Mae'r swydd hon ar agor i weithwyr Prifysgol Caerdydd yn unig ar hyn o bryd. Peidiwch ymgeisio os nad oes ganddoch gytundeb cyflogaeth ddilys gyda’r brifysgol.
Ymgeiswyr Mewnol yn Unig - Gweinyddwr Ehangu CyfranogiadMae'r tîm Ehangu Cyfranogiad, sy'n rhan o dîm Recriwtio Myfyrwyr ac Allgymorth y DU y Brifysgol, am benodi Gweinyddwr Ehangu Cyfranogiad. Bydd deiliad y swydd yn cynnig cefnogaeth weinyddol effeithiol ac effeithlon ac yn cyfrannu at lwyddiant y tîm a'i brosiectau cysylltiedig.
Mae'r tîm Ehangu Cyfranogiad yn gweithio'n bennaf gyda grwpiau neu fyfyrwyr sy'n wynebu rhwystrau penodol i addysg uwch, ac sydd wedi'u tangynrychioli o fewn prifysgolion. Mae'n dîm deinamig a bydd cyfle i ddeiliad y swydd gefnogi ystod eang o ddigwyddiadau a rhaglenni i bobl ifanc ac oedolion sy'n byw mewn ardaloedd o amddifadedd uchel neu sy'n perthyn i grwpiau bregus neu sydd wedi'u tangynrychioli.
Bydd deiliad y swydd yn cynnig cefnogaeth weinyddol gyffredinol i'r tîm gan gynnwys amserlennu ystafelloedd, rheoli adnoddau digwyddiadau a rhoi cefnogaeth weinyddol ar gyfer digwyddiadau. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymdrin ag ystod eang o ymholiadau gan grwpiau ehangu cyfranogiad allweddol, ac felly fe fydd angen iddo feddu ar sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol.
Swydd amser llawn a phenagored (35 awr yr wythnos) yw hon ac mae modd dechrau ar unwaith.
Cyflog: £24,900 - £25,733 y flwyddyn (Gradd 3)
Yn unol â'n hymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant byddwn yn ystyried ceisiadau am rannu swyddi/llai o oriau. Nodwch hyn yn eich cais.
Os hoffech wybod rhagor am y swydd, cysylltwch â Eleanor Owen, Rheolwr Ehangu Cyfranogiad, drwy e-bostio:
[email protected].
Dyddiad cau: Dydd Mawrth, 9 Medi 2025
Nid yw ceisiadau allanol yn cael eu hystyried ar gyfer y swydd hon ar hyn o bryd. Os penderfynir agor y swydd i ymgeiswyr allanol, bydd yr isbennawd ar y brig yn cael ei thynnu a rhoddir digon o amser i chi wneud cais - cadwch olwg ar y dudalen am fanylion.Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir gwneud hynny drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o wahanol gefndiroedd. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned beth bynnag fo’u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oed. Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae ehangu cyfranogiad yn ymwneud â helpu’r unigolion hynny sy’n perthyn i grwpiau nad ydynt fel arfer yn cael eu cynrychioli'n ddigonol ym maes addysg uwch i fynd i’r brifysgol, dod yn eu blaen a llwyddo, gan gynnwys eu cefnogi tra byddant yn fyfyrwyr yn y brifysgol.
Drwy gynnal ystod o weithgareddau, mae'r Tîm Ehangu Cyfranogiad a chydweithwyr o bob rhan o’r Brifysgol yn helpu dros 30,000 o ddysgwyr ledled y DU i chwalu’r rhwystrau i addysg uwch, yn ogystal â’u helpu i wireddu eu potensial.
Ewch i'n
gwefan i gael rhagor o wybodaeth.
Bydd y penodiad yn amodol ar wiriad DBS boddhaol.
Mae'r rôl hon yn gymwys i gael ei gynnig ar sail gweithio cyfunol, sy'n golygu, yn ogystal â threulio amser yn gweithio ar y campws, y gallwch hefyd ddewis treulio peth amser yn gweithio o leoliad arall, e.e. eich cartref. Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i gynnig yr hyblygrwydd hwn, ble bynnag y mae'r rôl a'r angen busnes yn caniatáu, gan gefnogi cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.
Mae yna achlysuron rheolaidd pan mae'n ofynnol i'r tîm fod ar y campws (e.e. i helpu i gynnal digwyddiadau neu i fynd i gyfarfodydd neu hyfforddiant) felly mae angen i’r deiliad swydd fod yn hyblyg.
Bydd y rôl yn cynnwys rhywfaint o weithio gyda'r nos, ar benwythnosau a thros nos (ar gyfer Ysgolion Haf preswyl). Sylwer hefyd na fydd modd cymryd gwyliau blynyddol fel arfer yn ystod cyfnod yr Ysgolion Haf (mis Gorffennaf), ar Ddiwrnodau Agored i israddedigion ac ôl-raddedigion, ac yn ystod wythnos y Canlyniadau Safon Uwch ym mis Awst.
Gwybodaeth am yr AdranMae’r Adran Cyfathrebu a Marchnata’n gyfrifol am enw da a brandio’r Brifysgol yn ogystal â gweithgareddau recriwtio myfyrwyr yn y DU ac yn rhyngwladol. Mae’n cwmpasu chwe maes: cyfathrebu a materion cyhoeddus, marchnata, recriwtio myfyrwyr ac allgymorth yn y DU, cyfathrebu digidol, myfyrwyr rhyngwladol a derbyn myfyrwyr.
Mae’r Tîm Cyfathrebu’n chwarae rhan bwysig yn y gwaith o ddatblygu a chynnal enw da’r Brifysgol drwy gyfathrebu’n effeithiol â’r cyhoedd a’r rhanddeiliaid allanol a mewnol. Mae’n rhoi gwybodaeth am lwyddiannau ac uchelgais y Brifysgol gan ddefnyddio ystod o gyfryngau, ac yn yr adran mae uned ffilmio. Mae’n cynrychioli’r Brifysgol ar lefel gorfforaethol. Mae'r Tîm Materion Cyhoeddus yn arwain ar y cysylltiadau â rhanddeiliaid yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Cyfathrebu Digidol sy'n gyfrifol am lunio, datblygu a chynnwys y wefan allanol a’r fewnrwyd.
Y Tîm Marchnata sy’n gyfrifol am ddatblygu hunaniaeth brand gref y Brifysgol ar y lefel gorfforaethol, gan bwysleisio gwell brandio gweledol ac ymchwil i’r farchnad.
Mae recriwtio ac allgymorth myfyrwyr y DU yn chwarae rhan bwysig wrth ddenu myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig y Brifysgol o bob cwr o'r DU yn ogystal â rheoli gweithgareddau ehangu cyfranogiad y Brifysgol.
Y Swyddfa Ryngwladol sy’n gyfrifol am strategaeth recriwtio rhyngwladol y Brifysgol, gan gynghori ar bob maes sy'n ymwneud â recriwtio a datblygu rhyngwladol.
Mae’r Tîm Derbyn yn gyfrifol am reoli miloedd o geisiadau bob blwyddyn gan fyfyrwyr y DU a myfyrwyr rhyngwladol, yn ogystal ag arwain ar ddatblygu a rhoi ein polisïau derbyn ar waith.