Platzhalter Bild

Hybrid Internal Applicants Only - Research Assistant, CASCADE na Cardiff University

Cardiff University · Cardiff, Reino Unido · Hybrid

£33,482.00  -  £36,130.00

Candidatar-se agora

Hysbyseb

Mae'r swydd hon ar agor i weithwyr Prifysgol Caerdydd yn unig ar hyn o bryd.  Peidiwch ymgeisio os nad oes ganddoch gytundeb cyflogaeth ddilys gyda’r brifysgol.
 
Ymgeiswyr Mewnol yn Unig- Cynorthwyydd Ymchwil, CASCADE

Mae Ysgol Gwyddorau Cymdeithas Prifysgol Caerdydd yn ceisio recriwtio  Cynorthwy-ydd Ymchwil i weithio yn y Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant (CASCADE), Canolfan Ymchwil sydd wedi'i lleoli yn yr Ysgol

Yn y rôl hon bydd y Cynorthwy-ydd Ymchwil yn Cyfrannu at ymchwil ym maes gofal cymdeithasol plant a defnydd o alcohol gan rieni. Bydd y dyletswyddau'n cynnwys cynnal adolygiad cyflym o lenyddiaeth, paratoi a dadansoddi setiau data gweinyddol sydd wedi'u cadw o fewn Banc Data SAIL, a thasgau gweinyddol.

Mae'r swydd hon yn rhan-amser, 60% (21 oriau yr wythnos), yn gyfnod sefydlog tan 31 Gorffennaf 2027 ac mae ar gael yn syth.

Cyflog: £33,482 - £36,130 y flwyddyn, pro-rata (Gradd 5), gyda gynyddrannau blynyddol hyd at cyflog terfynol ar frig y raddfa. Fel arfer, mae apwyntiadau newydd yn cael eu gwneud ar ddechrau'r raddfa gyflog.

Yn gyfrifol am Athro Donald Forrester, Cyfarwyddwr canolfan CASCADE

Am drafodaeth anffurfiol am y rôl, cysylltwch â Donald [email protected] ffôn +44 29206 88724

Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig llawer o fanteision rhagorol, gan gynnwys 45 diwrnod o wyliau blynyddol, pro rata i weithwyr rhan amser (gan gynnwys gwyliau banc)  gweithio cyfunol (sy'n golygu y byddwch yn gallu gweithio gartref am beth o'ch amser), cynllun beicio i'r gwaith a mentrau teithio eraill, cynyddiadau blynyddol i fyny'r raddfa gyflog, a mwy. Mae'n lle cyffrous a bywiog i weithio, gyda llawer o heriau gwahanol ac mae'n gefnogwr Cyflog Byw balch.
 
Ni yw’r brifysgol fwyaf yng Nghymru – ac rydym yn gyflogwr o bwys, sydd â thros 7,000 o staff. Rydym yn sefydliad uchelgeisiol ac arloesol mewn prifddinas hardd a llewyrchus. Gallwn gynnig cyfle i chi weithio mewn sefydliad bywiog sy’n cynnig buddion gwych a chyfleoedd i chi ddatblygu eich gyrfa.

Dyddiad cau: 3 Medi 2025
 
Nid yw ceisiadau allanol yn cael eu hystyried ar gyfer y swydd hon ar hyn o bryd.  Os penderfynir agor y swydd i ymgeiswyr allanol, bydd yr isbennawd ar y brig yn cael ei thynnu a rhoddir digon o amser i chi wneud cais - cadwch olwg ar y dudalen am fanylion.

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir gwneud hynny drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o wahanol gefndiroedd.  Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned beth bynnag fo’u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oed.  Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Mae Prifysgol Caerdydd wedi llofnodi Datganiad ar Asesu Ymchwil (DORA) San Francisco, sy'n golygu y byddwn, wrth wneud penderfyniadau cyflogi a dyrchafu, yn gwerthuso ymgeiswyr ar sail safon eu hymchwil, nid ar sail metrigau cyhoeddi na'r cyfnodolyn y mae'r ymchwil wedi’i chyhoeddi ynddo. Ceir rhagor o wybodaeth yma:  Asesu ymchwil yn gyfrifol - Ymchwil - Prifysgol Caerdydd

Disgrifiad Swydd

  • I ymgymryd ag ymchwil, e.e. drwy adolygu llenyddiaeth, paratoi data, dadansoddi data, ysgrifennu canfyddiadau. 
  • Bod yn weithgar yn y tîm ymchwil drwy gyfleu a chyflwyno ymchwil mewn cyfarfodydd, mewn cyhoeddiadau ac mewn ffyrdd priodol eraill fel y bo’n briodol, gan sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei chyfleu’n effeithiol i bartneriaid mewnol ac allanol.
  • I gefnogi gweithgareddau cynnwys y cyhoedd.
  • Cyfrannu at gyflwyniadau a chyhoeddiadau ymchwil a chefnogi’r rhain yn ôl y gofyn.
  • Cyfrannu at geisiadau am gyllid ymchwil a chefnogi’r rhain yn ôl y gofyn.
  • Dadansoddi a chyfleu syniadau, cysyniadau a data cymhleth gan ddefnyddio dulliau a phecynnau priodol.
  • Sicrhau cynnyrch ymchwil a chyfrannu at ddatblygu syniadau annibynnol a gwreiddiol fel y bo'n briodol
  • Datrys problemau a helpu cydweithwyr i ddatblygu’r gweithdrefnau sydd eu hangen i gyflwyno adroddiadau cywir ac amserol.
  • Cefnogi gweithgareddau ymchwil a rhoi arweiniad i aelodau eraill o staff yn y tîm ymchwil
  • Cynnal a diweddaru eich gwybodaeth arbenigol, gan ymchwilio i lenyddiaeth berthnasol yn y maes a’i hadolygu’n feirniadol.
Arall
  • Cymryd rhan yng ngweinyddiaeth a gweithgareddau'r Ysgol er mwyn hyrwyddo'r Ysgol a'i gwaith ledled y Brifysgol a thu hwnt
  • Datblygu’n bersonol ac yn broffesiynol mewn modd priodol a fydd yn gwella perfformiad.
  • Sicrhau eich bod yn defnyddio eich dealltwriaeth o bwysigrwydd cyfrinachedd wrth gyflawni pob un o’ch dyletswyddau.
  • Cydymffurfio â pholisïau’r Brifysgol ar iechyd a diogelwch a chydraddoldeb ac amrywiaeth.
  • Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill nad ydynt wedi’u nodi uchod ond sy'n cyd-fynd â gofynion y swydd.

Uchafswm y Cyflog

36,130

Gradd

Gradd 5

Isafswm y Cyflog

33,482

Categori Swyddi

Academaidd- Ymchwil

Gwybodaeth Ychwanegol

Canolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant (CASCADE)

CASCADE yw'r ganolfan flaenllaw ar gyfer ymchwil gwerthuso ym maes gofal cymdeithasol plant yn y DU. Mae hefyd yn ganolfan ragoriaeth flaenllaw ym maes y gwyddorau cymdeithasol ac ymchwil addysg. Dyma'r unig ganolfan o'i math yng Nghymru, sy’n hyrwyddo tystiolaeth ac yn gwella canlyniadau i blant a theuluoedd. Mae’n ymwneud â phob agwedd ar ymatebion cymunedol i anghenion cymdeithasol plant a theuluoedd megis gwasanaethau cymorth i deuluoedd, gwasanaethau i blant anghenus, amddiffyn plant, plant o dan ofal a mabwysiadu. Ei nod pennaf yw gwella lles a diogelwch plant a'u teuluoedd trwy:
  • Creu tystiolaeth ymchwil sylfaenol o safon a gydnabyddir yn rhyngwladol.
  • Peri bod canlyniadau'r ymchwil hon, ac ymchwil gan eraill, ar ffurf hygyrch i blant a theuluoedd sy'n derbyn gwasanaethau gofal cymdeithasol, gweithwyr proffesiynol a llunwyr polisïau.
  • Datblygu capasiti ymchwil ar ofal cymdeithasol drwy gynnig cyfleoedd i ymchwilwyr, boed yn fyfyrwyr israddedig neu’n ymchwilwyr hŷn.
  • Ymgysylltu ag ystod o randdeiliaid ymchwil, gan gynnwys plant a phobl ifanc, rhieni a gofalwyr, ymarferwyr, llunwyr polisïau a darparwyr gofal cymdeithasol yn y sector gyhoeddus, breifat a'r trydydd sector.
Mae CASCADE yn cefnogi ac yn datblygu pobl drwy gydol eu gyrfaoedd, gan gynnwys arwain y genhedlaeth nesaf o arweinwyr ymchwil. Mae’n cynnwys y rhai sydd â phrofiad o dderbyn gwasanaethau yn ein holl waith mewn ffyrdd sy’n darparu canlyniadau, ac mae’n ymgysylltu â'r sector drwy ymdrechion parhaus ac ystyrlon i ddeall a defnyddio gwybodaeth ymchwil. Gwneir hyn nid yn unig trwy ein gwaith ymchwil, ond hefyd yn ymarferol drwy rannu gwybodaeth, cynnal hyfforddiant ac ymgysylltu â'r cyhoedd drwy ein prosiectau 'ExChange' a thîm cynnwys y cyhoedd, 'Lleisiau CASCADE' (CASCADE Voices.)

Mae CASCADE yn rhan o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd. Mae'r Ysgol yn ganolfan addysgu ac ymchwil ryngddisgyblaethol. A chanddi gysylltiadau cryf â’r diwydiant a maes meddygaeth, ei nod yw arwain trafodaethau cyhoeddus a thrafodaethau ynghylch pholisïau drwy’r byd, ledled y wlad ac yn lleol, ac mae’n enwog am ei hysgolheictod arloesol ym maes y gwyddorau cymdeithasol a thu hwnt. Mae rhagor o fanylion am weithgareddau’r Ysgol ar ein tudalen hafan:  https://www.cardiff.ac.uk/cy/social-sciences.
 

Llwybr Gyrfa

Ymchwil

Manyleb Unigolyn

Meini Prawf Hanfodol
  1. Gradd mewn disgyblaeth berthnasol (ee gwyddor gymdeithasol, gwaith cymdeithasol, polisi cymdeithasol), neu brofiad cyfatebol
  2. Gwybodaeth a phrofiad o ddulliau a thechnegau ymchwil meintiol
  3. Profiad o ddefnyddio pecynnau meddalwedd ystadegol megis STATA, R, neu eraill
  4. Gwybodaeth a dealltwriaeth o gyllid ymchwil cystadleuol er mwyn gallu paratoi ceisiadau i’w cyflwyno i gyrff cyllido
  5. Y gallu diamheuol i ddadansoddi gwybodaeth gymhleth a chrynhoi'n briodol
  6. Sgiliau cyfathrebu diamheuol, gan gynnwys y gallu i gyflwyno i gynulleidfaoedd gwahanol
  7. Sgiliau trefnu a gwaith tîm ardderchog
  8. Gallu diamheuol i fod yn greadigol ac yn arloesol a gweithio’n rhan o dîm yn y gwait 
Meini Prawf Dymunol
  • Gradd ôl-raddedig ar lefel PhD mewn maes cysylltiedig (gallwch fod yn agosáu at orffen eich rhaglen/cyflwyno eich gwaith terfynol), neu brofiad diwydiannol perthnasol.
  • Profiad o ddefnyddio setiau data gweinyddol (e.e. Banc Data SAIL)
  • Tystiolaeth o gydweithio â byd diwydiant.
  • Gallu amlwg i weithio heb oruchwyliaeth agos.
  •  Y gallu diamheuol i addasu i ofynion newidiol byd Addysg Uwch.
PWYSIG: Tystiolaeth o'r Meini Prawf
Polisi Prifysgol Caerdydd yw defnyddio manyleb yr unigolyn fel offeryn allweddol wrth ddethol pobl ar gyfer y rhestr fer. Felly, mae’n rhaid i ymgeiswyr ddangos tystiolaeth eu bod yn bodloni'r HOLL feini prawf hanfodol, a'r meini prawf dymunol, lle bo'n berthnasol.

Yn rhan o'ch cais, gofynnir i chi ddarparu'r dystiolaeth hon drwy ddatganiad ategol. Gwnewch yn siŵr bod eich tystiolaeth yn cyfateb i'r meini prawf a amlinellir ym manyleb yr unigolyn. Ystyrir eich cais ar sail yr wybodaeth a roddwch ar gyfer pob maen prawf.

Wrth atodi’r datganiad ategol i broffil eich cais, cofiwch roi cyfeirnod y swydd wag yn nheitl y ddogfen: 20637BR.

Bydd eich cais mewn perygl o beidio â chael ei ddatblygu os nad ydych yn dangos tystiolaeth eich bod wedi bodloni'r holl feini prawf hanfodol. Mae'r ysgol yn croesawu cyflwyno CV i gyd-fynd â'r dystiolaeth ar gyfer meini prawf y swydd.
 
Candidatar-se agora

Outros empregos