HTA).
•    Cynnal adolygiadau o brosesau a gweithdrefnau technegol, mewn cydweithrediad â rheolwyr llinell, a chynghori ar y dewisiadau er mwyn gwella.
•    Cynorthwyo’r adran â rhoi gweithdrefnau a systemau newydd ar waith. 

Dyletswyddau Cyffredinol
•    Gofalu eich bod yn deall pwysigrwydd cyfrinachedd wrth gyflawni pob un o’ch dyletswyddau.
•    Glynu wrth bolisïau’r Brifysgol ynghylch Iechyd a Diogelwch a Chydraddoldeb ac Amrywiaeth
Cyflawni dyletswyddau eraill o bryd i'w gilydd nad ydynt wedi’u nodi uchod ond sy’n cyd-fynd â gofynion y swydd

Uchafswm y Cyflog

31,236

Gradd

Gradd 4

Isafswm y Cyflog

28,031

Categori Swyddi

Iechyd, Meddygol & Deintyddol, Technegol

Gwybodaeth Ychwanegol

PWYSIG: Tystiolaeth o'r Meini Prawf
Dylai ymgeiswyr ddangos eu bod yn bodloni'r HOLL feini prawf hanfodol, yn ogystal â'r meini prawf dymunol lle y bo’n berthnasol.

Yn rhan o’r broses ymgeisio, gofynnir i chi roi'r dystiolaeth hon mewn datganiad ategol. Wrth gyflwyno'r ddogfen hon / ei hychwanegu at broffil eich cais, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi cyfeirnod y swydd wag yn nheitl y ddogfen. Yn achos y swydd hon, y cyfeirnod yw 20335BR.

Llwybr Gyrfa

Technegol

Manyleb Unigolyn

Meini Prawf Hanfodol 

Cymwysterau ac Addysg
1.    NVQ 3/Safonau Uwch neu gymhwyster/profiad cyfatebol sy'n gysylltiedig â'r gwaith

Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad
2.    Profiad helaeth o fod yn dechnegydd labordy, gan feddu ar dystiolaeth o gynnal gwaith ynysu asid niwclei, meintioli, curadu samplau, a chynnal cronfeydd data.
3.    Gwybodaeth arbenigol a phrofiad o gynnal a chadw, gwasanaethu a defnyddio offer a chyfarpar priodol, megis roboteg. 
4.    Y gallu i sefydlu ac adolygu prosesau a gweithdrefnau technegol safonol ac argymell gwelliannau i'r gwasanaeth pan fo’n briodol.

Gwasanaethu Cwsmeriaid, Cyfathrebu a Gweithio’n Rhan o Dîm
5.    Y gallu i gyfleu gwybodaeth arbenigol a chymhleth yn effeithiol ac yn broffesiynol i ystod o gwsmeriaid sydd â lefelau amrywiol o ddealltwriaeth.
6.    Profiad o oruchwylio gwaith pobl eraill fel bod gwaith y tîm yn anelu at un nod ac yn ysgogi unigolion 
7.    Y gallu i hyfforddi staff technegol mewn gweithdrefnau labordy a sut i ddefnyddio offer a chyfarpar.
8.    Tystiolaeth o’r gallu ymchwilio i anghenion cwsmeriaid ac addasu'r gwasanaeth yn briodol i sicrhau bod gwasanaeth o safon ar gael.

Cynllunio, Dadansoddi a Datrys Problemau
9.    Tystiolaeth o’r gallu i ddatrys problemau drwy gymryd y cam cyntaf a bod yn greadigol, nodi a chynnig atebion ymarferol a datrys problemau pan fydd ystod o opsiynau posibl ar gael.
10.    Y gallu diamheuol i weithio o'ch pen a'ch pastwn eich hun, gan gynllunio, trefnu a phennu blaenoriaethau ar gyfer eich gwaith eich hun yn briodol, yn ogystal â chynllunio a rheoli prosiectau bach.

Meini Prawf Dymunol 

1.    Gradd neu gymhwyster cyfatebol neu brofiad cyfatebol cysylltiedig â gwaith
2.    Profiad o weithio ym myd Addysg Uwch
3.    Rhugl yn y Gymraeg, yn ysgrifenedig ac ar lafar
Solicitar ahora

Otros empleos