C++ Careers in cardiff ∙ Page 1

45 Remote & work from home jobs online

Internal Applicants Only - Executive Assistant

Cardiff University · Cardiff, United Kingdom · Hybrid

£25,249.00  -  £26,093.00

  • Junior
  • Office in Cardiff
Apply Now

Hysbyseb

Mae'r swydd hon ar agor i weithwyr Prifysgol Caerdydd yn unig ar hyn o bryd.  Peidiwch ymgeisio os nad oes ganddoch gytundeb cyflogaeth ddilys gyda’r brifysgol.

Ymgeiswyr Mewnol yn Unig - Cynorthwyydd Gweithredol


Mae Swyddfa Ryngwladol Prifysgol Caerdydd yn recriwtio! A fyddech yn mwynhau cefnogi myfyrwyr o bob cwr o'r byd, gan rannu gwybodaeth am astudio ym Mhrifysgol Caerdydd a'u helpu i wneud cais? A ydych wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth gwych ar gyfer cwsmeriaid? Os felly, efallai mai dyma'r swydd i chi.   

Dyma gyfle cyffrous i weithio’n rhan o dîm dynamig sy’n llawn cymhelliant ac yn canolbwyntio ar y cwsmer. Byddwch yn siarad ag ymholwyr o bob cwr o’r byd ac yn cynnig cymorth iddynt. Rydym yn chwilio am Gynorthwyydd Gweithredol i gefnogi gwaith recriwtio rhyngwladol, a hynny drwy roi cymorth ac arweiniad proffesiynol i randdeiliaid allweddol yn tîm prysur.

Mae’r Swyddfa Ryngwladol yn gweithio mewn ffordd gyfunol – ar hyn o bryd, rydym yn gweithio ar y campws bob dydd Mercher a dydd Iau, ac rydym yn gweithio o bell (o gartref) weddill yr wythnos. Cewch weithio ar y campws yn llawn amser, os hoffech wneud hyn.

Yn Gynorthwyydd Gweithredol, byddwch yn darparu gwasanaeth gweinyddol ar gyfer y Swyddfa Ryngwladol ac yn cyflawni amrywiaeth o dasgau i fodloni gofynion gweithredol a gofynion gwasanaethu cwsmeriaid. Byddwch yn rhoi cymorth ac arweiniad manwl a phroffesiynol i randdeiliaid allweddol er mwyn helpu i recriwtio myfyrwyr rhyngwladol.

Swydd amser llawn yw hon am gyfnod penodol o ddwy flynedd.

Cyflog: £25,249 - £26,093 y flwyddyn (Gradd 3)

Dyddiad cau: 15 Medi 2025

Nid yw ceisiadau allanol yn cael eu hystyried ar gyfer y swydd hon ar hyn o bryd.  Os penderfynir agor y swydd i ymgeiswyr allanol, bydd yr isbennawd ar y brig yn cael ei thynnu a rhoddir digon o amser i chi wneud cais - cadwch olwg ar y dudalen am fanylion.


Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Rydym o’r farn y gellir gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol sydd â’r uchelgais i greu prifysgol sy’n ceisio cyflawni ei rhwymedigaethau cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd i Gaerdydd, Cymru a’r byd.  Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu’r swydd.

Disgrifiad Swydd

Prif Ddyletswyddau
  • Ymdrin ag amrywiaeth o ymholiadau gan gwsmeriaid mewnol ac allanol mewn modd proffesiynol, gan ddeall eu gofynion, personoli ymatebion ac addasu'r ymatebion safonol yn ôl yr angen, gan gynnwys defnyddio a chyfrannu at y sylfaen wybodaeth sy'n esblygu er mwyn darparu gwasanaeth gwell ar gyfer cwsmeriaid
  • Cydweithio ag eraill i argymell ffyrdd o ddatblygu prosesau a gweithdrefnau sefydledig
  • Meithrin a chynnal perthynas waith rhagorol â phwyntiau cyswllt mewnol ac allanol pwysig er mwyn helpu i wella’r gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu
  • Helpu i drefnu a chynnal ymweliadau â’r campws ar ran y Brifysgol
  • Cyfrannu at lwyddiant y tîm, gan fod yn esiampl i eraill a chefnogi’r gwaith o oruchwylio a rheoli’r tîm
  • Cyflawni amrywiaeth o ddyletswyddau gweinyddol i gefnogi'r tîm a'r adran
Dyletswyddau Penodol
  • Helpu i brosesu ceisiadau sy’n dod i law’r Swyddfa Ryngwladol yn unol â gweithdrefnau’r Swyddfa Ryngwladol a’r Brifysgol, gan gynnwys ceisiadau sy’n cael eu cyflwyno mewn pryd ac yn hwyr
  • Helpu i drefnu cludo llwythi i’r DU a thramor
  • Cyfrannu at y gwaith o weithredu a defnyddio system Rheoli’r Berthynas â Chwsmeriaid newydd yn llwyddiannus drwy ateb ymholiadau, darparu gwasanaeth o safon ar gyfer cwsmeriaid a rhoi adborth ar y system yn ôl yr angen
  • Rhoi cymorth prosesu ariannol i dîm y Swyddfa Ryngwladol, yn unol â phrosesau a gweithdrefnau’r Brifysgol
  • Rhoi cymorth i randdeiliaid allanol allweddol drwy drosglwyddo gwybodaeth o'r system cofnodion myfyrwyr, y wefan a matricsau gofynion mynediad, gan greu a diweddaru llawlyfrau gweithdrefnol pan fo angen
  • Ysgwyddo cyfrifoldebau aelodau eraill o’r tîm yn y Swyddfa Ryngwladol pan fyddant yn absennol.
Dyletswyddau Cyffredinol
  • Sicrhau eich bod yn defnyddio eich dealltwriaeth o bwysigrwydd cyfrinachedd wrth gyflawni eich holl ddyletswyddau
  • Dilyn polisïau’r Brifysgol ar Iechyd a Diogelwch a Chydraddoldeb ac Amrywiaeth
  • Cynnal sylfaen wybodaeth dda a chyfredol am gynlluniau gradd, cyfleusterau a nodweddion arbennig y Brifysgol, gan gynnwys ymwybyddiaeth o bwy yw uwch-aelodau o’r staff a Phenaethiaid yr Ysgolion yn y Brifysgol; gweithdrefnau recriwtio myfyrwyr rhyngwladol y Brifysgol; cenhadaeth, nodau ac amcanion adrannau a’r Brifysgol
  • Cymryd cyfrifoldeb personol, arfer barn a chymryd y cam cyntaf wrth gefnogi nodau strategol yr adran, a hynny o fewn terfynau diffiniedig ac i’r graddau sy’n adlewyrchu gradd y swydd
  • Cyflawni dyletswyddau eraill o bryd i’w gilydd nad ydynt wedi'u nodi uchod ond sy'n cyd-fynd â gofynion y swydd

Uchafswm y Cyflog

26,093

Gradd

Gradd 3

Isafswm y Cyflog

25,249

Categori Swyddi

Gweinyddol / Clerigol

Gwybodaeth Ychwanegol

Yr Adran Cyfathrebu a Marchnata sy’n gyfrifol am gynnal enw da a brand y Brifysgol. Mae’r adran wedi’i rhannu’n chwe thîm: Cyfathrebu Digidol; Cyfathrebu; Marchnata; Recriwtio Myfyrwyr; y Swyddfa Ryngwladol; a Materion Cyhoeddus.
 
Y Tîm Cyfathrebu Digidol sy’n gyfrifol am lunio, datblygu a pharatoi cynnwys y wefan allanol a’r fewnrwyd. Mae’n cynnig offer, arweiniad, hyfforddiant a chymorth i alluogi’r Brifysgol i gyfathrebu’n effeithiol ar bob sianel ddigidol. Mae'n gweithio'n agos gyda chydweithwyr ym mhob un o'r tri Choleg a'r Ysgolion sy'n rhan ohonynt.
 
Mae’r Tîm Cyfathrebu’n chwarae rhan bwysig yn y gwaith o ddatblygu a chynnal enw da’r Brifysgol drwy gyfathrebu’n effeithiol â’r cyhoedd a rhanddeiliaid allanol a mewnol. Mae’n rhoi gwybodaeth am lwyddiannau ac uchelgais y Brifysgol gan ddefnyddio ystod o gyfryngau, ac yn yr adran mae uned ffilmio. Mae’n cynrychioli’r Brifysgol ar lefel gorfforaethol.
 
Y Tîm Marchnata sy’n gyfrifol am ddatblygu hunaniaeth brand gref y Brifysgol ar lefel gorfforaethol, gan roi pwyslais ar well brandio gweledol ac ymchwil i’r farchnad.
 
Mae’r Tîm Recriwtio Myfyrwyr yn gyfrifol am recriwtio myfyrwyr yn y DU, yr UE ac yn rhyngwladol. Mae’n gweithio mewn partneriaeth â Cholegau ac Ysgolion y Brifysgol i recriwtio myfyrwyr o safon. Mae hefyd yn rheoli rhaglenni ehangu cyfranogiad o bwys y Brifysgol a’r Prosiect Partneriaeth ag Ysgolion.
 
Mae'r Swyddfa Ryngwladol yn llywio strategaeth recriwtio rhyngwladol y Brifysgol ac yn cynghori ar bob maes sy'n ymwneud â recriwtio a datblygu rhyngwladol.
 
Mae'r Tîm Materion Cyhoeddus yn arwain y gwaith o reoli cysylltiadau â rhanddeiliaid yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Llwybr Gyrfa

Cymorth Gweinyddol

Manyleb Unigolyn

Meini Prawf Hanfodol

Cymwysterau ac Addysg
  1. NVQ Lefel 2/cymwysterau TGAU (graddau A-C) neu gymwysterau cyfatebol
Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad
  1. Profiad sylweddol o weithio mewn amgylchedd gweinyddol neu swyddfa
  2. Y gallu i ddefnyddio pecynnau TG cyffredin (e.e. Microsoft Office)
  3. Y gallu i greu systemau a gweithdrefnau gweinyddol safonol
  4. Y gallu i ddangos cyfrifoldeb personol, cywirdeb a sylw i fanylion bob amser
Gwasanaethu Cwsmeriaid, Cyfathrebu a Gweithio mewn Tîm
  1. Y gallu i gyfathrebu mewn ffordd gwrtais, effeithiol a phroffesiynol ag amrywiaeth eang o bobl, gan gynnwys bod yn ddiwylliannol ymwybodol wrth sicrhau bod gwasanaeth rhagorol yn cael ei ddarparu ar gyfer cwsmeriaid bob amser
  2. Y gallu i weithio'n effeithiol mewn tîm, gan gynnwys rhoi cyngor ac arweiniad i aelodau eraill y tîm yn ôl yr angen
  3. Gallu diamheuol i ymdrin â cheisiadau a uwchgyfeiriwyd am wybodaeth neu wasanaeth, gan ddatrys problemau cwsmeriaid lle bo'n briodol
Cynllunio, Dadansoddi a Datrys Problemau
  1. Y gallu i gynllunio, blaenoriaethu a threfnu eich llwyth gwaith eich hun yn unol ag amserlenni y cytunwyd arnynt
  2. Y gallu i gymryd y cam cyntaf i ddatrys problemau ac ymateb i ymholiadau, gan gynnwys sicrhau cydymffurfiaeth â gweithdrefnau ac arferion safonol.

Meini Prawf Dymunol (os yn briodol)
  1. Profiad o weithio ym myd addysg uwch
  2. Profiad o ddelio â sefydliadau rhyngwladol ac unigolion y tu allan i'r UE
  3. Rhuglder yn y Gymraeg, yn ysgrifenedig ac ar lafar.