Platzhalter Bild

Lecturer - Teaching and Scholarship na Cardiff University

Cardiff University · Cardiff, Reino Unido · Onsite

£ 41.064,00  -  £ 46.049,00

Candidatar-se agora

Hysbyseb

Darlithydd - Addysgu ac Ysgolheictod

Mae'r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth eisiau penodi academydd dawnus a llawn cymhelliant i helpu’r Ysgol i gynllunio’r ddarpariaeth ôl-raddedig a addysgir (MSc) a’i chyflwyno.

Mae'r Ysgol yn cynnig chwe rhaglen ôl-raddedig a addysgir o fri rhyngwladol, sy'n ymdrin ag amryw o bynciau ym meysydd ffiseg ac astroffiseg. Mae ein rhaglenni MSc Ffiseg ac MSc Astroffiseg yn cael eu hategu gan ein cynigion gradd mwy arbenigol megis yr MSc Ffiseg Ddwys Data-ddwys ac MSc Astroffiseg Data-ddwys (a gynhelir yn rhannol gan yr Ysgol Cyfrifiadureg), MSc Ffiseg Tonnau Disgyrchol, a’r MSc Ffiseg Lled-ddargludyddion Cyfansawdd.

Mae ein poblogaeth o fyfyrwyr ôl-raddedig yn mynd o nerth i nerth bob blwyddyn, ac mae ganddi broffil rhyngwladol cryf. Bydd hyn yn ein gosod mewn sefyllfa academaidd gryf i allu parhau ag ehangu ein darpariaeth addysgu ôl-raddedig, yn ogystal ag addasu'n ddeinamig i'r maes pwnc sy'n newid yn barhaus, wrth inni ddarparu profiad addysgol rhagorol i'n myfyrwyr.

Bydd gofyn i ddeiliad y swydd gael gradd ddoethuriaeth ym maes Ffiseg, Astroffiseg, neu faes pwnc cysylltiedig arall o brifysgol flaenllaw, neu brofiad cyfatebol yn y diwydiant neu brofiad diwydiannol cyfatebol. Bydd gofyn i chi fod yn gyfathrebwr ac athro rhagorol, gyda’r gallu i gynllunio ac addysgu yn effeithiol ar lefel brifysgol.

Dylai ceisiadau gynnwys llythyr eglurhaol, CV, a datganiadau ategol sy’n crybwyll eich athroniaeth a'ch profiad addysgu, gan ddangos yn glir sut yr ydych yn bodloni’r meini prawf hanfodol.

Mae'r penodiad yn llawn amser, ar gael ar unwaith ac yn gyfnod penodol am un flwyddyn.

Cyflog:   £41,064 i £46,049 y flwyddyn (Gradd 6)

I gael rhagor o wybodaeth am y swydd hon, cysylltwch â Dr Amy Morreau ([email protected]) neu'r Athro Paul Roche ([email protected]).

I gael rhagor o wybodaeth am weithio ym Mhrifysgol Caerdydd, cysylltwch â [email protected].

PWYSIG: Tystiolaeth o Fodloni'r Meini Prawf

Dylai ymgeiswyr ddangos tystiolaeth o fodloni'r HOLL feini prawf hanfodol, yn ogystal â'r meini prawf dymunol lle bo'n berthnasol.

Yn rhan o’r broses ymgeisio, bydd gofyn i chi roi’r dystiolaeth hon ar ffurf datganiad ategol. Wrth gyflwyno'r ddogfen hon neu ei hatodi i broffil eich cais, dylech sicrhau mai cyfeirnod y swydd yw enw’r ddogfen, sef 20856BR yn yr achos hwn. 

Dyddiad hysbysebu: Dydd Iau, 25 Medi 2025

Dyddiad cau: Dydd Iau, 9 Hydref 2025

Mae Prifysgol Caerdydd a'r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth. Mae ein hamgylchedd cynhwysol yn croesawu ceisiadau gan bobl ddawnus o gefndiroedd amrywiol. Rydym ni’n croesawu ymgeiswyr benywaidd ac ymgeiswyr o grwpiau lleiafrif ethnig yn arbennig, gan eu bod heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein Hysgol. Mae gan yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth achrediad Ymarferydd Juno sy'n cydnabod arfer cyflogi da ac ymrwymiad i ddatblygu gyrfaoedd menywod sy’n gweithio yn y gwyddorau. Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn cynnal amgylchedd gweithio cadarnhaol lle gall pob aelod o staff ffynnu a chyflawni. Yn rhan o'r ymrwymiad hwn, mae’r Brifysgol wedi datblygu fframwaith hyblyg ac ymatebol o weithdrefnau i gynorthwyo'r staff i reoli eu gwaith a’u hymrwymiadau personol lle bynnag y bo modd. Croesewir ceisiadau gan unigolion sy'n dymuno gweithio'n rhan-amser neu'n amser llawn.
 
Mae Prifysgol Caerdydd wedi llofnodi Datganiad San Francisco ar Asesu Ymchwil (DORA), sy'n golygu y byddwn, wrth wneud penderfyniadau i gyflogi a dyrchafu, yn gwerthuso ymgeiswyr ar sail safon eu hymchwil, ac nid ar sail metrigau cyhoeddi na'r cyfnodolyn y mae'r ymchwil wedi’i chyhoeddi ynddo. Cewch ragor o wybodaeth yma: Asesu ymchwil yn gyfrifol - Ymchwil - Prifysgol Caerdydd 

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Disgrifiad Swydd

Prif Swyddogaeth

Ymgymryd â llwyth addysgu llawn, gan gynnwys datblygu, cyflwyno a gwerthuso modiwlau/rhaglenni yn rhan o ddarpariaeth addysgu ôl-raddedig (MSc) a chynllun gradd israddedig yr Ysgol.  Goruchwylio myfyrwyr a chyflawni dyletswyddau gweinyddol yn y maes gwaith yn ôl yr angen. Ceisio cyflawni rhagoriaeth mewn addysgu ac ysbrydoli pobl eraill i wneud yr un fath.

Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau

Addysgu
  • Dylunio a chyflwyno rhaglenni addysgu ar gyfer cyrsiau, a chyfrannu at lunio modiwlau yn rhan o dîm sy’n datblygu modiwlau
  • •Ysbrydoli myfyrwyr israddedig ac ôl-graddedig dan arweiniad mentora / arweinydd modiwl a datblygu sgiliau mewn dulliau asesu a chynnig adborth adeiladol i fyfyrwyr.
  • Goruchwylio gwaith myfyrwyr gan gynnwys goruchwylio myfyrwyr Tal neu Meistr a chyd-goruchwylio PGR.
  • Darparu gofal bugeiliol drwy weithredu fel Tiwtoriaid Personol a darparu cymorth a chyfarwyddyd i fyfyrwyr, gan adeiladu a sefydlu ymddiriedaeth.
Ysgoloriaeth
  • Cyfrannu at ysgolheictod yn y maes gwaith drwy gymryd rhan mewn cynadleddau, seminarau a fforymau academaidd a phroffesiynol eraill i rannu canlyniadau ysgolheictod unigol 
  • Ymgysylltu â gweithgarwch ysgolheigaidd drwy ysgrifennu erthyglau mewn cyfnodolion a/neu roi allbwn sy’n ehangu gwybodaeth yn y maes gwaith hwn
  • Cyfrannu at ysgolheictod drwy waith rhyngddisgyblaethol gydag unigolion a thimau yng nghymuned ehangach y Brifysgol a thu hwnt
  • Cynnal mathau eraill o ysgolheictod gan gynnwys gwaith sy’n gysylltiedig ag arholiadau (gosod a marcio papurau a chynnig adborth adeiladol i fyfyrwyr), gweinyddu a chymryd rhan mewn gwaith pwyllgor
Arall
  • Cydweithio’n effeithiol â chyrff diwydiannol, masnachol a chyhoeddus, sefydliadau proffesiynol, sefydliadau academaidd eraill, ac ati. Bydd angen gwneud hyn yn rhanbarthol ac yn genedlaethol i godi proffil yr Ysgol i feithrin partneriaethau strategol gwerthfawr, ac i chwilio am gyfleoedd i gydweithio ar draws amrywiaeth o weithgareddau. Bydd disgwyl i’r gweithgareddau hyn gyfrannu at yr Ysgol a gwella ei phroffil rhanbarthol a chenedlaethol.
  • Datblygu’n bersonol ac yn broffesiynol mewn ffyrdd addas fydd yn gwella eich perfformiad yn Ddarlithydd
  • Mentora cydweithwyr llai profiadol a rhoi cyngor ynglŷn â datblygiad personol
  • • Cymryd rhan yn y weinyddiaeth a'r gweithgareddau ysgol i hyrwyddo'r Ysgol a'i gwaith i'r prifysgol ehangach a'r byd tu allan.
  • Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill nad ydynt wedi’u nodi uchod ond sy’n cyd-fynd â gofynion y swydd

Uchafswm y Cyflog

46,049

Gradd

Gradd 6

Isafswm y Cyflog

41,064

Categori Swyddi

Academaidd- Addysgu ac Ysgolheictod

Llwybr Gyrfa

Addysgu ac Ysgolheictod

Manyleb Unigolyn

Meini Prawf Hanfodol

Cymwysterau ac Addysg
  1. Gradd ôl-raddedig ar lefel PhD mewn pwnc cysylltiedig neu brofiad diwydiannol perthnasol.

Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad
  1. Profiad o addysgu ar lefel israddedig/ôl-raddedig.
  2. Dangos gwybodaeth arbenigol a datblygiadau cyfredol mewn maes pwnc academaidd.
  3. Gallu dylunio, cyflwyno a datblygu modiwlau’n barhaus ar draws rhaglenni addysgu’r Ysgol.

Sgiliau Bugeiliol, Cyfathrebu a Gweithio Mewn Tîm.
  1. Sgiliau cyfathrebu rhagorol a’r gallu i gyflwyno syniadau cymhleth a chysyniadol yn eglur ac yn hyderus i eraill drwy ddefnyddio sgiliau o’r radd flaenaf ac amrywiaeth o gyfryngau
  2. Gallu cynnig cefnogaeth fugeiliol briodol i fyfyrwyr, gwerthfawrogi anghenion ac amgylchiadau myfyrwyr unigol, a bod yn diwtor personol iddynt.

Arall
  1. Gallu diamheuol i fod yn greadigol, yn arloesol a gweithio’n rhan o dîm yn y gwaith
Meini Prawf Dymunol
  1. Cymhwyster/cymwysterau proffesiynol perthnasol.
  2. Tystiolaeth eich bod wedi cydweithio â byd diwydiant.
  3. Gallu diamheuol i weithio heb oruchwyliaeth agos
  4.  Tystiolaeth o’r gallu i addasu i ofynion newidiol y gymuned Addysg Uwch.
  5. Tystiolaeth o’r gallu i gyfrannu at rwydweithiau mewnol ac allanol, eu datblygu a’u defnyddio i wella gweithgareddau addysgu ac ymchwil yr Ysgol.
  6. Parodrwydd i ysgwyddo cyfrifoldeb dros waith gweinyddol academaidd.
  7. 7. Byddai'r gallu i siarad Cymraeg yn fanteision.
Candidatar-se agora

Outros empregos