Internal Applicants Only - Taught Programme Administrative Assistant na Cardiff University
Cardiff University · Cardiff, Reino Unido · Onsite
- Escritório em Cardiff
Hysbyseb
Ymgeiswyr Mewnol yn Unig - Rhaglen Addysgedig Cynorthwyydd Gweinyddol Addysgedig
Mae'r Ysgol Fferylliaeth a’r Gwyddorau Fferyllol yn chwilio am Gynorthwyydd Gweinyddol Rhaglen a Addysgir i gefnogi ein rhaglen Hyfforddiant Sylfaen Ôl-gofrestru. Nod y cynllun ôl-raddedig hwn yw hyfforddi fferyllwyr sydd newydd gymhwyso i ddod yn ymarferwyr clinigol hyderus.
Rydym am benodi rhywun sydd â sgiliau trefnu a chyfathrebu rhagorol, sydd â llygad craff a’r gallu i weithio ar y cyd yn rhan o dîm prysur. Bydd y rôl hon yn gweithio ar draws pob agwedd ar daith y myfyrwyr, gan ddarparu cymorth arbenigol ar gyfer derbyniadau, cofnodion myfyrwyr, byrddau arholi, rheoliadau academaidd, amgylchiadau esgusodol ac asesiadau. Yn ogystal â darparu cymorth rheng flaen i fyfyrwyr, bydd deiliad y swydd yn gweithio law yn llaw â Chyfarwyddwr y Rhaglen, Goruchwylwyr Addysg, a Staff Cymorth Addysg y Gwasanaethau Proffesiynol.
Dyma gyfle i adeiladu ar eich profiad gweinyddol presennol - p'un ai a gafwyd ym myd addysg, gofal iechyd, y sector cyhoeddus, neu leoliad proffesiynol arall. Nid oes angen i chi fod wedi gweithio mewn prifysgol o'r blaen; yr hyn sydd fwyaf pwysig yw eich brwdfrydedd am gefnogi myfyrwyr, eich sgiliau trosglwyddadwy, a'ch parodrwydd i ddatblygu. Bydd deiliad y swydd yn gweithio ar y campws ac yn uniongyrchol â myfyrwyr, felly byddwch yn rhan allweddol o dîm prysur, gan helpu i ddarparu profiad o ansawdd uchel i ddysgwyr ôl-raddedig.
Cysylltwch â Kate Francis, Cyfarwyddwr y Rhaglen, ([email protected]) i gael trafodaeth anffurfiol, gyfrinachol am y rôl.
Swydd ran-amser (28 awr yr wythnos) yw hon, sydd ar gael ar unwaith ac am gyfnod penodol tan 31 Mawrth 2028.
Cyflog: £28,031 - £31,236 y flwyddyn, pro-rata (Gradd 4)
Mae unigolion a benodir i swyddi ym Mhrifysgol Caerdydd yn dechrau ar waelod y raddfa gyflog, ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol.
Dyddiad cau: Dydd Mawrth, 14 Hydref 2025
Nid yw ceisiadau allanol yn cael eu hystyried ar gyfer y swydd hon ar hyn o bryd. Os penderfynir agor y swydd i ymgeiswyr allanol, bydd yr isbennawd ar y brig yn cael ei thynnu a rhoddir digon o amser i chi wneud cais - cadwch olwg ar y dudalen am fanylion.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Er mwyn galluogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywyd personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu’r swydd neu weithio’n hyblyg.
Mae modd cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg, ac ni chaiff cais a gyflwynir yn Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Disgrifiad Swydd
PRIF DDYLETSWYDDAU A CHYFRIFOLDEBAU
- Cysylltu â Chyfarwyddwr y Rhaglen i gynllunio, blaenoriaethu a threfnu'r gwaith a'r adnoddau sydd eu hangen ar gyfer cyflwyno'r rhaglen Hyfforddiant Sylfaen Ôl-gofrestru.
- Darparu cyngor ac arweiniad manwl ar brosesau a gweithdrefnau gweinyddol ôl-raddedig a addysgir i gwsmeriaid mewnol ac allanol (staff, myfyrwyr neu aelodau'r cyhoedd), gan ddefnyddio crebwyll a chreadigrwydd i awgrymu'r camau gweithredu mwyaf priodol, a chyfrannu at ddatrys materion mwy cymhleth.
- Gweithio gydag eraill i wneud argymhellion ar gyfer gwella ein ffyrdd o weithio.
- Meithrin perthynas gynhyrchiol ag unigolion allweddol (cydweithwyr yn y Brifysgol a phwyntiau cyswllt allanol) i helpu i wella’r gwasanaeth y mae'r tîm yn ei ddarparu ar gyfer ei gwsmeriaid
- Cyflawni amrywiaeth o ddyletswyddau gweinyddol i helpu'r tîm a'r adran i gyflawni eu hamcanion
- Casglu a dadansoddi data (e.e. yn ymwneud â gwasanaethau i fyfyrwyr ôl-raddedig a addysgir) fel y gellir gwneud penderfyniadau gwybodus, sefydlu tueddiadau a phatrymau sylfaenol yn y data a darparu adroddiadau ac argymhellion ar gyfer rheolwyr.
- Cyfarwyddo ac arwain cydweithwyr ym mhob rhan o’r Brifysgol ar weinyddu ôl-raddedig a addysgir yn ôl yr angen.
- Cadw at holl bolisïau'r Brifysgol a datblygu’n bersonol ac yn broffesiynol mewn ffordd briodol.
- Cyflawni dyletswyddau eraill nad ydynt wedi’u nodi uchod ond sy’n cyd-fynd â gofynion y swydd.
- Arddel Gwerthoedd ac Ymddygiadau’r Gwasanaethau Proffesiynol neu’r hyn sy’n cyfateb iddynt yn lleol.
Uchafswm y Cyflog
Gradd
Isafswm y Cyflog
Categori Swyddi
Gwybodaeth Ychwanegol
Rydym am eich cefnogi a'ch datblygu yn y swydd. Felly, byddwn yn defnyddio cyfuniad o'r canlynol i'ch helpu i wireddu eich llawn botensial:
- Cyfarfodydd un-i-un rheolaidd gydag arweinydd eich tîm.
- Tîm profiadol a chefnogol o'ch cwmpas.
- Cymorth i hyfforddi a datblygu mewn ffordd sy’n berthnasol i'r swydd, fel y nodir gan eich rheolwr llinell
- Cynllun mentora staff
- Cymorth i ddysgu Cymraeg neu loywi eich sgiliau iaith.
Llwybr Gyrfa
Manyleb Unigolyn
Rydym yn dymuno cyflogi pobl sydd ag ystod eang o brofiadau. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Rydym yn arbennig o awyddus i gael ceisiadau gan bobl o gefndiroedd nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol yn y Brifysgol, gan gynnwys pobl o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn chwaraewr tîm cryf a fydd yn gweithio gyda chydweithwyr i ddarparu gwasanaeth gwych i staff y Ganolfan a'i phartneriaid (mewnol, allanol). Nid oes rhaid eich bod wedi gweithio mewn prifysgol o'r blaen; dyma gyfle i ddangos eich potensial a dechrau neu barhau â'ch gyrfa ym Mhrifysgol Caerdydd.
Gall y rôl hon fod yn gyfle i chi adeiladu ar eich profiad o weithio mewn rôl neu amgylchedd gweinyddol blaenorol gyda diddordeb arbennig yn y Ganolfan a maes gweinyddu ymchwil, gan ddangos eich sgiliau trosglwyddadwy a'ch gallu i fod yn llwyddiannus yn y rôl. Dylech fod yn frwd dros ddatblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau i fod yn aelod gwerthfawr o'r tîm.
Bydd eich cais yn cael ei asesu’n unol â’r meini prawf hanfodol a dymunol canlynol ar gyfer y swydd. Ar ôl copïo’r meini prawf a’u gludo i mewn i ddogfen newydd, rhowch enghreifftiau clir sy’n dangos sut rydych yn bodloni pob un ohonynt, a hynny drwy ysgrifennu o dan bob un. Cewch gyfeirio at elfennau o unrhyw agwedd ar eich bywyd (e.e. gwaith, cartref, addysg/cymwysterau neu fywyd cymunedol), cyn belled â'ch bod yn canolbwyntio ar eu perthnasedd i'r swydd.
Meini Prawf Hanfodol
- Y gallu i gyfathrebu'n ysgrifenedig yn glir, yn gryno, ac yn effeithiol i ddarparu cyngor ac arweiniad manwl ar brosesau gweinyddol myfyrwyr mewn perthynas â'r rhaglenni astudio ôl-raddedig a addysgir.
- Tystiolaeth o sgiliau rhifedd a llythrennedd cyfrifiadurol da
- Profiad o weithio mewn swydd neu amgylchedd gweinyddol a’r gallu i sefydlu systemau a gweithdrefnau swyddfa safonol, gan wella’r rhain fel sy’n briodol
- Y gallu i gyfleu gwybodaeth arbenigol a chymhleth yn effeithiol ac yn broffesiynol i ystod o gwsmeriaid sydd â lefelau amrywiol o ddealltwriaeth.
- Y gallu i gynghori a dylanwadu ar randdeiliaid allweddol yn eich maes gwaith.
- Y gallu i ymchwilio i anghenion cwsmeriaid ac addasu’r gwasanaeth yn unol â hynny er mwyn sicrhau bod gwasanaeth o safon yn cael ei ddarparu.
- Y gallu i gymryd y cam cyntaf a bod yn greadigol er mwyn datrys problemau, ymateb i ymholiadau a gwneud argymhellion, gan ddod o hyd i atebion ymarferol a’u cynnig.
- Y gallu i weithio heb oruchwyliaeth a chyflwyno gwaith mewn pryd, gan gynllunio, gosod a monitro eich blaenoriaethau chi a rhai’r tîm.
- Profiad o weithio mewn swydd neu amgylchedd tebyg (e.e. addysg uwch)
- Y gallu i siarad/deall Cymraeg, neu barodrwydd i ddysgu’r iaith