Platzhalter Bild

Internal Applicants Only - Human Resources Administrator na Cardiff University

Cardiff University · Cardiff, Reino Unido · Hybrid

£ 28.031,00  -  £ 31.236,00

Candidatar-se agora

Hysbyseb

Mae'r swydd hon ar agor i weithwyr Prifysgol Caerdydd yn unig ar hyn o bryd.  Peidiwch ymgeisio os nad oes ganddoch gytundeb cyflogaeth ddilys gyda’r brifysgol.

Ymgeiswyr Mewnol yn Unig - Gweinyddwr Adnoddau Dynol


Ymunwch â'n tîm Canolfan Gwasanaeth Adnoddau Dynol am y cyfle i wneud cyfraniad cadarnhaol at uchelgais Prifysgol Caerdydd i greu byd gwell ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol!

Y Ganolfan Gwasanaeth Adnoddau Dynol yw canolbwynt gweithrediadol y Brifysgol sy'n sicrhau yr ymgymerir â’r holl brosesau cytundebol a chyflogres i'n cefnogi i gyflwyno addysgu ac ymchwil o'r radd flaenaf.

Byddwch yn hen law ar weithio gyda phrosesau a systemau gweinyddol Adnoddau Dynol a'u cysylltu â'r gyflogres, ac felly bydd gennych rôl ragweithiol wrth gyflwyno ein gwasanaeth hynod brysur. Byddwch yn cymryd y cam cyntaf er mwyn gwneud penderfyniadau a sicrhau bod terfynau amser rheolaidd ac ad hoc yn cael eu bodloni. Drwy fynd ati i gefnogi'r Ganolfan i wella'n barhaus, byddwch yn ein helpu i gyflwyno gwasanaeth o'r radd flaenaf a werthfawrogir gan ein cwsmeriaid.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n rhugl yn y Gymraeg, ar lafar ac yn ysgrifenedig.

Swydd rhan amser (21 awr yr wythnos) yw hon ac am gyfnod penodol tan 17 Awst 2026.

Cyflog: £28,031 - £31,236 y flwyddyn, pro-rata (Gradd 4)

Mae gweithio cyfunol yn bosibl wrth wneud y swydd hon. Mae hynny’n golygu, yn ogystal â threulio amser yn gweithio ar y campws, y gallwch ddewis treulio rhywfaint o amser yn gweithio o leoliad arall, e.e. eich cartref. Mae’r Brifysgol yn ymrwymedig i gynnig y fath hyblygrwydd, pan fydd anghenion y swydd a’r busnes yn caniatáu hynny, er mwyn i chi sicrhau cydbwysedd bywyd-gwaith.

Dyddiad cau: Dydd Llun, 24 Tachwedd 2025

Nid yw ceisiadau allanol yn cael eu hystyried ar gyfer y swydd hon ar hyn o bryd.  Os penderfynir agor y swydd i ymgeiswyr allanol, bydd yr isbennawd ar y brig yn cael ei thynnu a rhoddir digon o amser i chi wneud cais - cadwch olwg ar y dudalen am fanylion.


Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a sicrhau amgylchedd gwaith cynhwysol. Rydym o’r farn y gellir gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod o staff o lawer o gefndiroedd gwahanol.  Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned beth bynnag fo’u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth drawsryweddol, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oed.  Wrth helpu ein gweithwyr i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywyd personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu’r swydd neu weithio’n hyblyg.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Disgrifiad Swydd

  • Rhoi cyngor ac arweiniad manwl ynghylch prosesau a gweithdrefnau gweinyddol Adnoddau Dynol i gwsmeriaid mewnol ac allanol, gan ddefnyddio synnwyr cyffredin a bod yn greadigol wrth awgrymu'r camau gweithredu gorau lle bo'n briodol
  • Ymgymryd ag amrywiaeth o ddyletswyddau gweinyddol Adnoddau Dynol er mwyn cefnogi'r tîm a'r adran, yn enwedig mewn cysylltiad â phrosesau recriwtio, cytundebol a chyflogres, a gwneud yn siŵr bod systemau perthnasol yn cael eu cynnal

  • Meithrin perthynas waith gyda chysylltiadau pwysig i helpu i wella'r gwasanaeth, gan ddatblygu cysylltiadau cyfathrebu addas gydag Ysgolion/Cyfarwyddiaethau'r Brifysgol a chyrff allanol lle bo angen

  • Cefnogi’r adran i ddarparu gwasanaeth effeithlon a phroffesiynol er mwyn ceisio gwneud y penderfyniad cywir tro cyntaf wrth ryngweithio â phob cwsmer

  • Cydweithio â phobl eraill er mwyn gwneud argymhellion i ddatblygu'r prosesau a'r gweithdrefnau sydd eisoes ar waith

  • Cyfrannu'n gadarnhaol at berfformiad y tîm cyffredinol, wrth weithio hyd at safonau a gweithdrefnau y cytunwyd arnynt, a chefnogi gwelliant parhaus

  • Casglu a dadansoddi data i lywio penderfyniadau, gan adnabod tueddiadau a phatrymau sylfaenol yn y data a chreu adroddiadau fel y bo'n briodol

  • Cyfarwyddo ac arwain gweithwyr eraill ar draws y Brifysgol ynghylch gweithdrefnau gweinyddol Adnoddau Dynol a pholisïau cysylltiedig

  • Gwneud yn siŵr eich bod yn deall pwysigrwydd cyfrinachedd wrth ymgymryd â'r holl ddyletswyddau

  • Cadw at bolisïau’r Brifysgol o ran Iechyd a Diogelwch a Chydraddoldeb ac Amrywiaeth.

  • Cyflawni dyletswyddau eraill o bryd i'w gilydd nad ydynt wedi'u cynnwys uchod, ond a fydd yn cyd-fynd â'r rôl

Uchafswm y Cyflog

31,236

Gradd

Gradd 4

Isafswm y Cyflog

28,031

Categori Swyddi

Adnoddau Dynol, Gweinyddol / Clerigol

Gwybodaeth Ychwanegol


Llwybr Gyrfa

Cymorth Gweinyddol

Manyleb Unigolyn

Meini Prawf Hanfodol
  1. Profiad sylweddol o weithio mewn rôl weinyddol brysur, gyda phwyslais ar fanylion a chywirdeb yn y gwaith a gynhyrchir
  2. Gwybodaeth arbenigol am brosesau gweinyddol a gofynion cyfreithiol Adnoddau Dynol, yn enwedig o ran recriwtio a materion cytundebol
  3. Gallu sefydlu systemau a gweithdrefnau swyddfa safonol a gwneud gwelliannau fel y bo'n briodol
  4. Sgiliau TG cryf, yn enwedig gyda Word, Excel ac ebost, a phrofiad o ddefnyddio systemau adnoddau dynol/cyflogres
  5. Gallu i gyfleu gwybodaeth arbenigol a chymhleth yn effeithiol ac yn broffesiynol i ystod o gwsmeriaid â lefelau dealltwriaeth amrywiol.
  6. Tystiolaeth o’r gallu i archwilio anghenion cwsmeriaid ac addasu'r gwasanaeth yn unol â hynny er mwyn sicrhau eich bod yn rhoi gwasanaeth o safon
  7. Tystiolaeth o allu datrys problemau drwy gymryd y cam cyntaf a bod yn greadigol; adnabod a chynnig atebion ymarferol a datrys problemau lle mae ystod o ddewisiadau posibl ar gael
  8. Tystiolaeth o allu i ddadansoddi prosesau a gweithdrefnau, a chynghori ar welliannau
  9. Tystiolaeth o’r gallu i weithio heb oruchwyliaeth, gan gadw at derfynau amser, cynllunio a phennu blaenoriaethau ar gyfer eich gwaith eich hun
  10. NVQ 3 / Safon Uwch neu gymwysterau cyfatebol.
Meini Prawf Dymunol
  1. Rhuglder yn y Gymraeg, yn ysgrifenedig ac ar lafar
  2. Gradd neu gymhwyster cyfatebol neu brofiad cyfatebol sy'n gysylltiedig â'r gwaith
  3. Aelod o CIPD, neu'n gweithio tuag at fod yn aelod
  4. Profiad o weithio ym maes Addysg Uwch
  5. Gwybodaeth a/neu brofiad o ymgymryd â phrosesau cyflogres
  6. Profiad o e-recriwtio / systemau rheoli galwadau
  7. Gwybodaeth/dealltwriaeth o ofynion y Ddeddf Diogelu Data
Candidatar-se agora

Outros empregos